Rheoli ein heffaith ar yr amgylchedd
Ein dulliau ni o reoli’r amgylchedd
Ein pwrpas yw gofalu bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal, eu gwella a’u defnyddio mewn ffordd gynaliadwy, heddiw ac yn y dyfodol.
Rydyn ni am i’r ffordd rydyn ni’n rheoli effaith ein sefydliad ar yr amgylchedd fod yn esiampl i eraill yng Nghymru. Byddwn yn:
- lleihau’r carbon deuocsid a’r nwyon tŷ gwydr eraill sy’n mynd i’r amgylchedd o ganlyniad i’n gweithgareddau
- defnyddio llai o ynni yn ein swyddfeydd a’n hadeiladau
- defnyddio llai o ddŵr
- defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon yn ein prosesau
- anfon llai o wastraff i safleoedd tirlenwi
- teithio llai o filltiroedd mewn ceir
- ystyried ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn ein gwaith caffael
Mae ein Datganiad Polisi Amgylcheddol yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad amgylcheddol.
Llwyddasom i wella ein perfformiad amgylcheddol yn barhaus yn 2018/19
Llwyddasom i ddal ein gafael ar y safon rheoli amgylcheddol IS014001:2015 yn dilyn archwiliadau a gwiriadau annibynnol allanol.
Llwyddasom i ddal ein gafael ar yr ardystiad coetiroedd (Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig) ar gyfer Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a reolir gennym, yn dilyn archwiliadau a gwiriadau annibynnol allanol. Mae hyn yn ein galluogi i gynhyrchu pren ag ardystiad Forest Stewardship Council® FSC®/PEFC ar yr ystâd. Ein côd trwyddedu yw FSC - C115912.
Gwelwyd lleihad o 6.3% yn yr allyriadau o’n hadeiladau a’n teithiau busnes, sy’n rhagori ar ein targed o 5%.
Gwelwyd lleihad o 4.5%yn y defnydd o drydan prif gyflenwad
- Cynyddodd yr ynni a gynhyrchir o adnoddau adnewyddol (Paneli PV) o 71,806 kWh i 110,598 kWh
Cafwyd gostyngiad o 0.8% mewn allyriadau carbon teithiau busnes oherwydd cynnydd milltiredd a cerbydau trydan, cerbydau â bathodynnau carbon isel a theithiau trên
Mae rhagor o wybodaeth yn ein hadroddiad blynyddol System Rheoli’r Amgylchedd a’n Amcanion Amgylcheddol 2019-22.