Rhyddhawyd yr ymatebion hyn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a/neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Dylid nodi nad yw'r cofnod datgeliadau yn rhestru popeth a ryddhawyd o dan y Ddeddfwriaeth Mynediad at Wybodaeth.
Mae'r meini prawf ar gyfer datgelu ymatebion yn cynnwys:
- Budd sylweddol y cyhoedd
- Dangos gweithdrefnau mewnol
- Dangos sut mae arian cyhoeddus wedi cael ei wario neu wybodaeth am adnoddau
Mae rhai ymatebion/dogfennau ategol yn swmpus iawn neu nid ydynt ar gael mewn fformat electronig. Lle y bo'n ymarferol, rydym wedi sganio'r dogfennau dan sylw ac wedi eu cyhoeddi ar-lein drwy ein gwefan.
Mae'r cofnod hwn yn rhestru'r holl geisiadau pwysig am wybodaeth
Mae'r holl wybodaeth bersonol, am y sawl a wnaeth y cais ac o fewn y cais, wedi'i dileu er mwyn diogelu preifatrwydd.
Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae maint y ffeiliau yn golygu bod hyn yn anymarferol ac rydym yn barod i ddarparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani mewn fformat copi caled ar gais. I gael gwybodaeth am sut i gael gafael ar unrhyw ddeunydd o'r fath, cysylltwch ag: accesstoinformationteam@naturalresourceswales.gov.uk
I ofyn am gopïau o'n llythyrau ymateb, ysgrifennwch at atiteam@naturalresourceswales.gov.uk gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod ATI
Datgeliadau (Ymatebion cyflawn, ymatebion a olygwyd a manylion gwybodaeth nad yw ar gael) ar gyfer ceisiadau a gwblhawyd ym mis Gorffennaf 2016.
Cyfeirnod ATI | Crynodeb o'r cais | Deddfwriaeth | Gwybodaeth a Ryddhawyd |
---|---|---|---|
ATI-10704a | Tystiolaeth o bïod y môr yn bwyta cocos a gwybodaeth am y model bwyd adar | EIR (2004) | Gyrrwyd ymateb cyflawn |
ATI-10750a | Gwybodaeth am ollyngiad olew crai ar safle Parc Hawtin | EIR (2004) | Gwybodaeth ddim gan CNC |
ATI-10644a | Adroddiadau ymchwiliad cysylltiedig â'r safle tirlenwi caeedig a safleoedd compostio yn Abbey View, Dolgarrog | EIR (2004) | Gwrthodwyd yn rhannol - Gyrrwyd gwybodaeth yn rhannol EIR 12.4(a) Nid yw'r wybodaeth gennym |
ATI-10645a | Rhestr o safleoedd â thrwyddedau ymbelydredd gweithredol ar gyfer Cymru gyfan | EIR (2004) | Gwrthodwyd yn rhannol - Gyrrwyd gwybodaeth yn rhannol EIR 12.4(a) Nid yw'r wybodaeth gennym EIR 12.5(a) Cysylltiadau rhyngwladol, amddiffyn, diogelwch cenedlaethol, diogelwch y cyhoedd |
ATI-10646a | Gwybodaeth am ffesantod a saethwyd ar dir CNC yn 2015 a'r 6 mis diwethaf | EIR (2004) | Gyrrwyd ymateb cyflawn |
ATI-10579a | Gwybodaeth am wasgaru a storio gwastraff perfeddion lladd-dŷ yn Sir Benfro | EIR (2004) | Nid yw'r wybodaeth gan NRWEIR 12.4(a) Nid yw'r wybodaeth gennym |
ATI-10603a | Unrhyw ddogfennau, gohebiaeth, e-byst, cofnodion neu wahoddiadau cysylltiedig â'r broses dendro, gan gynnwys yr hyn sydd eisoes wedi ei dendro, ar gyfer safleoedd ar stad CNC sy'n cael ei osod ar les ar gyfer saethu adar gêm | EIR (2004) | Gwrthodwyd yn rhannol - Anfonwyd yr wybodaeth yn rhannol EIR 12.4(a) Nid yw'r wybodaeth gennym |
ATI-10438a | Gohebiaeth a data cysylltiedig â'r Barcud (Milvus Milvus) | EIR (2004) | Gwrthodwyd yn rhannol - Anfonwyd yr wybodaeth yn rhannol EIR 12.4(a) Nid yw'r wybodaeth gennym |
ATI-10556a | Gwybodaeth cysylltiedig â gored sy'n cael ei hadeiladu ar Afon Fyrnwy | EIR (2004) | Gyrrwyd ymateb cyflawn |
ATI-10590a | Gwybodaeth am asesiad amgylcheddol ar gyfer Fferm Nanthenfoel, Pont Creuddyn, Llanbedr Pont Steffan, Sir Geredigion, SA48 8AZ | EIR (2004) | Gyrrwyd ymateb cyflawn |
ATI-10502a | Copi o ymateb CNC i Gyngor Abertawe mewn perthynas a'r Cynllun Lleihau Sŵn a argymhellir gan CCS yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Clun | EIR (2004) | Gwrthodwyd yn rhannol - Anfonwyd yr wybodaeth yn rhannol EIR 12.5(b) Cwrs cyfiawnder, trefniadaeth droseddol |
ATI-10516a | Ceisiadau a wnaed i CNC gan CADW neu ADERYN i saethu adar yng nghyffiniau Castell Caerffili | EIR (2004) | Gwrthodwyd yn rhannol - Anfonwyd yr wybodaeth yn rhannol EIR 12.4(a) Nid yw'r wybodaeth gennym |
ATI-10517a | Gwybodaeth cysylltiedig â digwyddiad llygredd yn Saunders Way, Abertawe | EIR (2004) | Gyrrwyd ymateb a olygwyd EIR 13 / DPA |