Mae angen i ni gydweithio gyda'n gilydd fel cymdeithas mewn ffyrdd nad ydym erioed wedi'u gwneud o'r blaen, gan fabwysiadu dull mwy cydgysylltiedig, er mwyn dod o hyd i ddatrysiadau ar gyfer amrediad o heriau cymhleth yr ydym ni, a'n hamgylchedd naturiol, nawr yn eu hwynebu.

 

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru, rydym wedi bod yn ganolog i'r gwaith o ddatblygu cyfres o Ddatganiadau Ardal arloesol sy'n ymwneud â saith rhan ar wahân, ond amrywiol tu hwnt, o'r wlad. 

 

Mae pob Datganiad Ardal yn amlinellu'r heriau allweddol sy'n wynebu'r ardal benodol honno, yr hyn y gall pob un ohonom ei wneud i wynebu'r heriau hynny, a sut gallwn reoli ein hadnoddau naturiol yn well er lles cenedlaethau'r dyfodol. Bydd y rhain yn cael eu diweddaru'n rheolaidd a'u gwella o un flwyddyn i'r llall wrth i ni ymgysylltu â mwy o bobl, casglu tystiolaeth newydd, cyflwyno syniadau, a gweithio ar draws ffiniau i greu cyfleoedd. Cadwch lygad allan felly.

 

Wrth edrych ar y saith Datganiad Ardal hyn gyda'i gilydd, gwelir eu bod yn ymateb cydweithredol i'r hyn a elwir yn Bolisi Adnoddau Naturiol, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2017, sy'n nodi'r prif heriau a chyfleoedd ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn modd cynaliadwy yn y dyfodol.

 

Darllen mwy am dull Cyfoeth Naturiol Cymru o ran asesiadau effaith Datganiadau Ardal

 

Cysylltwch â ni os hoffech weld ein Datganiad Sefyllfa sy’n dangos sut y byddwn yn cadw golwg ar y Datganiadau Ardal.

Porth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru


Sylwch nad yw ein mapiau’n hygyrch i bobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol o fathau eraill. Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.

 

Gweld Porth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru

 

Mae Porth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru wedi’i ddylunio i gyfleu’r gronfa dystiolaeth sy’n sail i’r Datganiadau Ardal. Mae’r porth mewn cyfnod cynnar iawn o’r broses ar hyn o bryd, a bydd yn cael ei ddatblygu dros y misoedd nesaf. Gallwch ei ddefnyddio i gael gafael ar fapiau ar amrywiaeth eang o bynciau, ac rydym yn gweithio ar ychwanegu gwybodaeth gryno a chatalog o ddata er mwyn ehangu’r wybodaeth sydd ar gael.

Datganiadau Ardal

Croeso i Ddatganiad Ardal De-orllewin Cymru. Mae De-orllewin Cymru yn cwmpasu awdurdodau lleol Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin ac mae'n cynrychioli 22% o boblogaeth a 23% o ehangdir y wlad.