Sut i dalu am eich ganiatâd Deddf y Diwydiant Dŵr

Talu am ollyngiad dŵr unigol

Rhaid talu am ollyngiadau dŵr unigol dros y ffôn:

  • ffoniwch 0300 065 3770 i dalu rhwng 9 a 5, ddydd Llun i ddydd Gwener 
  • dewiswch ‘Ffoniwch ni i dalu â cherdyn’ pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen gais am ganiatâd

Talu am ollyngiadau dŵr lluosog

Gellir talu am ollyngiadau dŵr lluosog dros y ffôn neu drwy drosglwyddiad banc.

  • ffoniwch 0300 065 3770 i dalu rhwng 9 a 5, ddydd Llun i ddydd Gwener 
  • dewiswch ‘Ffoniwch ni i dalu â cherdyn’ pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen gais am ganiatâd
  • gwnewch drosglwyddiad banc gan ddefnyddio’r manylion isod

Enw’r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, Blwch SP 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc, 2 1/2 Devonshire Square, Llundain, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438
Cyfeirnod: rhowch eich cyfeirnod talu

Ar ôl talu

Ar ôl i chi dalu, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau bod y taliad wedi’i dderbyn.

Diweddarwyd ddiwethaf