Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Sut i wneud cais am eich cynllun ynni dŵr

Sut i wneud cais am gynlluniau ynni dŵr

 

Diweddariad pwysig ynghylch canllawiau – darllenwch

Mewn ymateb i ostyngiad ym mhoblogaethau’r eog yn afonydd Cymru, rydym yn diwygio ein canllawiau er mwyn amddiffyn mwy ar lif y dŵr mewn mannau silio eogiaid lle y gallai cynnig yn ymwneud â chynllun ynni dŵr effeithio arnynt.

Rydym eisoes yn cydnabod ein mannau silio pwysicaf ar gyfer eogiaid, a leolir oddi mewn i safleoedd dynodedig presennol a chynefinoedd cynhaliol ac sy’n gorwedd oddi mewn i Barth 1 ar gyfer tynnu dŵr at ddibenion ynni dŵr. Mae hyn yn gosod cyfyngiadau ar dynnu dŵr at ddibenion cynhyrchu ynni dŵr er mwyn gwarchod safleoedd o werth cadwraeth natur uchel.

Rydym wedi ymestyn categori Parth 1 i gynnwys mannau silio eogiaid a leolir y tu allan i safleoedd dynodedig presennol a chynefinoedd cynhaliol. Fe allai hyn effeithio ar rai cynigion ar gyfer cynlluniau ynni dŵr a fyddai o’r blaen yn gorwedd yng nghategorïau Parth 2 (afonydd a nentydd yr iseldir) a Pharth 3 (afonydd a nentydd yr ucheldir).

Sylwer na fydd y newid hwn i’n canllawiau’n effeithio ar drwyddedau presennol ar gyfer tynnu dŵr. Darllenwch ein Nodyn Canllaw Ynni Dŵr 2 i weld y cyfraddau tynnu dŵr ar gyfer y Parthau

Gwybodaeth gyffredinol

Os ydych yn ystyried datblygu cynllun ynni dŵr, ac mae gennych gynlluniau rhagarweiniol o’ch cynnig, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cyflwyno ymholiad cyn-ymgeisio cyn i chi ymgeisio’n ffurfiol. Mae’n rhad ac am ddim, a bydd yn ein helpu i ddeall beth sydd gennych mewn golwg, a’ch cynorthwyo i baratoi eich cais ffurfiol.

Rhaid i chi lenwi ffurflenni cyn-ymgeisio WRA a WRB gan ddefnyddio canllawiau WRX a chyflwyno i ni.

Sylwch y bydd angen i chi gyflwyno Ffoto-arolwg Geomorffoleg Cam 1 â’ch ffurflen gynymgeisiol. Mae hon yn ddogfen annhechnegol a fydd yn caniatáu inni ddarparu cyngor ynghylch gofynion lleoli a dylunio eich cais yn gynnar yn y broses ymgeisio. Mae hefyd o gymorth inni ddarparu gwell cyngor, yn gynt, ynglŷn ag agweddau amgylcheddol eraill eich cynllun.

Ceir cyfarwyddiadau ar sut i gynnal Ffoto-arolwg Cam 1 yn Nodyn Canllaw Ategol 2: Ffoto-arolygon geomorffoleg ar gyfer datblygiadau ynni dŵr, i’w cael gyda gweddill ein canllawiau ynni dŵr yn adran ‘Cyn ichi ymgeisio’ ein gwe-dudalennau Ynni Dŵr.

Cais ffurfiol

I ymgeisio am drwydded adnoddau dŵr ar gyfer cynllun ynni dŵr, cwblhewch y ffurflenni a nodir yn nodyn canllaw WRX neu fel yr argymhellir yn dilyn eich ymholiad cyn-ymgeisio.

Yn y broses cyn ymgeisio, efallai i chi eich cynghori i gael trwyddedau ychwanegol ar gyfer eich cynllun ynni dŵr. Dilynwch y dolenni isod a llenwch y ffurflen briodol, a’i dychwelyd gyda’ch ffurflenni eraill lle bo modd.

Os ydych yn ymgeisio am newid trwydded bresennol er mwyn tynnu rhagor, bydd angen i chi gyflwyno’r ffoto-arolwg neu asesiad geomorffolegol a ddarparwyd â’ch cais gwreiddiol. Os nad oes gennych ffoto-arolwg neu asesiad eisoes, bydd angen i chi gwblhau ffoto-arolwg newydd i fynd gyda’ch cais am newid. Darllenwch ein nodyn canllaw HGN 10 Geomorffoleg am fanylion sut mae gwneud hyn.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ffurflen WRA Manylion yr ymgeisydd ac amlinelliad o'r cynnig WORD [169.4 KB]
Ffurflen WRB Ymholiad cyn ymgeisio am gynllun ynni dŵr WORD [159.5 KB]
Ffurflen WRD Cais am drwydded tynnu dŵr newydd neu amrywiad technegol i drwydded tynnu dŵr WORD [159.1 KB]
Ffurflen WRE Cais am drwydded newydd i gronni dŵr, amrywiad technegol i drwydded cronni dŵr neu waredu croniad presennol WORD [150.1 KB]
Nodyn canllaw WRX Ffurflenni cais adnoddau dŵr PDF [389.4 KB]
Ffurflen FP 002 Cais am gymeradwyaeth ar gyfer llwybr pysgod WORD [311.0 KB]
Nodyn canllaw FP 003 Cais am gymeradwyaeth ar gyfer llwybr pysgod – canllawiau PDF [196.4 KB]

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.