Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Newidiadau i eithriadau trwyddedu tynnu dŵr

O 1 Ionawr 2018 ymlaen, bydd angen trwydded ar y rhan fwyaf o dyniadau a oedd wedi'u heithrio cyn hyn (os ydynt dros y trothwy eithrio o 20m³/y diwrnod) er mwyn parhau i dynnu dŵr yn gyfreithiol

Pam a sut rydym ni'n gwneud newidiadau?

Tynnu dŵr yw'r broses o gymryd dŵr yn uniongyrchol o ddŵr wyneb megis afonydd, neu ddŵr daear megis dyfrdyllau, a gall gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd y mae'n ei gefnogi. Felly, rhoddir trwyddedau ar y rhan fwyaf o'r gwaith o dynnu dŵr.

Fodd bynnag, mae'r system drwyddedu ar gyfer tynnu dŵr yng Nghymru a Lloegr wedi datblygu dros y 50 mlynedd diwethaf, ac mae rhai tyniadau yn parhau i'w cael eu heithrio rhag y rheoliadau trwyddedu. Mae'r echdynwyr dŵr hyn â'r hawl yn gyfreithiol i gymryd cyflenwad diderfyn o ddŵr, heb ystyried yr effaith ar yr amgylchedd neu ddefnyddwyr dŵr eraill.

Fel bod modd i ni reoli adnoddau dŵr mewn ffordd deg a chynhwysfawr, ac er mwyn bodloni gofynion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, gwnaeth Deddf Dŵr 2003 rywfaint o newidiadau i'r ffordd mae angen i ni reoleiddio’r gwaith o dynnu a chronni dŵr sy'n gallu effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd dŵr.

Gwnaethom ymgynghori ar y cyd â Llywodraeth Cymru, DEFRA ac Asiantaeth yr Amgylchedd rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2016 ar ein dull arfaethedig o osod rheolau trwyddedu ar dyniadau a oedd wedi'u heithrio cyn hyn. 

Mae ymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad , sy'n amlinellu dull terfynol y polisi a'r camau nesaf, wedi'i gyhoeddi gan lywodraethau'r DU (Llywodraeth Cymru a DEFRA).

Mae dau reoliad newydd wedi'u cyflwyno er mwyn galluogi'r gwaith o gyflwyno'r polisi newydd:

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 2017
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Eithriadau) 2017

Beth sydd wedi newid?

O 1 Ionawr 2018 ymlaen, bydd angen trwydded ar y rhan fwyaf o dyniadau a oedd wedi'u heithrio cyn hyn (os ydynt dros y trothwy eithrio o 20m³/y diwrnod) er mwyn parhau i dynnu dŵr yn gyfreithiol. Rhoddir y term 'awdurdodiadau newydd' yn aml ar y tyniadau hyn, ac maent yn cynnwys:

  • Trosglwyddo dŵr o un corff dŵr mewndirol i un arall yn achos, neu o ganlyniad i, weithrediadau a gynhelir gan awdurdod mordwyo, harbwr neu warchod
  • Tyniadau i ardaloedd draenio mewnol ond heb gynnwys gweithgareddau draenio tir
  • Dad-ddyfrio mewn mwyngloddiau, chwareli a gwaith peirianneg, lle mae'r dŵr yn bennaf yn ddŵr daear yn hytrach na glaw
  • Dyfrhau trwy ddiferion a dyfrleidio (warping), sef tynnu dŵr sy'n cynnwys silt i'w ddefnyddio fel gwrtaith ar dir amaethyddol
  • Pob math o ddyfrhau (ac eithrio dyfrhau chwistrellu, sydd eisoes yn drwyddedadwy) a'r defnydd o systemau draenio tir i'r gwrthwyneb (gan gynnwys trosglwyddiadau i systemau gwlyptiroedd rheoledig) er mwyn cynnal lefelau dŵr caeau
  • Y rhan fwyaf o dyniadau sydd ag eithriadau'r Goron ac eithriadau lluoedd sy’n ymweld
  • Tyniadau mewn ardaloedd daearyddol oedd wedi'u heithrio cyn hyn

Bydd rhai tyniadau sy'n cael eu hystyried yn rhai risg isel yn parhau wedi'u heithrio:

  • Trosglwyddiadau i lawr yr afon o'r terfyn llanw arferol gan awdurdodau mordwyo, harbwr a gwarchod, ac eithrio yn yr awr cyn neu ar ôl llanw isel
  • Tyniadau sy'n gysylltiedig â gweithrediadau treillio a awdurdodwyd gan awdurdod wrth arfer ei swyddogaethau statudol mewn perthynas â'r dyfroedd hynny i fyny'r afon o'r terfyn llanw arferol ac unrhyw dyniadau i lawr yr afon o'r terfyn llanw arferol
  • Tyniadau dŵr o fewn systemau gwlyptir a reolir (yn amodol ar drwyddedu'r prif waith o dynnu dŵr i’r system) a'r gwaith o gronni ar gyfer rheoli, gweithredu neu gynnal dŵr o fewn systemau gwlyptir a reolir
  • Gwaith cronni a adeiladwyd gan Fyrddau Draenio Mewnol neu ar eu rhan, er mwyn arfer eu swyddogaethau o fewn eu hardal benodedig
  • Dad-ddyfrio strata o dan y ddaear a thynnu dŵr wyneb er mwyn atal unrhyw ymyrraeth â gwaith adeiladu neu beirianneg lle mae'r gwaith o dynnu dŵr yn para llai na chwe mis yn olynol (yn amodol ar gyfyngiadau)
  • Dociau sych a weithredir gan drydydd parti sy'n trosglwyddo dŵr i system ddŵr awdurdod llywio neu oddi wrthi
  • Gwaith cronni mewn sydd ei angen mewn argyfwng
  • Tynnu dŵr mewn argyfwng neu gronni gan awdurdodau porthladd, harbwr neu warchodfeydd

Yn seiliedig ar ein hamcangyfrifon presennol, rydym yn disgwyl trwyddedu hyd at 300 o dyniadau dŵr a oedd wedi'u heithrio cyn hyn yng Nghymru.

Beth y mae hyn yn ei olygu i mi?

Mae'n rhaid i chi wneud cais am drwydded adnoddau dŵr trosiannol os ydych:

  • Ar unrhyw adeg, ers 1 Ionawr 2011, wedi tynnu dŵr o dan eithriad a fydd yn cael ei ddileu o 1 Ionawr 2018 ymlaen; ac
  • Rydych yn dymuno parhau i dynnu dŵr ar ôl 31 Rhagfyr 2017

Mae trefniadau trosiannol arbennig ar waith, sy'n gofyn am y canlynol:

  • I chi gyflwyno cais am drwydded adnoddau tynnu dŵr trosiannol rhwng 1 Ionawr 2018 a 31 Rhagfyr 2019 (dwy flynedd er mwyn gwneud cais)
  • I ni benderfynu ar eich cais am drwydded rhwng 1 Ionawr 2020 a 31 Rhagfyr 2022 (tair blynedd er mwyn penderfynu ar eich trwydded)

Gallwch barhau i dynnu'r un faint o ddŵr a wnaethoch ei dynnu rhwng 1 Ionawr 2011 a 31 Rhagfyr 2017 nes ein bod ni wedi dod i benderfyniad ar eich cais.

Sut ydw i'n gwneud cais am drwydded adnoddau dŵr trosiannol?

Bydd ffurflen gais a nodyn canllaw ategol ar gael cyn 1 Ionawr 2018.

Bydd angen i chi gyflwyno ffi ymgeisio gyda'ch cais. Efallai bydd angen i chi dalu taliadau blynyddol hefyd. Mae'r cynllun taliadau tynnu dŵr yn cynnwys y ffioedd a thaliadau, a gallant newid ym mis Ebrill.

Mae'n bosibl y bydd angen hysbysebu rhai ceisiadau. Os yw hyn yn berthnasol i'ch cais, bydd angen i chi dalu ffi weinyddol o £100 er mwyn hysbysebu eich cais yn y papur newyddion lleol, yn ogystal â chost yr hysbyseb.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes modd i ni roi trwydded(au) i chi ac yn esbonio ein penderfyniad. Bydd unrhyw drwydded a roddir yn cynnwys yr amodau y mae'n rhaid i chi eu dilyn er mwyn tynnu dŵr yn gyfreithlon.

Gwybodaeth bwysig

Oherwydd y nifer uchel o geisiadau rydym yn disgwyl eu derbyn, byddwn yn anelu at wirio a chydnabod eich cais o fewn tri mis o'i dderbyn.

Os nad yw eich cais yn bodloni gofynion cais dilys, byddwn yn anfon llythyr atoch yn esbonio'r rhesymau dros hyn.

Ni allwn warantu gwirio pob cais a dderbynnir o fewn tri mis i'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, sef 31 Rhagfyr 2019.Bydd y rhai nad ydynt yn ddilys yn cael eu gwrthod, a byddant mewn perygl o golli'r cyfle ar gyfer ailgyflwyno cais dilys a manteisio ar y trefniadau trosiannol. Ni allwn ymestyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, sef 31 Rhagfyr 2019. Rydym felly'n argymell yn gryf eich bod yn cyflwyno eich cais mewn da bryd cyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais trosiannol, sef 31 Rhagfyr 2019.

Beth sydd angen i mi ei wneud er mwyn cynyddu faint o ddŵr y gallaf ei dynnu, neu ddechrau tynnu dŵr ar gyfer gweithgaredd a oedd wedi'i eithrio cyn hyn?

Os, o 1 Ionawr 2018 ymlaen, bydd arnoch angen:

  • Mwy o ddŵr na thynnwyd rhwng 1 Ionawr 2011 a 31 Rhagfyr 2017 ar gyfer tyniad dŵr presennol; neu
  • Dynnu dŵr o ffynhonnell cyflenwad neu leoliad gwahanol ar gyfer gweithgaredd / o fewn ardal a oedd wedi'i heithrio rhag ei thrwyddedu cyn hyn

Mae'r rhain yn cael eu hystyried yn dyniadau dŵr a gynlluniwyd, a bydd angen i chi wneud cais ychwanegol ac aros am ein penderfyniad ar y cais hwnnw (o fewn ein hamserlenni statudol o dri neu bedwar mis) cyn newid eich cyfraddau tynnu dŵr neu ddechrau tynnu dŵr o'r newydd.

Noder: Ni ellir gwneud y ceisiadau hyn o dan y trefniadau trosiannol. Ewch i'r adran 'Gwneud cais am drwydded i dynnu neu gronni dŵr' ar ein gwefan er mwyn cael gwybodaeth ynghylch gwneud cais am drwydded safonol.

Rwy'n tynnu dŵr yng Nghymru a Lloegr. I bwy rwy'n gwneud cais?

Os yw eich gwaith o dynnu dŵr yn lledaenu dros ffiniau gwleidyddol Cymru a Lloegr, bydd angen i chi gyflwyno cais i ni ar gyfer tynnu dŵr yng Nghymru, a chais i Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer tynnu dŵr yn Lloegr. Ewch i wefan gov.uk er mwyn cael rhagor o wybodaeth ar gyflwyno ceisiadau i Asiantaeth yr Amgylchedd.

Beth allai ddigwydd os nad ydw i'n gwneud cais am drwydded?

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn gwneud cais am y drwydded/trwyddedau gofynnol. Mae tynnu dŵr heb drwydded yn drosedd.

Gallwn gymryd camau gorfodi os:

  • Ar gyfer tyniadau dŵr a ddechreuwyd cyn 1 Ionawr 2018: Nid ydych yn gwneud cais ar gyfer y trwyddedau adnoddau dŵr trosiannol gofynnol o fewn y cyfnod trosiannol o ddwy flynedd i wneud cais (1 Ionawr 2018 a 31 Rhagfyr 2019), a'ch bod yn parhau i dynnu dŵr ar ôl i'r cyfnod o wneud cais gau
  • O 1 Ionawr 2018 ymlaen: Eich bod yn dechrau tynnu dŵr o'r newydd ar gyfer gweithgareddau a oedd wedi'u heithrio cyn hyn, neu eich bod yn cynyddu eich cyfraddau tynnu dŵr cyn 1 Ionawr 2018 heb gael y trwyddedau priodol drwy'r broses safonol ar gyfer gwneud cais am drwydded

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr hyn sydd angen i chi ei wneud er mwyn cydymffurfio â'r newidiadau hyn, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ein ffonio ar 0300 065 3000.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.