Canllawiau ar gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff

Bwriad y Rheoliadau yw lleihau’r nifer o WEEE sy’n mynd i safleoedd tirlenwi a lleihau’r sylweddau peryglus sydd wedi’u cynnwys mewn cyfarpar trydanol ac electronig.

Cyfleusterau Trin Awdurdodedig Cymeradwy (AATFs)

Os ydych chi’n gweithredu cyfleuster trin awdurdodedig WEEE (ATF) yng Nghymru gallwch wneud cais am gymeradwyaeth ychwanegol i ddod yn gyfleuster trin awdurdodedig cymeradwy (AATF).

Gall AATFs roi nodiadau tystiolaeth ar gyfer trin ac ailddefnyddio’r WEEE DU maent yn ei dderbyn ar ran y cynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr. Gelwir y WEEE hwn yn ‘WEEE gorfodol’.

Ceir manylion ar ddod yn AATF yma:  https://www.gov.uk/WEEE-AATF

Anfonwch ymholiadau a cheisiadau wedi’u cwblhau at: weee@naturalresourceswales.gov.uk

Allforwyr Cymeradwy (AEs)

Mae’n rhaid i chi gael eich cymeradwyo os ydych chi’n allforiwr yng Nghymru ac eisiau:

  • rhoi nodiadau tystiolaeth ar gyfarpar cyfan i’w hailddefnyddio dramor a dderbyniwyd gan neu ar ran cynllun cydymffurfio cynhyrchwyr (PCS)
  • allforio deunyddiau a echdynnwyd o WEEE i’w drin, adfer neu ei ailgylchu y tu allan i’r DU a dderbyniwyd o gyfleuster trin awdurdodedig cymeradwy (AATF) – mae’r AATF yn rhoi’r dystiolaeth ar y WEEE hwn

Ceir manylion ar ddod yn AE yma:  https://www.gov.uk/WEEE-AE

Anfonwch ymholiadau a cheisiadau wedi’u cwblhau at:  weee@naturalresourceswales.gov.uk

Cynhyrchwyr EEE

Os ydych chi wedi’ch lleoli yng Nghymru ac yn rhoi EEE ar farchnad y DU, yna mae’n rhaid i chi ddilyn y rheolau ar yr EEE rydych yn ei werthu ac ar yr EEE sy’n dod yn wastraff (WEEE).

Mae’n rhaid i gynhyrchwyr EEE chwarae rhan mewn gwarchod adnoddau naturiol a rheoli gwastraff EEE yn y ffordd orau ar gyfer pobl a’r amgylchedd.

Ceir manylion ar gyfrifoldebau cynhyrchwyr EEE yn: www.gov.uk - EEE producers

Gellir e-bostio ymholiadau at;  weee@naturalresourceswales.gov.uk

 

Cynlluniau Cydymffurfio Cynhyrchwyr (PCS)

Mae cynllun cydymffurfio cynhyrchwyr (PCS) yn sefydliad aelodaeth. Mae’r aelodau yn gynhyrchwyr cyfarpar trydanol ac electronig (EEE).

Mae PCS yn gyfrifol am gofrestru ei holl aelodau bob blwyddyn ac mae’n rhaid iddo:

  • sicrhau ei fod yn cwrdd â’i ymrwymiadau ariannol dan reoliadau WEEE
  • Gyflawni ei ymrwymiadau adrodd data

Ceir manylion ar ddod yn PCS yng Nghymru yma:  https://www.gov.uk/WEEE-PCS.

Gellir e-bostio ymholiadau at: weee@naturalresourceswales.gov.uk 

Taliadau

Gellir talu’r ffioedd gwneud cais yn y dulliau canlynol:

BACS

Gwnewch drosglwyddiad electronig i:

Manylion BACS
Enw cwmni: Natural Resources Wales  
Cyfeiriad y Cwmni:     Income Department, PO BOX 663, Cardiff, CF24 0TP 
Banc: RBS
Cyfieriad:    National Westminster Bank Plc, 2 ½ Devonshire Square, London, EC2M 4BA  
Côd didoli:  60-70-80  
Rhif cyfrif:   10014438   

Rhowch WEEE yng nghyfeirnod y taliad ac e-bostiwch y cyfeirnod a dyddiad y taliad i weee@naturalresourceswales.gov.uk.

Siec

Anfonwch eich siec i:

Producer Responsibility Unit, Rivers House, Parc Busnes Llaneirwg (St Mellons Business Park), Llaneirwg, Caerdydd, CF11 6QU

Cysylltwch â ni

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch 0300 065 3000 neu e-bostiwch: weee@naturalresourceswales.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf