Ffioedd cynnal digwyddiadau ar dir yr ydym yn ei reoli

Dyma rai o’r digwyddiadau a gynhelir ar dir yr ydym yn ei reoli :

  • rhedeg
  • triathlon
  • beicio
  • hyfforddiant hysgwn

Nid yw'r ffioedd hyn yn berthnasol i ddigwyddiadau cyfeiriannu a chwaraeon moduro gan fod gennym gytundeb cenedlaethol ar waith. 

Ffioedd digwyddiadau

Mae faint sydd angen i chi ei dalu yn dibynnu ar dri pheth.

  1. Pa un a yw eich digwyddiad yn un nid-er-elw (e.e. grŵp cymunedol neu ddigwyddiad elusennol) neu'n un masnachol
  2. Faint o bobl a gymerodd ran
  3. Faint o dir CNC ydych chi'n ei ddefnyddio fel cyfran o'ch digwyddiad

Rydym hefyd yn codi ffi weinyddol o £75 (gan gynnwys TAW). Mae hon yn daladwy hyd yn oed os na fydd y digwyddiad yn mynd rhagddo.

Costau digwyddiadau masnachol

499 o gyfranogwyr neu lai: rydym yn codi 5% o naill ai’r ffi cyfranogwr neu’r incwm mynediad gros (pa un bynnag sydd fwyaf).

500 o gyfranogwyr a throsodd: rydym yn codi 10% o naill ai’r ffi cyfranogwr neu’r incwm mynediad gros (pa un bynnag sydd fwyaf).

Costau digwyddiad nid-er-elw

499 o gyfranogwyr neu lai: dim ond ffi weinyddol o £75 sydd angen i chi ei thalu (yn cynnwys TAW).

500 o gyfranogwyr a throsodd: rydym yn codi 2.5% o naill ai’r tâl cyfranogwr neu’r incwm mynediad gros (pa un bynnag sydd fwyaf).

Os rhan yn unig o'ch digwyddiad sy’n cael ei gynnal ar dir yr ydym yn ei reoli

Efallai y bydd eich digwyddiad ar dir a reolir gennym ni yn ogystal ag ar dir sy'n cael ei reoli neu sy'n eiddo i rywun arall. 

Os felly, rydym yn lleihau'r tâl yn dibynnu ar faint o dir CNC rydych chi'n ei ddefnyddio. 

Er enghraifft, os 10% yn unig o’ch digwyddiad sydd ar dir CNC, byddwn yn lleihau’r tâl i adlewyrchu eich defnydd o 10%.

Bydd angen prawf arnom o faint o dir yr ydych yn ei ddefnyddio.

Llogi maes parcio

Ar gyfer defnydd unigryw o'n maes parcio, rydym yn codi 200% ychwanegol o incwm arferol y maes parcio.

Byddwn yn cynnwys y ffi hon yn eich anfoneb.

Prawf o nifer y cyfranogwyr a’r defnydd o’r tir

Cyn gynted ag y byddwch wedi cwblhau gwerthu tocynnau bydd angen i chi ddarparu:

  • tystiolaeth o niferoedd eich cyfranogwr gan gynnwys unrhyw niferoedd sy’n canslo
  • eich cyfrifiad o faint o dir a reolir gan CNC a ddefnyddiwyd gennych

Tystiolaeth o niferoedd cyfranogwyr

Gall hyn gynnwys rhestrau gwerthu tocynnau gan gwmnïau tocynnau ar-lein. Sicrhewch nad yw'r rhestrau'n cynnwys unrhyw ddata personol.  

Cyfrifwch faint o dir ydych chi'n ei ddefnyddio

Gallwch gyfrifo faint o dir yr ydych chi'n ei ddefnyddio:

  • â llaw (os yw'r ardal yn fach)
  • trwy ddefnyddio teclyn fel Calcmaps

Sut i dalu

Byddwn yn eich anfonebu am unrhyw ffi weinyddol a chostau.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf