Diweddariad Coronafirws

 

Ceisiadau trwyddedau cwympo coed a Sgrinio Effeithiau Amgylcheddol

 

Rydym yn prosesu ceisiadau am drwyddedau cwympo coed a Cheisiadau Sgrinio Effeithiau Amgylcheddol fel arfer. Ein nod yw cwblhau'r rhain o fewn yr amseroedd safonol. Os bydd oedi gyda'ch cais, byddwn yn gadael ichi wybod a gall y byddwn yn gofyn am amser ychwanegol i wneud ein penderfyniad.

 

Nid ydym yn ymweld â safleoedd ar gyfer y ceisiadau hyn oni fydd rheswm hanfodol dros wneud hynny h.y. pryder amgylcheddol sylweddol. Os bydd ymweliad â safle yn ofynnol, byddwn yn dilyn canllawiau'r Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol. Ni fyddem yn disgwyl cwrdd â rheolwyr safleoedd, ond byddwn yn cysylltu â hwy ymlaen llaw i sicrhau ein bod yn gallu ei gynnal yn ddiogel.

 

Mae ein staff trwyddedu yn gweithio gartref a gellir cysylltu â hwy drwy e-bost fellinglicence@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

 

Darganfyddwch fwy yn ein hymateb i’r pandemig coronafirws

 

 

Ar 16 Mai 2017, bydd Rheoliadau Asesiad Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) (diwygiedig) 2017 yn dod i rym. Dylai’r holl ymgeiswyr a chanddynt brosiectau EIA perthnasol adolygu’r diwygiadau hyn. Rydym yn y broses o ddiweddaru’r dudalen hon. Yn y cyfamser os oes gennych ymholiadau cysylltwch â forestregulations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rheoliadau AEA

Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r awdurdod cymwys ar gyfer asesu'r pedwar math o brosiect coedwigaeth a nodir yn Rheoliadau Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) 1999 (Cymru a Lloegr) yng Nghymru.

Rydym yn annog yr holl gwsmeriaid a chanddynt brosiectau sy’n gysylltiedig ag Asesiad Effeithiau Amgylcheddol adolygu’r rheoliadau perthnasol. Mae hyn yn cynnwys meysydd lle mae CNC yn awdurdod penderfynu ar gyfer EIA, megis y cyfundrefnau Trwyddedu Morol a Choedwigaeth dan Reoliadau Gwaith Morol (EIA) a’r Rheoliadau EIA (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) yn eu trefn.

Mae’r rheoliadau diwygiedig yn ad-drefnu Cyfarwyddeb 2014/52/EU Senedd Ewrop a Chyngor 16 Ebrill 2014 gan ddiwygio Cyfarwyddeb 2011/92/EU ac yn dilyn ymgynghoriadau gan adrannau Llywodraeth Cymru a’r DU yr ydym wedi ymateb iddynt.

Rydym yn y broses o ddiweddaru gwe-dudalennau perthnasol CNC. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r rheoliadau EIA lle mae CNC yn awdurdod penderfynu cysylltwch â:

Rheoliadau Asesiad Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth): forestregulations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

O dan y rheoliadau hyn, mae'n rhaid i ni ystyried a fydd y gwaith arfaethedig ar gyfer unrhyw un o'r prosiectau hyn yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd. Os felly, mae'n rhaid i'r ymgeisydd wneud cais am ganiatâd i gwblhau'r gwaith. Mae'n rhaid i geisiadau am ganiatâd gynnwys Datganiad Amgylcheddol.

Canllaw cyflym i broses AEA

Mae'r canllaw cyflym hwn yn crynhoi proses AEA. I gael rhagor o fanylion, ewch i dudalennau eraill yn yr adran AEA, a restrir ar waelod y dudalen hon.

Cynllun Glastir – Creu Coetir angen i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyflwyno Barn yn eu cylch er mwyn gweld a ydych angen caniatâd i fynd i’r afael â’ch gwaith plannu newydd arfaethedig. Yn y mwyafrif o achosion, bydd y farn AEA yn cael ei hasesu fel rhan o broses wirio Glastir – Creu Coetir ac ni fydd angen ffurflenni barn AEA ar wahân. Ar gyfer cynlluniau Glastir – Creu Coetir mwy, a mwy cymhleth, efallai y bydd angen caniatâd AEA – i gael mwy o wybodaeth, darllenwch Ffynonellau posibl o ganllawiau ar gyfer barn a chaniatâd AEA ar gyfer cynlluniau Creu Coetir Glastir. Os ydych yn ansicr ynghylch pa un a yw cynllun Glastir – Creu Coetir angen caniatâd AEA ai peidio, gofynnwch i’r tîm Rheoleiddio Coedwigoedd forestregulations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Cam 1 - Ai prosiect coedwigaeth yw hwn?

Cadarnhewch p'un a yw'r gwaith arfaethedig yn brosiect coedwigaeth. Mae'r pedwar gweithgaredd (a elwir yn 'brosiectau') a nodir yn y Rheoliadau AEA fel a ganlyn:

  • Coedwigo - plannu coetir a choedwigoedd newydd. Mae hyn yn cynnwys hau uniongyrchol neu aildyfu naturiol, plannu coed Nadolig neu goedlan cylchdro byr
  • Datgoedwigo - torri coetir i'w ddefnyddio fel tir at ddiben gwahanol
  • Ffyrdd coedwig - creu, newid neu gynnal ffyrdd preifat ar dir a ddefnyddir (neu sydd i'w ddefnyddio) at ddibenion coedwigaeth. Mae hyn yn cynnwys ffyrdd mewn coedwig neu ffyrdd sy'n arwain at goedwig
  • Chwareli coedwig - cloddio er mwyn cael deunyddiau ar gyfer gwaith ffyrdd coedwig ar dir sy'n cael ei ddefnyddio neu a fydd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion coedwigaeth

Cam 2 - A yw'r prosiect yn uwch na throthwy'r ardal?

Cyfrifwch p'un a yw'r prosiect yn uwch na throthwy'r ardal, fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau AEA. Os cwblhawyd unrhyw waith mewn ardal sy'n gyfagos i'r prosiect yn ystod y pum mlynedd blaenorol, rhaid ystyried yr ardal hon fel rhan o'r trothwy hefyd.

Gweler y dudalen Cynllunio fy Mhrosiect Coedwigaeth i weld y trothwyon ar gyfer pob math o brosiect. Os yw ardal y prosiect yn llai na'r trothwy, nid fydd angen caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru, oni bai bod y gwaith yn cael effaith amgylcheddol sylweddol. Cysylltwch â ni os hoffech rhagor o wybodaeth am hyn.

Cam 3 - A oes angen caniatâd arnoch?

Os yw'r prosiect yn uwch na throthwy'r ardal, mae'n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen Barn atom er mwyn canfod p'un a oes angen caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru arnoch. Ymhen 28 diwrnod fe fyddwch yn cael penderfyniad gennym, naill ai trwy lythyr neu trwy e-bost, yn cadarnhau a fydd angen ein caniatâd ai peidio. Peidiwch â dechrau ar unrhyw waith hyd nes y byddwch wedi cael y llythyr neu’r e-bost hwn. Cynllunio fy Mhrosiect Coedwigaeth

Dim ond hyd at gam 3 y mae'r rhan fwyaf o geisiadau yn mynd rhagddynt. Os na fydd angen caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru arnoch, ni fydd angen i chi ddilyn cam 4.

Cam 4 - Gwneud cais am ein caniatâd

Os bydd angen caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru, bydd angen i chi wneud y canlynol:

Gweler y dudalen 'Gwneud cais am ein caniatâd' am ragor o wybodaeth.

Gwaith a gwblhawyd heb ganiatâd

Os caiff gwaith ei gwblhau heb gael y caniatâd sy'n ofynnol, gallwn gyhoeddi Hysbysiad Gorfodi er mwyn unioni'r sefyllfa.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am broses AEA, cysylltwch â

Diweddarwyd ddiwethaf