Beth yw Hysbysiad Gorfodi?

Mae Hysbysiad Gorfodi yn ddogfen gyfreithiol. Os na fydd unigolyn y rhoddwyd Hysbysiad Gorfodi iddynt yn cydymffurfio â'r telerau a nodir yn yr Hysbysiad, mae hyn gyfystyr â throsedd.

Pwy all dderbyn Hysbysiad Gorfodi?

Gellir rhoi Hysbysiad Gorfodi i'r partïon canlynol:

  • Yr unigolyn sy'n cwblhau'r gwaith, er enghraifft, y contractwr
  • Perchennog yr eiddo
  • Unrhyw unigolyn arall sydd â diddordeb digonol yn yr eiddo (gan ganiatáu i waith gael ei gwblhau heb gael caniatâd gan yr awdurdodau perthnasol)

Beth mae Hysbysiad Gorfodi yn ei nodi?

  • Mae Hysbysiad Gorfodi yn gofyn i unigolyn gymryd un neu fwy o'r camau canlynol:
  • Gwneud cais am ganiatâd Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Adfer y tir i'r cyflwr yr oedd ynddo cyn i unrhyw waith ar y prosiect perthnasol gael ei gyflawni
  • Cwblhau unrhyw waith ar y tir sydd angen ei wneud ac sy'n rhesymol er mwyn sicrhau y cydymffurfir â thelerau'r caniatâd
  • Cael gwared ar unrhyw ddifrod i'r amgylchedd a achoswyd gan y prosiect perthnasol neu ei liniaru
  • Rhoi'r gorau i unrhyw waith ar y prosiect perthansol

Pa gyfnod o amser a ddiffinnir gan Hysbysiad Gorfodi?

Gall yr Hysbysiad nodi manylion y cyfnod y mae'n rhaid i unrhyw un o'r pedwar cam cyntaf uchod gael eu cymryd. Gellir nodi cyfnodau gwahanol ar gyfer mesurau gwahanol.

O dan ba amgylchiadau y gellir cyflwyno Hysbysiad Gorfodi?

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno Hysbysiad Gorfodi os canfyddir bod unigolyn wedi gwneud un o'r canlynol:

  • Gwneud neu wedi gwneud gwaith lle'r oedd angen caniatâd
  • Wedi torri amodau'r caniatâd a roddwyd eisoes

A ddaw dirwy gyda'r Hysbysiad Gorfodi?

Os na fydd unigolyn yn cydymffurfio â Hysbysiad Gorfodi, maent yn euog o drosedd a gallant, os byddant yn cael eu dedfrydu, fod yn gyfrifol am dalu dirwy o hyd at £5,000.

Diweddarwyd ddiwethaf