Mae’r dyfrgi, Lutra lutra , yn cael ei warchod o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, a elwir yn Rheoliadau Cynefinoedd, oherwydd bod ei niferoedd wedi bod yn disgyn ledled Ewrop dros y degawdau diwethaf. Mae’r wybodaeth hon yn canolbwyntio ar drwyddedu dyfrgwn yng Nghymru ac nid yw’n adolygiad cynhwysfawr o ecoleg na’r gyfraith sy’n ymwneud â dyfrgwn.

Gall dyfrgwn gael eu heffeithio gan amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys clirio prysgwydd, rheoli afonydd, creu llwybrau, cynlluniau ffyrdd, datblygiadau tai neu waith mewn coetiroedd.

Deddfwriaeth

Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn datgan bod y canlynol yn drosedd:

  • Dal, anafu neu ladd yn fwriadol unrhyw anifail gwyllt sy’n rhan o rywogaeth a warchodir gan Ewrop
  • Tarfu’n fwriadol ar unrhyw anifeiliaid gwyllt o’r cyfryw rywogaethau
  • Difa neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys anifail o’r fath

Mae tarfu’n cynnwys, ond nid yw wedi’i gyfyngu i, unrhyw darfu sy’n debygol:

  • o amharu ar eu gallu –
    • i oroesi, bridio neu atgenhedlu, neu i fagu neu feithrin eu rhai bach, neu
    • yn achos anifeiliaid rhywogaeth sy’n gaeafgysgu neu sy’n mudo, yn amharu ar eu gallu i wneud hynny
  • o effeithio’n sylweddol ar ddosbarthiad neu niferoedd y rhywogaeth y maen nhw’n perthyn iddo yn lleol

Bydd Defra a Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi dogfen ganllaw ar y cyd ar ddehongli’r troseddau sy’n gysylltiedig â tharfu, difa a dinistrio safleoedd bridio a mannau gorffwys.

Mae yn erbyn y gyfraith i feddu ar rywogaethau byw neu farw a warchodir gan Ewrop a'r DU, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid.

Nid oes rhaid cael trwydded i gasglu dyfrgi marw (ee un wedi’i ladd ar y ffordd) ar gyfer ei gyflwyno ar gyfer post mortem fel rhan o Brosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd.

Trwyddedu

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau o dan Reoliad 55 y Rheoliadau Cynefinoedd er mwyn i chi allu gweithio o fewn y gyfraith. Rydym yn eu rhoi at ddibenion penodol a restrir yn y Rheoliadau, os ydych chi’n bodloni’r tri phrawf canlynol:

  • Mae diben y gwaith yn cyd-fynd ag un o’r dibenion sydd wedi’u rhestru yn y Rheoliadau Cynefinoedddoes yna ddim dewis arall boddhaol
  • Ni fydd y weithred a awdurdodir yn cael effaith niweidiol ar y gwaith
  • O gynnal poblogaeth y rhywogaeth dan sylw ar statws cadwraethol ffafriol yn eu hystod naturiol

Dibenion trwyddedu

O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, gellir rhoi trwyddedau ar gyfer cyfres benodol o ddibenion yn cynnwys:

  • Diogelu iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd neu unrhyw reswm hanfodol arall sydd o fudd cyhoeddus tra phwysig yn cynnwys rhesymau cymdeithasol neu economaidd eu natur a chanlyniadau buddiol sy’n bwysig iawn i’r amgylchedd
  • Dibenion gwyddonol ac addysgol
  • Gosod modrwy neu nod
  • Gwarchod anifeiliaid gwyllt

Gwyddonol neu Addysgol

Byddwch angen trwydded i gymryd neu darfu ar ddyfrgi, neu i ddifrodi neu rwystro mynediad at safle bridio neu fan gorffwys er mwyn gwneud unrhyw waith ymchwil neu arolwg manwl. Gallwn roi trwyddedau ar gyfer dulliau arolygu mwy mewnwthiol hefyd yn cynnwys rhoi nod ar anifeiliaid neu osod coleri olrhain radio.

Pwy all wneud cais am drwydded

Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig

Datganiad Dull

Os ydych yn gwneud unrhyw waith datblygu, bydd angen i chi gwblhau datganiad dull. Mae'r datganiad dull yn rhan o'ch cais am drwydded:

Datganiad dull trwydded ddatblygu

Cydymffurfiaeth ecolegol

Efallai y gofynnir i chi gyflwyno ffurflen archwilio cydymffurfiaeth ecolegol os ydych chi’n cynnig cynllun datblygu mawr, neu gynllun sydd â risg uwch ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig. Bydd y gofynion hyn yn un o amodau eich trwydded.

Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir

Os nad oes modd i chi osgoi tarfu ar rhywogaethau a warchodir, neu ddifrodi eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys, gallwch wneud cais am drwydded am ystod o wahanol weithgareddau:

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.

Diweddarwyd ddiwethaf