Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Mae rhai rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid wedi dirywio i’r fath raddau ar draws Ewrop fel eu bod nhw bellach yn cael eu gwarchod gan y gyfraith. Roedd Rheoliadau Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 ('y Rheoliadau Cynefinoedd') yn rhoi Cyfarwyddeb Cynefinoedd 1992 y Gymuned Ewropeaidd, a oedd yn rhestru'r rhywogaethau hyn, mewn grym yng nghyfraith y DU. All y dudalen hon ddim trafod pob agwedd ar y gyfraith, ond mae'n rhoi cyflwyniad i ddangos i chi sut gallwch chi helpu i warchod rhywogaeth brin.

Rhywogaethau anifeiliaid

Mae'r anifeiliaid tir canlynol yng Nghymru yn Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop, ac maen nhw wedi'u rhestru yn Atodlen 2 y Rheoliadau Cynefinoedd:

  • Ystlumod (pob rhywogaeth)
  • Pathew, Muscardinus avellanarius
  • Madfall Ddŵr Gribog, Triturus cristatus
  • Llyffant y Twyni, Bufo calamita
  • Dyfrgi, Lutra lutra
  • Madfall y Tywod, Lacerta agilis

O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, mae'n drosedd i:

  • Ddal, anafu neu ladd yn fwriadol unrhyw anifail Ewropeaidd gwyllt sydd wedi ei ddiogelu
  • Aflonyddu yn fwriadol ar anifeiliaid gwyllt o unrhyw rywogaeth o'r fath
  • Cymryd yn fwriadol neu ddinistrio wyau anifail o'r fath, neu
  • Difrodi neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys anifail o'r fath.

Mae aflonyddu ar anifeiliaid yn cynnwys yn benedol unrhyw aflonyddwch sy'n debygol:

1. o amharu ar eu gallu –

  • i oroesi, bridio neu atgenhedlu, neu i fagu neu feithrin eu rhai bach, neu
  • yn achos anifeiliaid rhywogaeth sy’n gaeafgysgu neu sy’n mudo, yn amharu ar eu gallu i wneud hynny

2. o effeithio’n sylweddol ar ddosbarthiad neu niferoedd y rhywogaeth y maen nhw’n perthyn iddo yn lleol.

Bydd Defra a Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi dogfen ganllaw ar y cyd ar ddehongli’r troseddau sy’n gysylltiedig â tharfu, difa a dinistrio safleoedd bridio a mannau gorffwys.

Mae yna droseddau eraill yn ymwneud â meddu, cludo a gwerthu.

Rhywogaethau planhigion

Mae'r planhigion canlynol sy'n tyfu yng Nghymru yn Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop, ac maen nhw wedi'u rhestru yn Atodlen 5 Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017:

  • Tegeirian y Fign Galchog, Liparis loeselii
  • Llyriad-y-dŵr Arnofiol, Luronium natans
  • Rhedynen Cilarne, Trichomanes speciosum
  • Tafolen y Traeth, Rumex rupestris

O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, mae'n drosedd casglu, torri, dadwreiddio neu ddinistrio'n fwriadol unrhyw blanhigyn gwyllt sy'n rhywogaeth a warchodir gan Ewrop.

Mae yna droseddau eraill yn ymwneud â meddiant, cludo a gwerthu.

Trwyddedu

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau dan Reoliad 55 y Rheoliadau Cynefinoedd er mwyn i chi allu cadw at y gyfraith. Rydym ni'n rhoi trwyddedau at y dibenion penodol a restrir yn y Rheoliadau, os ydych chi'n bodloni'r tri phrawf canlynol:

  • mae diben y gwaith yn cyd-fynd ag un o'r dibenion sydd wedi'u rhestru yn y Rheoliadau Cynefinoedd (gweler isod)
  • does yna ddim dewis arall boddhaol
  • ni fydd y weithred a awdurdodir yn cael effaith niweidiol ar y gwaith o gynnal poblogaeth y rhywogaeth dan sylw ar statws cadwraethol ffafriol yn eu hystod naturiol

Dibenion trwyddedu

O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, gellir rhoi trwyddedau ar gyfer cyfres benodol o ddibenion yn cynnwys:

  • diogelu iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd neu unrhyw reswm hanfodol arall sydd o fudd cyhoeddus tra phwysig eraill yn cynnwys rhesymau cymdeithasol neu economaidd eu natur a chanlyniadau buddiol sy’n bwysig iawn i’r amgylchedd
  • dibenion gwyddonol ac addysgol
  • gosod modrwy neu nod ar anifeiliaid/adar
  • gwarchod anifeiliaid gwyllt neu blanhigion gwyllt
  • gwarchod unrhyw gasgliad sŵolegol neu fotanegol
  • atal clefyd rhag lledaenu
  • atal difrod difrifol

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y trwyddedau hyn, darllenwch 'Ydw i angen trwydded Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop?', 'Canllawiau ar Gyflogi Ecolegwyr' a 'Gwybodaeth i'w chynnwys mewn cais am drwydded Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop'.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.