Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Mae’r pathew, Muscardinus avellanarius, yn cael ei warchod o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, a elwir yn ‘Rheoliadau Cynefinoedd’. Y rheswm am hyn yw bod eu niferoedd wedi gostwng ledled Ewrop yn y degawdau diwethaf. Mae’r wybodaeth hon yn canolbwyntio ar drwyddedu pathewod yng Nghymru ac nid yw’n adolygiad cynhwysfawr o ecoleg pathewod na’r gyfraith sy’n ymwneud â phathewod.

Gall pathewod gael eu heffeithio gan amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys gwaith ar wrychoedd, cynlluniau ffyrdd, datblygiadau tai neu waith mewn coetiroedd.

Deddfwriaeth

Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn datgan bod y canlynol yn drosedd:

  • Dal, anafu neu ladd yn fwriadol unrhyw anifail gwyllt sy’n rhywogaeth a warchodir gan Ewrop
  • Tarfu’n fwriadol ar unrhyw anifeiliaid gwyllt o’r cyfryw rywogaethau
  • Difa neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys anifail o’r fath

Mae tarfu’n cael ei ddiffinio fel rhywbeth sy’n debygol:

  1. o amharu ar eu gallu –
    • i oroesi, bridio neu atgenhedlu, neu i fagu neu feithrin eu rhai bach, neu
    • yn achos anifeiliaid rhywogaeth sy’n gaeafgysgu neu sy’n mudo, yn amharu ar eu gallu i wneud hynny
  2. o effeithio’n sylweddol ar ddosbarthiad neu niferoedd y rhywogaeth y maen nhw’n perthyn iddi yn lleol

Bydd Defra a Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi dogfen ganllaw ar y cyd ar ddehongli’r troseddau sy’n gysylltiedig â tharfu, difa a dinistrio safleoedd bridio a mannau gorffwys.

Mae yna droseddau eraill yn ymwneud â meddu, cludo a gwerthu. Gweler ‘Meddu ar a Gwerthu Rhywogaethau a Warchodir’ i gael gwybodaeth am hyn.

Trwyddedu

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau o dan Reoliad 55 y Rheoliadau Cynefinoedd fel y gallwch chi weithio o fewn y gyfraith. Rydym yn eu rhoi at ddibenion penodol a restrir yn y Rheoliadau, os ydych chi'n bodloni'r tri phrawf canlynol:

  • mae diben y gwaith yn cyd-fynd ag un o'r dibenion sydd wedi'u rhestru yn y Rheoliadau Cynefinoedd
  • does yna ddim dewis arall boddhaol
  • ni fydd y weithred a awdurdodir yn cael effaith niweidiol ar y gwaith o gynnal poblogaeth y rhywogaeth dan sylw ar statws cadwraethol ffafriol yn eu hystod naturiol

Dibenion trwyddedu

O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, gellir rhoi trwyddedau ar gyfer cyfres benodol o ddibenion yn cynnwys:

  • diogelu iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd neu unrhyw reswm hanfodol arall sydd o fudd cyhoeddus tra phwysig yn cynnwys rhesymau cymdeithasol neu economaidd eu natur a chanlyniadau buddiol sy’n bwysig iawn i’r amgylchedd
  • dibenion gwyddonol ac addysgol
  • gosod modrwy neu nod
  • gwarchod anifeiliaid gwyllt

Gwyddonol neu Addysgol

Byddwch angen trwydded i gymryd neu darfu ar bathew, neu i ddifrodi neu rwystro mynediad i safle bridio neu fan gorffwys er mwyn gwneud unrhyw waith ymchwil neu arolwg manwl. I gael rhagor o wybodaeth am drwyddedau arolygu gweler ‘Gwneud cais am drwyddedau i wneud gwaith arolygu safonol ar bathewod’ a ‘Ffurflen gais Atodlen 5 a 6’. Gallwn hefyd roi trwyddedau ar gyfer gosod modrwy neu nod, yn cynnwys gosod tagiau olrhain radio a thagiau transbonder anwythol goddefol (PIT). Mae trwyddedu’r dulliau arolygu mwy mewnwthiol hyn yn gofyn am ddatganiad dull prosiect manwl. Os ydych chi’n gweithio tuag at eich trwydded arolygu eich hun gweler y Log Hyfforddiant Pathewod amgaeedig.

Cadwraeth

Os ydych am wneud gwaith rheoli neu adfer safleoedd sydd â phathewod bydd angen trwydded cadwraeth arnoch fel rheol. Gweler y dolenni ar y dudalen hon am ragor o wybodaeth.

Datblygu, gwaith coedwigaeth, rheoli cyfleustodau ac ati

I gael rhagor o wybodaeth am drwyddedau (datblygu) Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop gweler ‘Ydw i angen trwydded Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop?’, ‘Templed Datganiad Dull pathewod’, ‘Gwybodaeth i’w chynnwys mewn ffurflen gais am drwydded Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop’, ‘Canllawiau ar Gyflogi Ecolegwyr’ a ‘Ffurflen gais am drwydded datblygu’.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.