Isod, ceir rhestrau o geisiadau a gyflwynwyd a cheisiadau y penderfynwyd arnynt gan y Tîm Trwyddedu Morol. Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un o’r ceisiadau a dderbyniwyd ac a benderfynwyd, cysylltwch: 

permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Yn y rhan fwyaf o achosion gofynnir i ymgeiswyr roi hysbysiad cyhoeddus o’u cynigion mewn papur newydd lleol. Bydd yr hysbysiad hwn yn cyfeirio aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb i adeilad cyhoeddus lle bydd rhaid i’r ymgeisydd drefnu fod copïau o’r cais a dogfennau ategol ar gael. Bydd yr hysbysiad hefyd yn rhoi manylion cyswllt i’r cyhoedd er mwyn caniatáu iddynt anfon unrhyw sylwadau cysylltiedig â’r cais inni. Yn ystod y cyfnod hwn o hysbysu’r cyhoedd gellir gwneud cais am ddogfennau ac anfon sylwadau i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Hefyd, byddwch yn gallu dod o hyd i ddogfennau cysylltiedig â cheisiadau yr ymgynghorir yn eu cylch ar hyn o bryd ac sy’n gofyn am Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) neu sy’n cael eu hystyried o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol. 

Ceisiadau am Drwyddedau Morol a Dderbyniwyd

Rhif y Drwydded Enw Ymgeisydd Lleoliad y Safle Math o Gais

CML2050

Network Rail

Adnewyddu Traphont Kidwelly

Band 1

DEML2049

Cyfoeth Naturiol Cymru

Prosiect Adfer Wystrys Brodorol Cymru - Cam 2 - Treial gosod cwdyn a stoc magu

Band 2

 

Ceisiadau Trwyddedau Morol a Benderfynwyd arnynt

Rhif y Drwydded Enw Deilydd y Drwydded Lleoliad y Safle Math o Gais Penderfyniad

DEML2039

QinetiQ Ltd

QinetiQ, MOD Aberporth

Band 2

Cyhoeddwyd

RML2047

Prifysgol Bangor / Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru – Rheoli Adnoddau Naturiol Morol yn Gynaliadwy

Band 1

Cyhoeddwyd

SP2006

Afon Teifi Fairways Ltd

Pontŵn yn Patch Beach

Cais Cynllun Sampl

Cyhoeddwyd

Diweddarwyd ddiwethaf