Gwybodaeth am safleoedd sylweddau ymbelydrol

Beth yw safle Sylweddau Ymbelydrol?

Cafodd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 ('y Rheoliadau') eu cyflwyno ar 6 Ebrill 2010, a’u diwygio gan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2011.

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau manwl ar reoleiddio sylweddau ymbelydrol yn Gov.uk.

Lawrlwytho 'Canllawiau rheoleiddio sylweddau ymbelydrol (RSR)’ o Gov.uk.

Lawrlwytho 'Canllawiau Craidd Trwyddedu Amgylcheddol ar gyfer Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016' o Gov.uk.

Diffinnir Sylweddau Ymbelydrol yn Atodlen 23 y Rheoliadau ac mae'n rhestru’r radioniwclidau sy'n cael eu cynnwys yn y Rheoliadau. Mae’r Atodlen hon hefyd yn diffinio’r mathau o radioniwcidau sy’n cael eu cynnwys yn y Rheoliadau a’r safonau diogelwch y dylid eu defnyddio wrth eu trin. Ailgyhoeddwyd yr Atodlen drwy Reoliadau Diwygio 2011, a dyma’r fersiwn y dylid ei defnyddio nawr.

Mae yna dri phrif gategori o sylweddau ymbelydrol, yn dibynnu ar y ffordd y mae'r radioniwclidau'n cael eu defnyddio:

  • Ffynonellau wedi’u selio - lle mae’r radioniwclid ar ffurf soled ac wedi’i gau mewn cynhwysydd
  • Ffynonellau agored - lle mae’r radioniwclid yn nwy neu mewn toddiad ac yn cael ei ddefnyddio fel hylif
  • Ffynonellau gweithgaredd uchel wedi’i selio (HASS)

A ddylai eich gweithgaredd chi gael trwydded sylwedd ymbelydrol Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol?

Mae rhan 2 yr Atodlen yn nodi pwy sydd angen trwydded, a byddwch angen trwydded os ydych chi’n cynnal un neu ragor o’r gweithgareddau sylweddau ymbelydrol sy’n cael eu rhestru yn yr Atodlen oni bai bod eich sylweddau y tu allan i’w sgôp neu wedi’u heithrio.

Mae rhestr y gweithgareddau’n cynnwys:

  • cadw neu ddefnyddio deunydd ymbelydrol
  • derbyn, cronni neu waredu gwastraff ymbelydrol
  • cadw neu ddefnyddio offer ymbelydrol symudol

Ymholiadau e-bost cyffredinol - enquiries@naturalresourceswales.gov.uk

Ymholiadau cyffredinol ar y ffôn 0300 065 3000

Cwblhau y Ffurflenni Cais

Pan yn gwneud cais, dylech bob amser lenwi tair ffurflen:

Ffurflen A (Ynglyn a chi)

Ffurflen F (Taliadau a datganiadau)

A ffurflen B1, B2, B3, B4, B5, C2, C3, C4, D2, D3, E2, neu E4 - yn dibynnu ar ba fath o gais yr ydych yn ceisio amdano.

Nodwch bod ffurflenni B3 a C3 ar gyfer safleoedd niwclear.

Nodiadau Canllaw Rheolaethol

Mae Egwyddorion Amgylcheddol y Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol yn gosod fframwaith safonol ar gyfer yr asesiadau a’r dyfarniadau rydyn ni’n eu cymryd ynghylch defnyddio sylweddau ymbelydrol. Maen nhw'n ganllawiau sy’n helpu i ffurfio sail i’r penderfyniadau rydyn ni’n eu cymryd, gan gynnwys y rhai ynghylch trwyddedu a chydymffurfio pan fyddwn ni’n rheoleiddio’n uniongyrchol, pan fyddwn ni’n ymgynghoreion neu pan fyddwn ni’n gallu dylanwadu ryw ffordd arall.

Mae canllawiau pellach ar y pynciau canlynol i’w cael yn y dogfennau isod neu ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd.

  • Egwyddorion optimeiddio Rheoleiddio Sylweddau Ymbelydrol
  • Nodyn canllaw technegol monitro radiolegol - Monitro Radiolegol Amgylcheddol
  • Nodyn canllaw technegol 2 monitro radiolegol - Canllawiau cyflym
  • Egwyddorion ar gyfer Asesu Dosau Cyhoeddus Posibl yn codi o Ollyngiadau Awdurdodedig o Wastraff Ymbelydrol i’r Amgylchedd

Sut i gydymffurfio

Canllawiau ar sut i gydymffurfio â’r prif fathau o drwyddedau amgylcheddol rheoleiddio sylweddau ymbelydrol.

Gallwch ddefnyddio ein canllawiau i'ch helpu i ddeall:

  • eich trwydded
  • yr amodau rydyn ni’n ystyried sydd eu hangen i reoleiddio eich gweithgaredd
  • beth ddylech chi ei wneud i gydymffurfio â’ch trwydded

Canllawiau ar gydymffurfio â thrwydded amgylcheddol RSR ar gyfer ffynonellau seliedig
Lawrlwytho 'Sut i gydymffurfio â’ch trwydded amgylcheddol RSR EPR : ffynonellau seliedig' o Gov.uk

Canllawiau ar gydymffurfio â thrwydded ar gyfer cadw a defnyddio ffynonellau ymbelydrol seliedig categori 5
Lawrlwytho 'Sut i gydymffurfio â’ch trwydded amgylcheddol rheolau safonol ar gyfer cadw a defnyddio ffynonellau ymbelydrol seliedig Categori 5' o Gov.uk.

Canllawiau ar gydymffurfio â thrwydded amgylcheddol RSR ar gyfer ffynonellau agored
Lawrlwytho 'Ffynonellau agored a derbyn, crynhoi a gwaredu gwastraff ymbelydrol ar safleoedd nad ydynt yn rhai niwclear: sut i gydymffurfio â’ch trwydded amgylcheddol RSR EPR' o Gov.uk

Canllawiau ar gydymffurfio â thrwyddedau amgylcheddol ar gyfer gweithgareddau sylweddau ymbelydrol ar safleoedd niwclear trwyddedig.
Lawrlwytho 'Trwyddedau RSR ar gyfer safleoedd niwclear trwyddedig: Sut i gydymffurfio' o Gov.uk

and

Lawrlwytho 'Cyfres Canllawiau Rheoleiddiol RSR 2: Rheoleiddio gweithrediadau sylweddau ymbelydrol ar safleoedd niwclear trwyddedig' o Gov.uk

Canllawiau ar asesu dosau o ymbelydredd ïoneiddio i’r cyhoedd o ollyngiadau awdurdodedig.
Lawrlwytho 'Egwyddorion asesu dosau cyhoeddus arfaethedig sy’n deillio o ollyngiadau gwastraff ymbelydrol awdurdodedig i’r amgylchedd' o Gov.uk

Canllawiau yn nodi’r egwyddorion a’r fframwaith ar gyfer cynnal astudiaethau o optimeiddio a darganfod y Technegau Gorau sydd ar Gael (BAT)
Lawrlwytho 'RSR : Egwyddorion optimeiddio ym maes rheoli a gwaredu gwastraff ymbelydrol' o Gov.uk

Ffynonellau Gweithgaredd Uchel wedi’i Selio (HASS)

Os yw eich trwydded yn gofyn i chi gyflwyno adroddiadau Ffynonellau Gweithgaredd Uchel wedi’i Selio, gallwch ddefnyddio’r ffurflen ar waelod y tudalen hon.

Postiwch eich ffurflen i:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Arweinydd Tim Diwydiant Rheoledig
29 Newport Road
Llawr 5, Ty Cambria
Caerdydd
CF24 0TP

Dylech ystyried sut y gallai newid hinsawdd gynyddu perygl llifogydd ac felly’r perygl o achosi llygredd. I’ch helpu i asesu perygl llifogydd a’r mesurau y gallwch eu cymryd, gallwch ddarllen y canllawiau sydd ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd - 'Flood risks for small users of radioactive substances'.

Cyfiawnhad gweithgareddau

Ni ddylid mabwysiadu unrhyw ymarfer sy'n golygu amlygu i ymbelydredd oni bai bod hynny o ddigon o fudd i unigolion neu i gymdeithas i gyfiawnhau'r niwed y mae ymbelydredd yn ei achosi (yr egwyddor ‘cyfiawnhad’).

Dim ond ar gyfer ‘ymarfer y mae cyfiawnhad iddo’ neu ar gyfer gwaith nad oes gofyn ei gyfiawnhau y gallwn ni gyflwyno trwydded ar gyfer gweithgaredd sylweddau ymbelydrol. Y Llywodraeth sy'n penderfynu a oes cyfiawnhad i ymarfer a gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan GOV.UK

Diweddarwyd ddiwethaf