Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Cais i amrywio (newid) trwydded ar gyfer safle sylweddau ymbelydrol

Sut i wneud cais i amrywio eich trwydded sylweddau ymbelydrol

Cyn i chi wneud cais

Os hoffech newid dim ar eich trwydded, rhaid i chi wneud cais am amrywiad. Am ragor o gyngor ynglŷn â sut y gallwch newid trwydded, gweler ein ffurflenni cais a’n nodiadau cyfarwyddyd.

Sut i wneud cais

Ar y dudalen hon cewch ffurflenni cais ar gyfer trosglwyddo eich trwydded gyfan, neu ran ohoni, i rywun arall. Gellir llenwi’r ffurflenni cais yn electronig. Rhaid i chi lenwi rhannau A ac F, a llenwi’r adrannau rhan C addas.

Sylwch

Bydd angen Fersiwn 7 neu fersiwn ddiweddarach o Adobe arnoch i allu defnyddio'r ffurflenni electronig.

Ar ôl i chi ddewis y rhannau cywir o'r ffurflen, dim ond yr adrannau sy'n berthnasol i'ch cais y bydd angen i chi eu llenwi. Fodd bynnag, bydd angen i chi fynd i bob adran a thicio'r blychau priodol fel y gallwch chi symud ymlaen i'r adran nesaf.

Help gyda'ch cais

Os ydych chi'n cael trafferth llenwi'ch ffurflen gais, cysylltwch â ni trwy:

e-bost ymholiadau cyffredinol - ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhif ymholiadau cyffredinol 0300 065 3000

Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria
Caerdydd
CF24 0TP.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-A Ynglŷn â chi (Saesneg yn unig) PDF [202.7 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-A Ynglŷn â chi (Saesneg yn unig) PDF [202.8 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-C2 Newid trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol unswydd neu drwydded rheolau safonol (ffynonellau seliedig) (Saesneg yn unig) PDF [362.9 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-C2 Newid trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol unswydd neu drwydded rheolau safonol (ffynonellau seliedig) (Saesneg yn unig) PDF [85.7 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol - Rhan RSR-C3 Amrywiad i drwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol bwrpasol (safle niwclear - ffynonellau agored a gwastraff ymbelydrol) WORD [80.6 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-C3 Amrywiad i drwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol bwrpasol (safle niwclear - ffynonellau agored a gwastraff ymbelydrol) WORD [28.6 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-C4 Newid trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol unswydd (safle an-niwclear, ffynonellau agored a gwastraff ymbelydrol) (Saesneg yn unig) PDF [397.4 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-C4 Newid trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol unswydd (safle an-niwclear, ffynonellau agored a gwastraff ymbelydrol) (Saesneg yn unig) PDF [140.3 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-F Taliadau a datganiadau (Saesneg yn unig) WORD [205.6 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-F Taliadau a datganiadau (Saesneg yn unig) PDF [64.3 KB]
Ffurflen CC1 Taliadau cardiau credyd a debyd yn unig (Saesneg yn unig) PDF [381.9 KB]

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.