Cais am drwydded gweithgaredd perygl llifogydd: cyfrifo eich taliadau

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gyfrifo cost trwydded gweithgaredd perygl llifogydd.

Mae'r ffi yn seiliedig ar y math o waith rydych chi’n dymuno ei wneud ac ym mhle’r ydych chi eisiau ei wneud.

Cyfrifo eich ffi

Gwaith sy'n cael ei wneud o fewn 100 metr o'r adeilad agosaf, sydd heb fod yn un amaethyddol, ar orlifdir:

Math o waith Ffi mewn safle dynodedig Ffi mewn safle heb ei ddynodi

Gwaith o fewn sianel

£590

£394

Gwaith ar lan yr afon

£394

£394

Gwaith ar asedau rheoli perygl llifogydd newydd a chyfredol

£590

£394

Gwaith gorlifdir

£394

£394

Gollyngfeydd

£295

£295

 

Gwaith sy'n cael ei wneud o fewn 100 metr neu fwy o'r adeilad agosaf, sydd heb fod yn un amaethyddol, ar orlifdir:

Math o waith Ffi mewn safle dynodedig Ffi mewn safle heb ei ddynodi

Gwaith o fewn sianel

£394

£295

Gwaith ar lan yr afon

£394

£295

Gwaith ar asedau rheoli perygl llifogydd newydd a chyfredol

£394

£295

Gwaith gorlifdir

£394

£295

Gollyngfeydd

£295

£295

 


Ffioedd ar gyfer ceisiadau am fwy nag un gweithgaredd perygl llifogydd

O 1 Ionawr, byddwn yn codi ffi am bob gweithgaredd perygl llifogydd rydych chi'n bwriadu ei gynnal.

Os ydych yn cynnal yr un gweithgaredd perygl llifogydd fwy nag unwaith, byddwn yn codi'r ffi lawn am un gweithgaredd ac yn rhoi gostyngiad o 70% ar gyfer y gweithgareddau dilynol.

Mae gweithgareddau lluosog yn gymwys i gael gostyngiad os ydynt:

  • yr un gweithgaredd perygl llifogydd, er enghraifft, adeiladu nifer o ollyngfeydd
  • yn rhan o'r un prosiect ac ar un ffurflen gais
  • o fewn yr un ardal neu safle 
  • ar safleoedd sydd â'r un nodweddion a chyfyngiadau

Os ydych yn cynnal gwahanol weithgareddau perygl llifogydd, bydd ffi lawn ar gyfer pob gweithgaredd.

 

Ffioedd ar gyfer ceisiadau gyda chaniatâd cynllunio

Bydd ceisiadau sydd wedi asesu ac wedi cytuno ar y perygl llifogydd yn ystod y broses caniatâd cynllunio yn costio £295.

Bydd rhai o’r asesiadau eisoes wedi cael eu cwblhau ac mae’n lleihau faint o amser sydd ei angen arnom i ystyried y cais.

 

Sut i dalu

Byddwn yn cysylltu â chi i gymryd taliad pan fyddwn yn derbyn eich cais.

Ni fydd eich cais yn cael ei wneud yn briodol nes bydd y taliad wedi'i dderbyn. 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf