Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Cynlluniau masnachu allyriadau carbon ac effeithlonrwydd ynni

Gwybodaeth ynglŷn â mesurau'r llywodraeth a fwriadwyd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac i annog busnesau'r DU i arbed ynni a lleihau allyriadau carbon deuocsid

Newidiadau pwysig i daliadau electronig: Mae ein manylion banc wedi newid.

Os ydych eisiau talu am eich trwydded neu gais drwy drosglwyddiad electronig defnyddiwch y wybodaeth isod i wneud eich taliad os gwelwch yn dda.

Enw Cwmni:                Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyfeiriad Cwmni:          Adran Incwm, PO BOX 663, Caerdydd, CF24 0TP

Banc:                           RBS

Cyfeiriad:                     National Westminster Bank Plc, 2½ Devonshire Square, London, EC2M 4BA

Cod Didoli:                   60-70-80

Rhif y cyfrif:                10014438 

Peidiwch â defnyddio'r manylion a roddir yn ein ffurflenni cais am drwydded os yr ydyn yn wahanol i'r rhai uchod.

Byddwn yn diweddaru ein ffurflenni cyn gynted ag y bo modd, ond defnyddiwch y wybodaeth newydd wrth wneud taliadau electronig o hyn ymlaen os gwelwch yn dda.

Nodyn: Mae ffurflenni cais ar gyfer defnyddio offer gwastraff symudol wedi cael eu diweddaru gyda’r wybodaeth newydd. 

Gwneud taliadau o du allan y DU

Mae’r manylion hyn wedi newid.

Os ydych yn gwneud eich taliad o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig (y mae'n rhaid ei dderbyn yn sterling), ein rhif IBAN yw GB70 NWBK 6070 8010 014,438 a'n rhif SWIFT / rhif BIC yw NWBKGB2L.

Anfonwch eich manylion talu atom drwy ebost

Ebostiwch eich manylion talu a manylion math o daliad (fel ‘Amrywiad Gwastraff’ neu ‘Ansawdd Dwr Newydd’) i banking.team@naturalresourceswales.gov.uk neu banking.team@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu gallwch ffacsio 0300 065 3001.

Mae rhaid cynwys eich enw cwmi ac rhif anfoneb. Lle mae’n bossib, dylech hefyd gyflwyno hysbysiad talu. Bydd hyn yn sicrhau prosesu cywir o’ch taliad. 

Dylech dal gynnwys y cyfeirnod taliad BACS ar y ffurflen gais ei hun.

Os nad ydych yn dyfynnu eich rhif cyfeirnod taliad, efallai y bydd oedi wrth brosesu eich taliad a chais.

Cynlluniau yn y pecyn

Mae'r pecyn cynlluniau masnachu allyriadau carbon ac effeithlonrwydd ynni yn cynnwys:

  • System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd (EU ETS)
  • Cynllun Effeithiolrwydd Ynni'r Ymrwymiad Lleihau Carbon (CRC)
  • Cynllun Cyfleoedd Arbed Ynni (ESOS)
  • Cytundebau Newid Hinsawdd (CCA)

Pwy sy'n rheoleiddio'r cynlluniau?

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n rheoleiddio cyfranogwyr yng Nghymru yn y cynlluniau, ac eithrio'r CCA, sy'n cael ei reoleiddio'n llwyr gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am orfodi a chydymffurfio â'r EU ETS, CRC a ESOS ar gyfer cyfranogwyr yng Nghymru. Ar gyfer yr EU ETS, rydyn ni hefyd yn gyfrifol am agweddau gweinyddol y cynllun megis trwyddedu, a darparu arweiniad a gwybodaeth fanwl. 

Ein rôl yn y cynlluniau

Yn gyffredinol, gellir categoreiddio rôl Cyfoeth Naturiol Cymru fel:

  • EU ETS: cydymffurfio, gorfodi, trwyddedu (rhoi, amrywio, trosglwyddo ac ildio Trwyddedau Nwyon Tŷ Gwydr) a darparu cyngor ac arweiniad
  • CRC: cydymffurfio a gorfodi, a darparu cyngor ar faterion sy'n benodol i Gymru
  • ESOS: cydymffurfio a gorfodi
  • CCA: nid oes gennym ni rôl uniongyrchol gan fod y cynllun yn cael ei weinyddu gan Asiantaeth yr Amgylchedd

Cofrestru cynlluniau

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn parhau i gynnal a gweinyddu'r systemau cofrestru ar gyfer pob cynllun, a dylai cyfranogwyr o Gymru barhau i ddefnyddio'r systemau hyn ar gyfer y DU gyfan er mwyn galluogi cydymffurfiad.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn chwarae ei ran yn y gwaith o ddatblygu'r polisi sy'n cefnogi'r cynlluniau hyn, ac yn defnyddio data allyriadau i gefnogi targedau Llywodraeth Cymru. 

Pam y mae angen y cynlluniau hyn arnom ni?

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae tirlun y polisi newid hinsawdd sy'n ymwneud â charbon deuocsid ac allyriadau nwyon tŷ gwydr eraill yn y DU ac Ewrop wedi newid yn ddramatig. Mae gan lywodraeth y DU uchelgais i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr er mwyn lleddfu effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae wedi ymrwymo'n gyfreithiol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU o leiaf 80% (o'r waelodlin yn 1990) erbyn 2050.

Targedau allyriadau yng Nghymru

Mae gan Lywodraeth Cymru darged i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru o leiaf 3% bob blwyddyn mewn meysydd â chymhwysedd datganoledig, yn erbyn gwaelodlin o allyriadau cyfartalog rhwng 2006-2010. Mae'r targed yn cynnwys yr holl allyriadau nwyon tŷ gwydr 'uniongyrchol' yng Nghymru ac eithrio'r rheini o ddiwydiant trwm a chynhyrchu ynni, sy'n cael eu diffinio'n fras fel gosodiadau o dan ymdriniaeth yr EU ETS. 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn awyddus i Gymru gyflawni o leiaf 40% o ostyngiad mewn nwyon tŷ gwydr erbyn 2020 o gymharu â ffigurau 1990. Mae'r targed o 40% yn berthnasol i'r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru, nid dim ond y rhai hynny sydd mewn meysydd â chymhwysedd datganoledig, h.y. mae'n cynnwys y sector a fasnachir yn yr EU ETS.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.