Help

Pan fyddwch yn defnyddio gwefan Cyfoeth Natruiol Cymru, dymunwn i’ch profiad chi o’r we fod mor reddfol ag y bo modd.

Gellir llywio trwy’r safle yn y dulliau canlynol:

Teipiwch air yn y blwch chwilio

Dylai’r chwilotwr ar ein gwefan weithio’n eitha da. Os ydych yn ansiwr o ran ble i ddechrau, dylech ddefnyddio’r blwch chwilio. Bydd yn cynnig rhestr o dudalennau a dogfennau sy’n cynnwys y gair neu’r term roeddech yn chwilio amdano.

Y trywydd briwsion

Mae’r trywydd hwn yn dangos lle mae’r dudalen ym mhatrwm y wefan. Gallwch ddefnyddio dolennau’r trywydd hwn i fynd yn ôl at y brif dudalen benodau a’r hafan, gan olrhain eich camau o’r dechrau.

Os, er enghraifft, y mae’r trywydd fel hyn:

Hafan > Amdanom ni > Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud > Ein cynllun corfforaethol > Ein pum rhaglen Dda

Gallwch olrhain eich camau yn ôl at y dudalen hafan, neu’r bennod 'Amdanom ni', neu hyd yn oed yn ôl at “Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud”, a hynny’n uniongyrchol.

Map y safle

Gan restru pob pennod a thudalen yn y wefan, a dangos sut y mae’r penodau hyn yn cysylltu â’i gilydd yn eu tro. Gall gwybod fframwaith y safle eich helpu i gael gwell gafael ar lywio’r safle, gan ganiatáu i chi anelu’n benodol am bynciau perthnasol.

Edrych ar fap y safle

A – Y y safle

Mynegai llawn o’r meysydd sydd yn y safle. Chwiliwch am fapiau, er enghraifft, yn “m” a “mapiau”: mae cyn hawsed â hynny.

Edrych ar A-Y safle

Camgymeriadau mewn tudalennau

Rydym yn ceisio ein gorau i ddarparu’r wybodaeth fwyaf diddorol a chyflawn y gallwn, ond os gwelwch gamgymeriad yn unrhyw un o’n tudalennau, cysylltwch â ni fel y gallwn ei gywiro.

Gyrrwch neges e-bost at y tîm digidol yn: digidol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf