Pam y gallwn ddiwygio eich trwydded cwympo coed

Mae hyn ond yn berthnasol i bob cais am drwydded cwympo coed a dderbyniwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024.

Pryd y gallwn ddiwygio eich trwydded cwympo coed

Mae’n bosibl y bydd angen i ni ddiwygio neu amrywio’r amodau ar y drwydded cwympo coed yn yr amgylchiadau canlynol:

  • lle mae un o amodau’r drwydded yn cael ei dorri a bod hyn yn achosi neu’n debygol o achosi difrod sylweddol i’r amgylchedd
  • nid yw amodau’r drwydded wedi’u torri, ond rydym yn ystyried bod cwympo coed yn unol â’r drwydded yn achosi neu’n debygol o achosi difrod sylweddol i’r amgylchedd

Gallwch ddarllen y Canllawiau i Ymgeiswyr a Deiliaid Trwyddedau - amodau diwygio atal dirymu ac iawndal, sy'n darparu mwy o wybodaeth ynghylch pryd y gallai fod angen i ni ddiwygio'ch trwydded a'r camau y byddwn yn eu dilyn.  Byddwn bob amser yn ceisio diwygio trwydded mewn cytundeb â deiliad y drwydded fel cam cychwynnol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am apelio yn erbyn diwygiad i'ch trwydded.

Cysylltwch â ni os hoffech apelio penderfyniad i ddiwygio eich trwydded. 

Diweddarwyd ddiwethaf