Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Y Cod Carbon Coetiroedd yw’r safon wirfoddol ar gyfer y prosiectau creu coetiroedd hynny yn y DU fydd yn gwneud haeriadau ynghylch y carbon deuocsid maen nhw’n ei ddal a’i storio. Mae ardystiad annibynnol i’r safon hwn yn cynnig sicrwydd ac eglurder ynghylch arbedion carbon y coetiroedd sy’n cael eu rheoli mewn dull cynaliadwy.Mae’r Cod yn rhestru’r gofynion o ran cynllun a rheolaeth ar gyfer prosiectau gwirfoddol sy’n seiliedig yn y DU ac sy’n amcanu at ddal a storio carbon drwy greu coetiroedd.

Cwmpas Cod Carbon Coetiroedd y DU

Mae pob agwedd o’r Cod Carbon Coetiroedd – Safon, Cofrestrfa’r DU, Arweiniad, cyflwyno cais, a phrosesau dilysiad a gwiriad – yn berthnasol ac yn cael eu rheoli ar lefel y DU. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Coedwigaeth, sy’n cynnwys pob agwedd o’r Cod, yn cynnwys y canlynol:

  • Manylion sylfaenol y Cod, ei Safon, arweiniad a threfn lywodraethol
  • Mesur carbon, monitro ac adrodd yn ôl
  • Cofrestrfa Carbon Coetiroedd y DU – cyfarpar chwilio, rheolau, astudiaethau achos ac ystadegau
  • Prosesau cyflwyno cais ac arweiniad ar gyfer tirfeddianwyr, datblygiadau, cynllunio prosiect, dilysiad, gwiriad, templedi ac arweiniad
  • Unedau Carbon Coetiroedd a gwybodaeth ar gyfer prynwyr

O’r wefan, gallwch lawrlwytho’r Safon Cod Carbon Coetiroedd a dogfennau i roi cyfarwyddyd. Gallwch hefyd ddarllen astudiaethau achos, gweld sut i dderbyn ardystiad a’i gynnal, a chael rhagor o wybodaeth ynghylch rôl coed, coetiroedd a charbon.  

Cofrestru i gael y cod

Gwahoddir ceisiadau am brosiectau creu coetiroedd sy’n dymuno cofrestru a chael eu hardystio fel rhai sy’n cwrdd â safonau’r cod. Dylid cofrestru prosiectau o fewn dwy flynedd i’r dyddiad pan gychwynnir ar y gwaith o blannu’r coed. I weld sut i wneud hyn, dilynwch y dolenni ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth.

Yr angen am god carbon

Tra dylai cymdeithas wneud pob ymdrech i leihau allyriadau CO2, mae plannu coed hefyd yn gallu chwarae rhan trwy dynnu carbon deuocsid o’r atmosffer. Mae potensial coetiroedd i amsugno CO2 o’r atmosffer, tra ar yr un pryd yn cynnig llu o fanteision eraill i gymdeithas a bioamrywiaeth, yn cael ei gydnabod fwyfwy, ac mae nifer fawr o unigolion a busnesau’n awyddus i gyfrannu at y gwaith o blannu coed er mwyn helpu cymdeithas i amsugno’r carbon a allyrrir ganddi. Cyn buddsoddi mewn prosiectau o’r fath, fodd bynnag, mae pobl yn awyddus i dderbyn sicrwydd y bydd gwahanol gynlluniau’n arwain at gyflawni’r arbedion carbon sy’n cael eu haeru ganddynt.

Mae’r Cod Carbon Coetiroedd yn cynnig y sicrwydd hwnnw. Mae’r cod gwirfoddol hwn yn annog dull cyson o ymdrin â phrosiectau carbon mewn coetiroedd, ac yn cynnig eglurder a thryloywder i gwsmeriaid o ran yr arbedion carbon y gallai eu cyfraniadau’n realistig eu cyflawni.

Mae cydymffurfio â’r cod yn golygu bod prosiectau carbon mewn coetiroedd:

  • Yn cael eu rheoli mewn dull cyfrifol a chynaliadwy, a hynny i safonau cenedlaethol
  • Yn gallu darparu amcangyfrifon dibynadwy o faint o garbon gaiff ei ddal a’i storio o ganlyniad i blannu’r coed
  • Yn gorfod cael eu cofrestru’n gyhoeddus a’u gwirio’n annibynnol
  • Yn cwrdd â meini prawf a safonau tryloyw i sicrhau bod gwir fanteision carbon yn cael eu cyflawni

I gwrdd â gofynion y cod, rhaid i brosiectau:

  • Gael eu cofrestru, gan nodi union leoliad ac amcanion hirdymor y prosiect
  • Gwrdd â safonau coedwigaeth cenedlaethol i sicrhau eu bod yn cael eu rheoli mewn dull cynaliadwy a chyfrifol
  • Fod wedi llunio cynllun rheoli hirdymor
  • Ddefnyddio dulliau safonol i amcangyfrif y carbon gaiff ei ddal a’i storio
  • Ddangos bod y prosiect yn cyflawni buddion carbon ychwanegol at yr hyn a fyddai wedi digwydd fel arall
  • Cynnal dulliau gwirio drwy gydol y prosiect

Gall prosiectau sy’n cwrdd â’r holl ofynion hyn gario label cymeradwyaeth y Cod Carbon Coetiroedd.

Mae’r Cod yn gweithio ar ran pawb sy’n gysylltiedig ag ef:

  • Bydd cwsmeriaid yn cael sicrwydd eu bod wedi buddsoddi mewn cynllun cyfrifol, ac yn gallu gweld y manteision sy’n cael eu cynnig
  • Mae gan brosiectau ddulliau a safonau cydnabyddedig i’w dilyn, a gellir defnyddio’r ffaith bod eu statws wedi’i wirio fel mantais wrth werthu i gwsmeriaid posibl
  • Mae gan reolwyr coetiroedd safonau clir i’w dilyn o ran dulliau rheoli coedwigoedd

Gallwch gysylltu â Thîm Rheoli’r DU trwy anfon eich ymholiad at climatechange@forestry.gov.uk. Mae manylion pellach am ymgynghorwyr a chysylltiadau gwahanol wledydd ar gael ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth https://www.forestry.gov.uk/forestry/infd-8avlnv

Mae modd cysylltu â chynrychiolydd polisi Cymru trwy Dîm Polisi Coedwigaeth Llywodraeth Cymru bill.macdonald@wales.gsi.gov.uk

Os hoffech gysylltu â’r Tîm Rheoli Coedwigaeth Gynaliadwy, Cyfoeth Naturiol Cymru, gallech anfon eich ymholiad at sfmt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.