Penderfyniad Rheoleiddio: parhau gyda dulliau rheoli SoDdGA o Glastir i Gynllun Cynefin Cymru

Mae’r Penderfyniad Rheoleiddio hwn yn ddilys tan 1 Ionawr 2025 a bydd yn cael ei adolygu ar yr adeg honno.

Dylech wirio ar yr adeg honno i weld a yw’r Penderfyniad Rheoleiddio yn dal i fod yn ddilys.

Mae’r Penderfyniad Rheoleiddio hwn yn berthnasol os yw pob un o'r canlynol yn gymwys:

  • rydych chi'n berchennog neu feddiannydd tir o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
  • mae'r tir yn destun contract Glastir Uwch neu Glastir Tir Comin yn 2023
  • bydd y tir yn cael ei ymrwymo i gontract Cynllun Cynefin Cymru ar 1 Ionawr 2024. 

Penderfyniad Rheoleiddio

Bydd caniatâd i wneud gwaith a nodir yn atodlen opsiynau rheoli eich contract Glastir Uwch neu Glastir Tir Comin yn dod i ben pan ddaw'r contract i ben ar 31 Rhagfyr 2023.

Mae'r penderfyniad rheoleiddio hwn yn golygu y byddwch yn gallu parhau â'r un gweithgareddau rheoli ar SoDdGA pan fydd eich contract Cynllun Cynefin Cymru yn dechrau ar 1 Ionawr 2024, heb orfod cael caniatâd ysgrifenedig gennym ni.

Amodau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

Bydd yn ofynnol i chi ein hysbysu a chael caniatâd o dan Adran 28E Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad os ydych am newid unrhyw rai o’r agweddau ar y gweithgareddau y cytunwyd arnynt yn yr atodlen opsiynau rheoli sy’n gysylltiedig â’ch contract Glastir, sy’n digwydd o fewn SoDdGA.

Rhaid i chi ein hysbysu yn ysgrifenedig i wneud cais am ganiatâd newydd os ydych yn bwriadu cyflawni, neu ganiatáu i rywun arall wneud y canlynol:

  • gweithgareddau yn wahanol i’r ffordd a ddisgrifir yn eich cynllun rheoli Glastir
  • gweithgareddau ychwanegol a restrir ar yr hysbysiad SoDdGA fel OLDSI neu PDO.

Gallwch ddod o hyd i'r rhestr OLDSI neu PDO gan ddefnyddio ein chwiliad safleoedd dynodedig.

Gorfodi

Mae Penderfyniad Rheoleiddio yn golygu na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru fel arfer yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn ar yr amod:

  • bod eich gweithgaredd yn bodloni'r disgrifiad a nodir yn y Penderfyniad Rheoleiddio hwn
  • eich bod yn cydymffurfio â’r amodau a nodir yn y Penderfyniad Rheoleiddio hwn
  • nad yw eich gweithgaredd yn achosi niwed i'ch SoDdGA, llygredd amgylcheddol neu niweidio iechyd dynol, nac yn debygol o wneud hynny

Os ydych yn gweithredu o dan y Penderfyniad Rheoleiddio hwn ond yn meddwl efallai na fyddwch yn gallu cydymffurfio â’i amodau mwyach, rhaid i chi roi’r gorau i’r gweithgaredd a hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru ar unwaith.

Mae’r Penderfyniad Rheoleiddio hwn yn drefniant dros dro yr ydym wedi’i roi ar waith o ystyried y newidiadau deddfwriaethol a pholisi diweddar. Unwaith y bydd eich contract Cynllun Cynefin Cymru  yn dod i ben (neu ar ôl i’r Penderfyniad Rheoleiddio hwn ddod i ben, pa un bynnag sydd gyntaf), bydd y broses caniatâd SoDdGA arferol yn berthnasol ar gyfer unrhyw weithgareddau perthnasol a restrir ar restrau OLDSI neu PDO ar gyfer y SoDdGA(au) dan sylw.

 

Diweddarwyd ddiwethaf