Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

SoDdGA yw’r safleoedd pwysicaf o safbwynt treftadaeth naturiol Cymru. Maent yn safleoedd gwarchodedig iawn, a hynny er mwyn diogelu’r ystod, yr ansawdd a’r amrywiaeth o gynefinoedd, rhywogaethau a nodweddion daearegol a geir ym mhob rhan o Gymru. Y rhain yw conglfeini gwaith cadwraeth, gan ddiogelu craidd ein treftadaeth naturiol.
Mae dros 1,000 o SoDdGA yng Nghymru, sy'n gorchuddio dros 12% o arwynebedd arwyneb y wlad.

Safleoedd sydd wedi’u diogelu gan gyfraith Ewropeaidd a rhyngwladol

Ardaloedd Morol Gwarchodedig

Ardaloedd o’r môr, gwely’r môr neu’r lan sydd wedi’u diogelu dan gyfreithiau eraill yw Ardaloedd Morol Gwarchodedig, fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, Parthau Cadwraeth Morol a Safleoedd Ramsar.
Darllenwch fwy am Ardaloedd Morol Gwarchodedig.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol

Dyma’r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Darllenwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Parciau Cenedlaethol

Ardaloedd mawr sydd wedi’u dynodi gan y gyfraith er mwyn diogelu nodweddion arbennig eu tirwedd a hyrwyddo hamdden awyr agored yw Parciau Cenedlaethol. Mae gan Barciau Cenedlaethol eu hawdurdodau eu hunain sy’n rheoli cynllunio.

Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)

Caiff y rhain eu diogelu gan y gyfraith ar sail nodweddion arbennig eu tirwedd, eu bywyd gwyllt, eu daeareg a’u daearyddiaeth. Caiff AHNE eu diogelu i raddau mwy nag ardaloedd eraill dan y broses gynllunio. O ran tirwedd a golygfeydd, maent yn gydradd  â Pharciau Cenedlaethol.

Arfordiroedd Treftadaeth

Llecynnau o arfordir eithriadol, digyffwrdd. Fel arfer, awdurdodau lleol sy’n gofalu amdanynt. Mae bron i hanner arfordir Cymru yn arfordiroedd treftadaeth.

Canfod ardaloedd o dir a môr gwarchodedig

I weld a yw tir wedi’i ddynodi’n SoDdGA, defnyddiwch DataMapCymru neu system mapiau ‘Magic’ DEFRA.
I weld dogfennau’n ymwneud â SoDdGA, er enghraifft y rhesymau dros ei ddynodi a’i leoliad, defnyddiwch y chwiliad safleoedd dynodedig.

Sut rydym yn rheoli safleoedd arbennig

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ofalu am dirwedd Cymru trwy wneud y canlynol:
  • Cynghori Llywodraeth Cymru ynghylch pa ardaloedd y dylid eu dynodi a’u diogelu
  • Rhoi cyllid partneriaeth i brosiectau a fydd yn gwella’r dirwedd ac yn arwain at fuddion amgylcheddol i bobl, yr economi a bywyd gwyllt
  • Cynghori cynllunwyr ynghylch datblygiadau a allai effeithio ar dirwedd a bywyd gwyllt safleoedd gwarchodedig
Diweddarwyd ddiwethaf