Mae ein moroedd yn gartref i enghreifftiau o'r bywyd gwyllt morol gorau yn Ewrop, gydag ystod eang o gynefinoedd a rhywogaethau tanddwr.

Beth yw ardaloedd gwarchodedig morol?

Mae ardaloedd gwarchodedig morol yn ardaloedd o'r môr sydd wedi'u nodi i warchod cynefinoedd a rhywogaethau morol. Maent yn cwmpasu ystod eang o fywyd gwyllt morol, gan gynnwys cynefinoedd a rhywogaethau prin a sensitif.

Mae ein moroedd hefyd yn cefnogi ystod eang o weithgarwch dynol. Mae ein hardaloedd gwarchodedig morol yn ein helpu i nodi lle gallai fod angen i bwysau yn sgil y fath weithgarwch gael eu rheoli'n fwy gofalus.

Drwy ddiogelu ein hamgylchedd morol nawr, gallwn sicrhau y bydd ein moroedd yn parhau i gyfrannu at ein cymdeithas am genedlaethau i ddod.

Ymhlith yr ardaloedd gwarchodedig morol yng Nghymru mae:

Sut y caiff yr ardaloedd morol eu gwarchod?

Er mwyn sicrhau bod ein safleoedd morol yn cael eu gwarchod, gall cyfyngiadau, amodau neu ganllawiau fod yn gymwys i rai gweithgareddau mewn ardaloedd gwarchodedig morol.

Pa ardaloedd morol yng Nghymru a warchodir?

Mae dyfroedd Cymru wedi eu rhannu’n 139 safle, sef:

  • 13 Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA)
  • 15 Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)
  • 1 Parth Cadwraeth Morol (PCMF)
  • 107 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
  • 3 Safle Ramsar

Rhwydwaith ardaloedd gwarchodedig morol

Mae ardaloedd gwarchodedig morol Cymru yn rhan o rwydwaith o safleoedd ledled dyfroedd y DU. Yng Nghymru, rydym hefyd yn ceisio rheoli ein holl safleoedd gyda'i gilydd fel rhwydwaith. Gweithiwn gyda phartneriaid ledled Cymru a'r DU i gynllunio sut y rheolwn y rhwydwaith er mwyn helpu i gyflawni statws amgylcheddol da o dan Gyfarwyddeb Fframwaith Strategaeth Forol yr UE.

Cynlluniau pellach ar gyfer ardaloedd gwarchodedig yng Nghymru

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur er mwyn asesu'r rhwydwaith presennol o 139 o ardaloedd gwarchodedig morol yn nyfroedd Cymru. 

Os caiff unrhyw fylchau yn y rhwydwaith eu nodi, byddwn yn ymgynghori â stocddalwyr er mwyn canfod y ffordd fwyaf priodol o warchod unrhyw gynefinoedd a rhywogaethau morol pellach yng Nghymru.

Diweddarwyd ddiwethaf