Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Y dyfrgi, Lutra lutra, yw un o’n mamaliaid mwyaf cyfareddol ond dirgel. Anifail y nos ydyw yn bennaf ac mae’n eithaf swil. Mae hanes y dyfrgi yn enghraifft o lwyddiant mesurau cadwraeth: ar ôl tranc difrifol y dyfrgi yn y 1950au a’r 1960au mae yna boblogaethau da o ddyfrgwn i’w gweld ledled Cymru erbyn hyn. Llwyddwyd i gyflawni hyn trwy wahardd y plaladdwyr mwyaf niweidiol a pharhau i warchod eu cynefinoedd ar y glannau.

Nid yw’r dudalen hon yn rhoi sylw i bob agwedd ar y gyfraith nac ecoleg dyfrgwn, ond mae’n gyflwyniad i sut y gallwch chi helpu i warchod y dyfrgi.

Deddfwriaeth

Mae’r dyfrgi yn cael ei warchod o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, a elwir yn ‘Rheoliadau Cynefinoedd’, oherwydd bod ei niferoedd wedi bod yn disgyn ledled Ewrop dros y degawdau diwethaf.

Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn datgan bod y canlynol yn drosedd:

  • Dal, anafu neu ladd yn fwriadol unrhyw anifail gwyllt sy’n rhan o rywogaeth a warchodir gan Ewrop
  • Tarfu’n fwriadol ar unrhyw anifeiliaid gwyllt o’r cyfryw rywogaethau
  • Difa neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys anifail o’r fath

Mae tarfu’n cael ei ddiffinio fel rhywbeth sy’n debygol:

1. o amharu ar eu gallu –

  • i oroesi, bridio neu atgenhedlu, neu i fagu neu feithrin eu rhai bach, neu
  • yn achos anifeiliaid rhywogaeth sy’n gaeafgysgu neu sy’n mudo, yn amharu ar eu gallu i wneud hynny

2. o effeithio’n sylweddol ar ddosbarthiad neu niferoedd y rhywogaeth y maen nhw’n perthyn iddo yn lleol.

Bydd Defra a Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi dogfen ganllaw ar y cyd ar ddehongli’r troseddau sy’n gysylltiedig â tharfu, difa a dinistrio safleoedd bridio a mannau gorffwys.

Mae yna droseddau eraill yn ymwneud â meddu, cludo a gwerthu.

Fodd bynnag, mae’n gyfreithlon i chi ofalu am ddyfrgi sydd wedi brifo gyda’r bwriad o’i ryddhau, neu ladd un nad yw’n gallu gwella, cyn belled nad oedd yr anaf wedi deillio o’ch gweithred anghyfreithlon chi (Rheoliadau Cynefinoedd 44(2); Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 10(3)(a)(b)). Nid oes rhaid cael trwydded i gasglu dyfrgi marw (ee un wedi’i ladd ar y ffordd) ar gyfer ei gyflwyno ar gyfer post mortem fel rhan o Brosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd.

O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) mae’n anghyfreithlon:

  • Tarfu’n fwriadol neu’n ddi-hid ar unrhyw ddyfrgi tra ei fod yn byw mewn strwythur neu fan y mae’n ei ddefnyddio i gysgodi neu lochesu, 9(4)(b)
  • Rhwystro mynediad at unrhyw strwythur neu fan y mae dyfrgwn yn eu defnyddio i gysgodi neu lochesu, boed yn fwriadol neu’n ddi-hid 9(4)(c)
  • Gwerthu, cynnig neu roi i werthu unrhyw ddyfrgi 9(5)

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau o dan Reoliad 55 y Rheoliadau Cynefinoedd fel y gallwch chi weithio o fewn y gyfraith. Efallai y byddwch angen trwydded i reoli coetiroedd, clirio prysgwydd neu wneud gwaith datblygu, er enghraifft. Gweler ‘Trwyddedu Dyfrgwn’ a ‘Ydw i angen Trwydded Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop?’ am ragor o wybodaeth.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.