Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Y fadfall ddŵr gribog yw madfall mwyaf Cymru – mae’n 15 cm, ac mae gan y fenyw a’r gwryw fol oren a smotiau duon. Mae’r gwryw’n datblygu crib danheddog ar ei gefn. Mae’r rhywogaeth i’w gweld yn y rhan fwyaf o Gymru ac eithrio Sir Benfro a Cheredigion. Mae’n dibynnu ar byllau di-bysgod a chynefin daearol addas gerllaw ar gyfer bwyd, lloches ac er mwyn gaeafgysgu.

Nid yw’r dudalen hon yn rhoi sylw i bob agwedd ar y gyfraith nac ecoleg madfallod y dŵr, ond mae’n gyflwyniad i sut y gallwch chi helpu i warchod y rhywogaeth. I gael rhagor o wybodaeth am eu gwarchod gweler ‘Gwarchod y Fadfall Ddŵr Gribog’ – Canllaw byr ar gyfer rheoli cynefin.

Deddfwriaeth

Mae’r fadfall ddŵr gribog yn cael ei gwarchod o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 (fel y’u diwygiwyd), a elwir yn ‘Rheoliadau Cynefinoedd’, oherwydd bod ei niferoedd wedi bod yn disgyn ledled Ewrop dros y degawdau diwethaf.

Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn datgan bod y canlynol yn drosedd:

  • Dal, anafu neu ladd yn fwriadol unrhyw anifail gwyllt sy’n rhan o rywogaeth Ewropeaidd a warchodir
  • Tarfu’n fwriadol ar unrhyw anifeiliaid gwyllt o’r cyfryw rywogaethau
  • Cymryd neu ddifa’n fwriadol wyau anifail o’r fath, neu
  • Ddifa neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys anifail o’r fath

Mae tarfu’n cael ei ddiffinio fel rhywbeth sy’n debygol:

1. o amharu ar eu gallu:

  • i oroesi, bridio neu atgenhedlu, neu i fagu neu feithrin eu rhai bach, neu
  • yn achos anifeiliaid rhywogaeth sy’n gaeafgysgu neu sy’n mudo, yn amharu ar eu gallu i wneud hynny

2. o effeithio’n sylweddol ar ddosbarthiad neu niferoedd y rhywogaeth y maen nhw’n perthyn iddo yn lleol.

Bydd Defra a Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi dogfen ganllaw ar y cyd ar ddehongli’r troseddau sy’n gysylltiedig â tharfu, difa a dinistrio safleoedd bridio a mannau gorffwys.

Mae yna droseddau eraill yn ymwneud â meddu, cludo a gwerthu.

O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) mae’n anghyfreithlon:

  • Tarfu’n fwriadol neu’n ddi-hid ar unrhyw fadfall ddŵr gribog tra ei bod yn byw mewn strwythur neu fan y mae’n ei ddefnyddio i gysgodi neu lochesu, 9(4)(b)
  • Rhwystro mynediad i unrhyw strwythur neu fan y mae madfallod dŵr cribog yn eu defnyddio i gysgodi neu lochesu, boed yn fwriadol neu’n ddi-hid 9(4)(c)
  • Gwerthu, cynnig neu roi i werthu unrhyw fadfall ddŵr gribog 9(5)

Fodd bynnag, mae’n gyfreithlon i chi ofalu am fadfall ddŵr gribog sydd wedi brifo gyda’r bwriad o’i ryddhau, neu ladd un nad yw’n gallu gwella, cyn belled nad oedd yr anaf wedi deillio o’ch gweithred anghyfreithlon chi (Rheoliadau Cynefinoedd 44(2); Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 10(3)(a)(b)).

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau o dan Reoliad 55 y Rheoliadau Cynefinoedd fel y gallwch chi weithio o fewn y gyfraith. Efallai y byddwch angen trwydded i reoli pyllau, clirio prysgwydd neu wneud gwaith datblygu, er enghraifft. Gweler y dolenni ar y dudalen hon am ragor o wybodaeth.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.