Paratoi cynllun llifogydd ar gyfer cronfa ddŵr

Mae unrhyw gronfa ddŵr sy'n storio dŵr uwchben tir naturiol, y tu ôl i arglawdd neu argae, yn destun dirywiad a gallai fethu. Gall y llifogydd a allai gael eu hachosi gan fethiant eich cronfa ddŵr ddigwydd yn gyflym iawn a gall y canlyniadau fod yn ddinistriol i chi, i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio i lawr yr afon, a'r amgylchedd.

Mae’r canllawiau hyn wedi’u hysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o gronfeydd dŵr ac efallai na fydd y cyfan yn berthnasol i chi neu’ch cronfa ddŵr. Dylech ddefnyddio'r penawdau fel canllaw a dewis fformat sy'n addas i chi.

Byddwch yn gymesur, yn gryno ac yn glir

Ysgrifennwch eich cynllun llifogydd er mwyn eich cynorthwyo i ymateb yn effeithiol. Dylai eich cynllun llifogydd fod:

  • yn gymesur â'r perygl y gallai eich cronfa ddŵr ei achosi
  • yn gryno – gan ganolbwyntio ar bwy sy'n gwneud beth, ble a phryd
  • yn glir – gan ddefnyddio iaith, diagramau a lluniau sy’n hawdd eu deall

Os bydd digwyddiad yn eich cronfa ddŵr sy’n effeithio ar bobl, eu heiddo neu’r amgylchedd, gallech fod yn destun ymchwiliad ac yn wynebu hawliadau sylweddol. Os yw digwyddiad yn effeithio ar eich eiddo chi yn unig, gallai achosi difrod, colled ac anghyfleustra i chi o hyd. Mae ysgrifennu a chynnal cynllun llifogydd yn dangos rheolaeth dda o'ch dyletswydd gofal i atal niwed i eraill ac i'r amgylchedd.

Nid yw ffonio 999 yn gynllun

Mae digwyddiadau argae yn aml yn digwydd ar adegau o lifogydd pan fo gwasanaethau brys eisoes wedi ymrwymo i ddigwyddiadau eraill. Ni ddylech ddibynnu ar  ragdybiaeth y bydd cymorth ar gael ar unwaith. Ond pan fyddwch yn ffonio, gallwch ddefnyddio'ch cynllun llifogydd i ddarparu gwybodaeth glir i'w helpu i flaenoriaethu ymateb.

Cymerwch ran a chymerwch gyfrifoldeb

Rydym yn argymell mai'r bobl sy’n gweithredu’r gronfa ddŵr sy'n ysgrifennu'r cynllun llifogydd er mwyn sicrhau eu bod yn hyderus ac yn gyfarwydd â'r cynllun. Efallai y bydd angen cyngor technegol arnoch gan beiriannydd cronfeydd dŵr neu arbenigwr arall, ond chi sy’n gyfrifol am effeithiolrwydd eich cynllun llifogydd.

Gall eich cynllun llifogydd fod mewn fformat digidol neu ar bapur. Gallai fformat digidol fod yn well os yw newidiadau yn debygol o ddigwydd yn aml, ond sicrhewch eich bod ond yn dibynnu ar gopïau digidol os oes gennych fynediad parod a dibynadwy atynt a bod gennych bŵer wrth gefn lle cânt eu storio. Ystyriwch ddiogelwch data a hygyrchedd ymarferol y safle. Rydym yn argymell bod copïau papur yn wrth-ddŵr.

Lleoliad

Bydd angen i'ch cynllun llifogydd nodi lleoliadau cywir. Gall y wefan grid reference finder eich helpu i nodi union leoliadau mewn gwahanol fformatau a darparu dolenni ar gyfer y canlynol:

  • ardal cod post
  • cyfeiriad post llawn a chod post
  • Cyfeirnod Grid Cenedlaethol Prydain fel cyfeirnod grid, neu fel dwyreiniad neu ogleddiad
  • What3Words, sy'n darparu lleoliad cywir i 3 metr sgwâr

Beth i'w gynnwys yn eich cynllun llifogydd

Mae’r canllawiau isod wedi’u llunio ar gyfer cronfeydd dŵr o bob maint a chymhlethdod. Ni fydd yr holl ganllawiau yn berthnasol i'ch cronfa ddŵr chi.

Tudalen glawr

Dylai'r dudalen glawr gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • enw'r gronfa ddŵr (gydag unrhyw enwau lleol eraill a ddefnyddir wedi'u nodi mewn cromfachau)
  • lleoliad a chyfeiriad y gronfa ddŵr, gan gynnwys cod post
  • Cyfeirnod Grid Cenedlaethol a lleoliad What3Words
  • dynodiad risg: “cronfa ddŵr risg uchel” neu “gronfa ddŵr heb ei dynodi”
  • enw a chyfeiriad yr ymgymerwr (endid cyfreithiol y perchennog neu weithredwr)
  • enw a manylion cyswllt 24 awr yr unigolyn ar lefel uwch sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol am ymateb i ddigwyddiadau (penderfynwr gweithredol)
  • enw a manylion cyswllt yr unigolyn sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am ddiogelwch y gronfa ddŵr
  • dyddiad yr adolygiad diwethaf
  • dyddiad y prawf cynllun llifogydd diwethaf

Gallwch ddefnyddio grid reference finder ac What3words i'ch helpu i nodi cyfeirnodau grid a chyfesurynnau'r lleoliad.

Cynlluniwch eich gweithredoedd

Gall digwyddiadau achosi straen. Gall gwneud penderfyniadau ar gamau gweithredu a gynlluniwyd ymlaen llaw sydd wedi'u sylfaenu ar gyngor cadarn fod o gymorth. Cadwch eich camau gweithredu yn glir ac yn syml. Gellir rhannu eich camau gweithredu arfaethedig yn dri cham, a ddisgrifir isod.

Cadarnhewch y digwyddiad

Ystyriwch pwy fydd yn gwneud beth a sut i gadarnhau digwyddiad pan fo digwyddiad yn eich cronfa ddŵr neu pan fydd arsylwad o rywbeth anarferol neu anghywir, er enghraifft:

  • dŵr yn gorlifo dros yr argae neu y tu allan i sianeli peirianyddol
  • gollyngiadau, tryddiferiadau, a mannau gwlyb (yn enwedig os ydynt yn newydd, neu wedi newid)
  • sefydlogi, cwympiadau, neu holltau sy'n dangos symudiad yn yr argae neu'n agos ato
  • lefelau dŵr anarferol o uchel neu isel
  • darlleniadau offeryn anarferol neu ddarlleniadau ar goll
  • difrod adeileddol, fandaliaeth, neu broblem yn yr argae neu ei gorlifan

Rhowch gyfarwyddyd clir ar sut i gysylltu â'r peiriannydd goruchwylio am gyngor a sut i ddarganfod beth yw difrifoldeb y digwyddiad. Cofiwch gynnwys manylion cyswllt peiriannydd goruchwylio wrth gefn os na ellir cysylltu â'ch peiriannydd arferol. Nodwch pwy arall yn eich sefydliad sydd angen eu hysbysu.

Efallai y bydd angen i chi gael cyngor gan beiriannydd archwilio a all ddarparu mwy o arbenigedd na'ch peiriannydd goruchwylio. Dylech nodi a rhestru manylion cyswllt y peirianwyr archwilio mwyaf priodol o un o baneli canlynol y llywodraeth:

Yn ogystal â'ch cynllun llifogydd, efallai y byddwch yn dymuno cynnwys trothwyon penodol yn eich cyfarwyddiadau gweithredol y mae angen gweithredu arnynt – er enghraifft, pan fydd dŵr yn cyrraedd lefelau penodol.

Ymateb

Meddyliwch am ddigwyddiadau rhesymol ragweladwy, fel y rhai a restrir uchod, a nodwch y camau gweithredu y gall fod eu hangen i atal dirywiad, i sefydlogi'r digwyddiad, ac i wneud atgyweiriadau brys.

Nodwch y bobl a ddylai ymateb a pha gamau y dylent eu cymryd ar unwaith.

Cyfeiriwch at yr adran cynllun llifogydd yn y ac unrhyw awdurdodiadau mewnol ar gyfer hyn, fel y disgrifir uchod.

Mae lleihau lefel y dŵr yn cymryd amser ac efallai y bydd angen i chi wneud atgyweiriadau yn gyflym.

  • Rhestrwch gyflenwyr lleol ar gyfer deunyddiau megis bagiau tywod, gorchuddion plastig diwydiannol, a deunyddiau llenwi swmp megis carreg a chlai
  • Rhestrwch o ble y gellir benthyca neu logi peiriannau trwm megis tractorau, llwythwyr, cloddwyr, a lorïau codi (gyda gyrwyr)

Os ydych yn casglu eich deunyddiau eich hun, neu os oes gennych eich peiriannau eich hun, cofiwch gynnwys cyfarwyddiadau ar ble y cânt eu cadw fel arfer. Byddai'n ddefnyddiol darganfod p'un a all cyflenwyr ddarparu gwasanaeth brys neu wasanaeth y tu allan i oriau.

Ystyriwch sut y gallai fod angen i chi ofalu am iechyd, diogelwch a lles pobl ar y safle mewn tywydd gwael neu yn y tywyllwch.

Dylai eich camau gweithredu arfaethedig fod yn barod ar gyfer ansicrwydd ac yn addasadwy i amgylchiadau newidiol.

Adfer

Ar ddiwedd eich cynllun llifogydd, dylech nodi unrhyw gamau gweithredu y gall fod eu hangen ar ôl i'r argyfwng ddod i ben. Dylech gynnwys awgrymiadau i wneud y canlynol:

  • cyflwyno adroddiad rhagarweiniol ar ôl y digwyddiad
  • adolygu neu ddiwygio eich cynllun llifogydd

Cyfarwyddiadau ar gyfer tynnu i lawr mewn argyfwng

Rhaid i chi gynnwys cyfarwyddiadau clir ar sut i leihau lefel y dŵr yn eich cronfa ddŵr. Defnyddiwch ddisgrifiadau, diagramau, neu ffotograffau anodiadol i'ch helpu i ddisgrifio'r camau gweithredu. Croes-gyfeiriwch leoliadau pwysig ar y .

Rheoli’r mewnlif

Os gallwch gau neu leihau llif y dŵr sy’n mynd i’ch cronfa ddŵr, disgrifiwch sut i wneud hyn. Nodwch ystod y mewnlif a ddisgwylir a chynhwysedd unrhyw wyriad o amgylch y gronfa ddŵr.

Fel arall, ysgrifennwch: “ni ellir rheoli mewnlifoedd i'r gronfa ddŵr”.

Gatiau a falfiau

Disgrifiwch leoliad a math unrhyw allfa waelod neu falf sgwrio a sut i'w defnyddio – er enghraifft, i ba gyfeiriad y dylid eu troi a sawl gwaith. Os oes angen allwedd, handlen neu olwyn i'w troi, sicrhewch eich bod yn nodi ble y caiff ei chadw. Dylech gynnwys nifer y bobl sydd eu hangen i ddefnyddio'r offer.

Nodwch yr ymdrech sydd ei hangen i agor y falf neu'r giât yn llawn ac am ba hyd y dylid gwneud hyn – er enghraifft: “i agor i 100%, trowch y werthyd yn glocwedd 60 tro llawn”.

Nodwch gynhwysedd pob allfa a'r gyfradd ryddhau y byddech yn disgwyl ei chyflawni.

Pympiau

Os nad oes gan eich cronfa ddŵr bibellau neu declynnau tynnu dŵr, neu os yw'r rhain yn gyfyngedig, rhaid i chi gynllunio i ddefnyddio pympiau. Os nad oes gennych bympiau ar y safle, rhaid i chi eu llogi. Rhestrwch y darparwyr pympiau a'r contractwyr y byddwch yn eu defnyddio a'r amseroedd cyflenwi tebygol. Gallech hefyd ofyn i'r cyflenwr ymweld â'r safle a gwneud argymhellion o ran maint y pympiau.

Cynlluniwch y lleoliadau gorau ar gyfer gosod y pympiau. Nid yw pob pwmp yn symudol, ac efallai y bydd rhaid dadlwytho rhai mawr â chraen. Ystyriwch beth yw'r gofynion o ran eu hail-lenwi â thanwydd a'u goruchwylio.

Pibellau ar gyfer gollyngiadau

Cynlluniwch y llwybr ar gyfer gosod y pibellau a ble i ollwng y dŵr. Ystyriwch p'un a fyddai angen i chi adeiladu trac mynediad i gyrraedd y lleoliad pwmpio gorau, y gellid ei adeiladu o ddeunydd geodecstil a cherrig. Ystyriwch ei bod yn bosib y bydd angen symud pibellau a fflotiau wrth i lefelau'r dŵr newid, gan ddadorchuddio mwd trwchus.

Effeithiau amgylcheddol tynnu i lawr

Disgrifiwch unrhyw gamau gweithredu y gellir eu cymryd a fydd yn lleihau effaith amgylcheddol gwagio'r gronfa ddŵr. Rhaid i ollyngiadau o gronfeydd dŵr gael eu gwneud fel arfer yn unol â'r amodau a osodir gan drwydded neu gydsyniad a roddwyd gennym ni. Mewn argyfwng, efallai na fyddwch yn gallu cydymffurfio â'r holl amodau, ond dylech baratoi datganiad dull ymlaen llaw i esbonio'r camau y byddwch yn eu cymryd i leihau llygredd.

Dylech gynnwys cyfarwyddyd i gysylltu â ni ar 03000 65 3000 i roi gwybod i'n swyddogion ar ddyletswydd y bydd dŵr cronfa ddŵr yn cael ei ryddhau, a dweud wrthym am ba hyd y bydd hynny'n digwydd a'i effaith bosibl.

Canllawiau tynnu i lawr manwl

Os ydych yn gweithredu cronfa ddŵr uchel ei risg, dylech ddisgwyl i’ch peirianwyr wneud argymhellion er mwyn sicrhau bod eich cronfa ddŵr yn bodloni’r cynhwysedd a chyfraddau tynnu i lawr gorau posibl.

Mae'n debyg y bydd angen cyngor arnoch gan eich peiriannydd goruchwylio i gyfrifo'r gyfradd tynnu i lawr a ragwelir ar gyfer ystod o amodau mewnlif pan fydd yr allfa waelod yn gwbl agored. Nodwch:

  • y pwynt lle mae lefel y dŵr 1 metr yn is na lefel gorlif yr orlifan er mwyn amddiffyn rhag erydiad yn rhan uchaf y graidd
  • y pwynt lle mae dyfnder y dŵr wedi cyrraedd 70% o lefel gychwynnol y gronfa ddŵr (mae hyn yn haneru yn fras y pwysau ar yr argae)

Dylai newidiadau i'r cyfleusterau tynnu i lawr eich annog i adolygu eich cynllun llifogydd.

Manylion cyswllt a chynllun cyfathrebu

Dylai eich cynllun llifogydd gynnwys y canlynol:

  • Rhifau ffôn pedair awr ar hugain yr holl berchnogion, staff gweithredol a chynghorwyr technegol y gall fod angen eu galw, gan gynnwys crynodeb o’u rôl
  • manylion cyswllt unrhyw gontractau “ar alwad” sydd ar waith
  • sut i rybuddio ymatebwyr brys a'r wybodaeth i'w rhoi
  • manylion cyswllt ar gyfer defnyddwyr cytunedig y gronfa ddŵr neu unigolion eraill y gallai fod angen iddynt wybod bod y gronfa ddŵr ar gau
  • manylion signal ffôn symudol, gan gynnwys rhwydweithiau ffôn symudol ar y safle
  • y llinellau tir sefydlog agosaf
  • manylion cyswllt y darparwr yswiriant

Gwybodaeth sylfaenol

Rhestrwch yr wybodaeth ganlynol, a ellir ei defnyddio fel crynodeb defnyddiol wrth friffio peirianwyr ac ati.

  • Math o gronfa ddŵr “cronni” (yn cael ei llenwi gan gwrs dŵr yn uniongyrchol), “di-gronni” (yn cael ei llenwi trwy ddargyfeirio neu bwmpio dŵr), “gwasanaeth” (cronfa ddŵr nad yw’n cronni wedi'i gwneud o frics neu goncrit a ddefnyddir ar gyfer cyflenwad dŵr) 
  • Math o adeiladwaith, Er enghraifft, “arglawdd wedi'i lenwi â phridd”, “arglawdd wedi'i lenwi â cherrig”, “argae disgyrchiant concrit”, ac ati.
  • Categori llifogydd ar gyfer dyluniad yr argae (Categori A–D). Bydd hwn wedi'i nodi yn eich adroddiad archwilio, neu gallwch ofyn i ni neu eich peiriannydd goruchwylio am gyngor.
  • Blwyddyn adeiladu (hysbys neu amcangyfrifedig) a’r dyddiad a addaswyd ddiwethaf
  • Ei harwynebedd
  • Uchder yr argae
  • Cynhwysedd

Disgrifiad

Rydym yn awgrymu bod yr wybodaeth ganlynol yn cael ei darparu fel disgrifiad byr neu’n cael ei chynnwys ar lun neu gynllun o'r safle:

  • disgrifiwch sut mae dŵr yn mynd i mewn i'r gronfa ddŵr
  • disgrifiwch sut mae'r gorlifoedd neu'r gorlifannau wedi'u trefnu
  • tynnwch sylw at gronfeydd dŵr eraill i fyny'r afon ac i lawr yr afon
  • rhowch ddisgrifiad byr o unrhyw addasiadau, nodweddion penodol neu ddefnyddiau o’r gronfa ddŵr a allai lywio ymateb brys

Gwybodaeth a dogfennau ategol

Yn ystod digwyddiad, efallai y bydd angen i beirianwyr a chynghorwyr eraill weld ystod o wybodaeth am eich cronfa ddŵr er mwyn llywio eu hymateb. Dylech gadw'r holl wybodaeth am eich cronfa ddŵr mewn un lle. Os nad yw hyn yn bosibl, nodwch ble y caiff ei chadw.

Cadwch restr o'r wybodaeth sydd gennych a rhowch hon i'ch peirianwyr.

Map llifogydd

Dylech gadw copi o'ch map llifogydd cronfa ddŵr gyda'ch cynllun llifogydd. Os nad oes gennych fap llifogydd, dylech gysylltu â ni.

Gallwch hefyd ddefnyddio ein Syllwr Map Llifogydd ar lein.  

Cynllun lleoliad a mynediad

Mae'r adran hon yn ymwneud â darparu gwybodaeth i unrhyw un o'ch staff neu gontractwyr fel y gallant gael mynediad i'r safle a dod o hyd i'w ffordd o gwmpas. Dylech ei hysgrifennu ar gyfer y rhai a allai fod yn llai cyfarwydd â'r gronfa ddŵr sy'n ymweld yn llai aml â hi.

Defnyddiwch y map llifogydd, yr wybodaeth yn eich adroddiadau archwilio, a'ch gwybodaeth leol eich hun i feddwl am y llwybrau i'ch cronfa ddŵr ac oddi yno y gallai llifogydd effeithio arnynt, a sut y gellir eu hosgoi.

Darparwch fap a/neu ddisgrifiad sy'n dangos lleoliad y gronfa ddŵr a’r llwybrau mynediad gorau o’r prif ffyrdd agosaf. Mae graddfa map o 1:50,000 yn briodol fel arfer.

Amlygwch a disgrifiwch y prif lwybrau mynediad a'r pwyntiau mynediad. Dylech gynnwys llwybrau mynediad ar draws tir cyfagos ac unrhyw amodau neu gytundebau ar gyfer hyn. Darparwch y llwybrau amgen gorau a allai fod yn briodol.

Tynnwch sylw at unrhyw gyfyngiadau a allai gyfyngu ar fynediad cerbydau megis lled, uchder, pwysau, troadau sydyn, neu gyfyngiadau parcio. Nodwch ardaloedd sydd â phroblemau megis llifogydd lleol a allai rwystro mynediad.

Cynllun y safle

Map yw eich cynllun safle gyda marciau a disgrifiadau o'r gronfa ddŵr sy'n dangos ei phrif adeileddau. Bydd cynllun safle da yn helpu eich staff a'ch contractwyr i ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas yn effeithiol. Os oes gennych chi sawl argae, efallai y bydd angen sawl cynllun safle arnoch.

Dylid cynnwys yr adeileddau canlynol ar gynllun safle:

  • argaeau ac argloddiau
  • adeileddau rheoli mewnlif sy'n rheoli'r dŵr sy'n mynd i mewn i'r gronfa ddŵr
  • gorlifan/gorlifannau neu bibell(au) gorlif
  • pibellau, falfiau, neu sianeli ac ati sy'n rheoli'r dŵr

Meddyliwch am fynediad, a lle bo’n briodol, marciwch y canlynol:

  • mynedfeydd i gerbydau, mannau parcio, a derbynfeydd
  • llwybrau mynediad lle bydd angen cerbyd 4x4
  • gatiau wedi'u cloi a sut i'w hagor
  • mannau trafferthus posibl, megis tir meddal a cheblau uwchben

Ychwanegwch y manylion sylfaenol canlynol:

  • y lle gorau i osod pympiau symudol a gosod pibellau cysylltiedig
  • lleoliad offer megis allweddi falfiau, a dolenni ac olwynion llifddorau
  • os yw'r signal ffôn symudol yn wael, nodwch y mannau lle mae'n fwyaf dibynadwy. Os nad oes signal ffôn symudol ar y safle, marciwch yn glir: “Nid oes signal ffôn symudol ar safle'r gronfa ddŵr

Ystyriaethau cyffredinol

Dylai eich cynllun llifogydd ganolbwyntio ar yr wybodaeth a gweithgareddau hanfodol. Lle bo’n briodol, efallai y bydd angen i chi ystyried a chynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • dirprwyo awdurdod ar gyfer cymryd camau gweithredu neu wneud penderfyniadau, gan gynnwys penderfyniadau ariannol
  • dirprwyaeth ar gyfer digwyddiadau hirhoedlog
  • cyfathrebu â'r gwasanaethau brys, a rhwng peirianwyr, cynghorwyr a chontractwyr
  • cyfathrebu â chymunedau lleol, yn unol â’r cynllun oddi ar y safle
  • eglurder ynghylch pwy sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros reoli’r digwyddiad, gan gynnwys iechyd, diogelwch a lles pobl

Po fwyaf o bobl sy'n gofalu am y gronfa ddŵr neu'n ymweld â hi, y mwyaf y bydd angen i chi gynllunio sut i ofalu amdanynt. Dylech ystyried yr angen am asesiad risg ar gyfer y canlynol:

  • pobl sy'n gweithio ar eu pen eu hunain a/neu sydd ag oriau gwaith hir
  • gweithio mewn dŵr neu'n agos ato, mewn mannau cyfyng, ac ar uchder
  • afiechydon a gludir gan ddŵr
  • llithro a baglu
  • tywydd garw a thywyllwch

Efallai y byddai'n well cadw rhai gweithdrefnau fel rhan o'ch cynllun rheoli diogelwch cronfa ddŵr cyffredinol, gan gadw unrhyw wybodaeth sy'n benodol i ddigwyddiad yn y cynllun llifogydd.

Lleihau’r effaith amgylcheddol

Dylech gynnwys cyfarwyddyd i gysylltu ag CNC ar 03000 65 3000 i hysbysu ein swyddogion ar ddyletswydd y bydd dŵr cronfa ddŵr yn cael ei ryddhau ac i ddweud wrthym am ba hyd y bydd hyn yn digwydd a'i effaith bosibl. Bydd hyn hefyd yn sicrhau eich bod yn darparu eich hysbysiad rhagarweiniol statudol o'r digwyddiad.

Rhaid i ollyngiadau o gronfeydd dŵr gael eu gwneud fel arfer yn unol â'r amodau a osodir gan drwydded amgylcheddol neu gydsyniad o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr. Mewn argyfwng, efallai na fyddwch yn gallu cydymffurfio â'r amodau hyn, ond dylech baratoi datganiad dull yn egluro'r holl gamau i'w cymryd i leihau llygredd.

Gwirio eich cynllun llifogydd

Pan fydd eich cynllun llifogydd wedi'i gwblhau, dylech wneud cofnod yn Rhan 4 o'ch ffurflen gofnod ragnodedig.

Bydd eich peiriannydd goruchwylio yn gwirio eich cynllun llifogydd a'ch ffurflen gofnod ragnodedig ac efallai y bydd yn darparu argymhellion. Gwneir hyn fel arfer fel rhan o'i ddatganiad adran 12. Os nad oes gennych beiriannydd goruchwylio, gallwch ofyn i beiriannydd o unrhyw un o'r paneli cronfeydd dŵr i wneud hyn.

Rhannu eich cynllun llifogydd

Ar gyfer eich defnydd chi mae eich cynllun llifogydd ac nid oes angen ei rannu fel arfer, ac eithrio'r canlynol:

  • ar gais gennym ni neu unrhyw un o'ch peirianwyr penodedig
  • ar gais gan eich Fforwm Cydnerth Lleol neu adran gynllunio at argyfyngau eich awdurdod lleol sy'n gyfrifol am lifogydd cronfeydd dŵr

Dylai eich cynllun fod ar gael mewn fformat y gellir ei rannu'n hawdd. Dylech farcio a diogelu eich cynllun llifogydd fel dogfen ‘fasnachol gyfrinachol’ neu ‘sensitif’ oherwydd ei fod yn cynnwys data am yr argae a data gweithredol a phersonol.

Os oes gennych gronfa ddŵr uchel ei risg, golyga y gallai bywyd fod mewn perygl os bydd eich argae’n methu. Rhaid i chi sicrhau fod gan bawb sy'n gweithredu'r gronfa ddŵr fynediad at eich cynllun llifogydd a’u bod yn gyfarwydd ag ef. Ystyriwch hefyd ddigwyddiadau ymgyfarwyddo a hyfforddi ar gyfer contractwyr sy'n dod i'r safle.

Ystyriaethau ar gyfer cronfeydd dŵr perygl uwch, neu strwythurau rheoli cymhleth

Mae'r canllawiau uchod yn berthnasol i bob cronfa ddŵr. Mae'r canllawiau ychwanegol hyn yn berthnasol os ydych yn berchen ar, yn rheoli neu’n gweithredu cronfa ddŵr:

  • sy’n peri perygl llifogydd uchel
  • sydd ag adeileddau mwy cymhleth
  • lle mae gan eich sefydliad lefelau gwahanol o rolau gweithredu neu reoli

Gallai perchnogion cronfeydd dŵr bach neu syml ystyried hyn hefyd, ond rydym yn argymell bod pob perchennog yn parhau i ganolbwyntio ar gadw'r cynllun llifogydd yn gymesur â'r perygl posibl.

Ystyriwch gael cyngor gan gynllunydd argyfwng i'ch helpu i strwythuro eich cynllun llifogydd a'i gynnwys. Os yw eich sefydliad hefyd yn ymatebwr brys, ystyriwch sut mae cynllun llifogydd eich cronfa ddŵr yn rhyngweithio â’ch cyfrifoldebau eraill.

Trefniadau diogelwch

Meddyliwch am y canlynol;

  • larymau neu systemau canfod tresmaswyr eraill
  • y safonau diogelwch sydd ar waith – er enghraifft, cydymffurfedd â Safon Bwrdd Ardystio Atal Colled LPS1175
  • llwybrau i gerddwyr yn unig
  • safleoedd glanio hofrenyddion posibl a goblygiadau diogelwch hyn
  • storio offer
  • dalwyr allweddi, coffrau allweddi, a chodau mynediad
  • cyfrinachedd masnachol

Strwythurau rheoli digwyddiadau a chyfathrebu

Sicrhewch eich bod yn ei gwneud yn glir pwy sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros reoli'r digwyddiad, gan gynnwys iechyd, diogelwch a lles pobl.

Ystyriwch enwi gwahanol gamau digwyddiad i egluro pa mor frys y dylai'r ymateb fod, e.e.

Cam 1: Rhybudd a gweithredu

Digwyddiad neu broblem yn cael ei chadarnhau y mae angen ymchwilio iddi. Yr angen i gymryd camau rhagofalus. Yn cynnwys mân ddirywiad ac atgyweiriadau.

Cam 2: Rhybudd neu larwm (methiant posibl)  

Posibilrwydd o fethiant argae neu ddirywiad mawr. Angen argyfyngus i dynnu i lawr a gwneud atgyweiriadau brys a lliniaru llifogydd. Angen ymwybyddiaeth a chymorth allanol.

Cam 3: Methiant ar fin digwydd / yn rhagweladwy, neu fethiant gwirioneddol

Dylai'r camau gweithredu yma gael eu gwneud yn ychwanegol i'r camau blaenorol a dylent gynnwys symud pobl allan o berygl a rheoli neu liniaru effeithiau llifogydd.

Cam 4: Camu i lawr

Adolygu a dychwelyd i weithrediadau arferol. Adrodd ar ôl digwyddiad.

Dylech bennu lefel eich ymateb eich hun i gyd-fynd â gweithdrefnau brys eraill eich sefydliad. Disgrifiwch sut y caiff lefelau digwyddiadau eu nodi a'u cryfhau gan eich sefydliad, a chan bwy. Gall dyletswyddau penodol gynnwys gweithgareddau megis:

  • cymeradwyo'r cam gweithredu i ddechrau tynnu i lawr mewn argyfwng neu dalu am wasanaethau pwmpio
  • cyfathrebu â’r gwasanaethau brys, ar y cyd â’u cynllun oddi ar y safle
  • cyfathrebu rhwng peirianwyr, eich tîm, contractwyr, a chynghorwyr eraill
  • cyfathrebu â chymunedau lleol a’r cyfryngau

Ystyriwch sgil-effeithiau digwyddiad a sut y dylid eu rheoli – er enghraifft, colli cyflenwad dŵr neu gynhyrchiant trydan.

Dylech ystyried sut i reoli diddordeb y cyhoedd neu'r cyfryngau a dyrannu unigolyn i ddelio ag ymholiadau ac osgoi ymyrraeth sy'n tynnu sylw. Dylech baratoi datganiadau sylfaenol neu ymatebion dros dro i ymholiadau. Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw eich cronfa ddŵr yn denu llawer o ddiddordeb yn gyffredinol – er enghraifft, fel lleoliad pysgota poblogaidd.

Gallai eich cynllun cyfathrebu hefyd nodi sut y bydd cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio neu sut y byddwch yn ymateb i gwestiynau, sylwadau, gwybodaeth anghywir a sïon.

Cyfleusterau lles

Disgrifiwch a marciwch ar eich cynllun safle y cyfleusterau a allai helpu ymatebwyr brys:

  • mannau gorffwys, toiledau, a chyfleusterau i wneud diodydd poeth a bwyta
  • ystafelloedd cyfarfod neu ofod swyddfa
  • ardaloedd storio a sychu offer
  • gwaredu gwastraff
  • cyfleusterau gwefru ffonau ac offer
  • yr ysbyty neu gyfleusterau damweiniau ac achosion brys agosaf
  • gorsafoedd petrol neu gyfleusterau ail-lenwi â thanwydd eraill

Peirianwyr sifil cymwysedig

Mae angen sicrhau bod nifer o beirianwyr sifil cymwys ar gael i gynghori yn achos digwyddiadau hirhoedlog. Ystyriwch ddigwyddiadau ymgyfarwyddo i'w gwneud yn fwy ymwybodol o'r gronfa ddŵr. Gallwch gynnwys peirianwyr fel rhan o'ch amserlen i brofi cynllun llifogydd.

Cysylltiadau allweddol

Os bydd llawer o bobl yn cael eu crybwyll yn y cynllun llifogydd, efallai y bydd yn haws ei gadw’n gyfredol os defnyddiwch deitlau rôl, e.e. “technegydd cronfa ddŵr”, a darparwch daflen gyswllt wedi’i hatodi neu ddolen iddi yn cynnwys teitl pob rôl ynghyd â’r enwau a rhifau ffôn cyfredol.

Cronfeydd dŵr cyfagos

Rydym yn eich cynghori i drafod eich ymagwedd at argyfyngau gyda pherchnogion cronfeydd dŵr cyfagos i rannu gwybodaeth, deall risgiau llifogydd cyfunol, a chytuno pa gymorth y gellir ei ddarparu ar y cyd.

Darllenwch ein canllawiau ar sut i wneud y canlynol adolygu, profi a diwygio eich cynllun llifogydd cronfa ddŵr

 

 

 

Diweddarwyd ddiwethaf