Gwlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer bioamrywiaeth a chreu cynefinoedd

Gallai gwlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer bioamrywiaeth a chreu cynefinoedd fod yn byllau, gwalau, corsydd neu wernydd.

Gan eu bod wedi’u cynllunio i greu ecosystem gwlyptir ni fydd angen Trwydded Amgylcheddol arnynt.

Rhaid i wlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer bioamrywiaeth a chreu cynefinoedd beidio â derbyn dŵr gwastraff gan gynnwys dŵr gwastraff domestig neu gymysgedd o ddŵr gwastraff domestig â dŵr gwastraff diwydiannol a/neu ddŵr glaw ffo.

Byddai angen gwlyptir a adeiladwyd ar gyfer gwella ansawdd dŵr ar gyfer dŵr gwastraff.

Ni fyddai gwlyptir a adeiladwyd yn cael ei annog ar safle sy’n darparu cynefin gwarchodedig neu werthfawr sy’n bodoli eisoes. Gall y budd i fywyd gwyllt gynyddu pan gânt eu lleoli ger safleoedd gwlyptir eraill er mwyn cynyddu cysylltedd cynefinoedd.

Darllenwch rhagor am ddefnyddio gwlyptiroedd ar gyfer bioamrywiaeth a chynefinoedd ar wefan Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw.

Lawrlwythwch rhagor o wybodaeth am ddefnyddio gwlyptiroedd ar gyfer bioamrywiaeth a chynefinoedd ar wefan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir

 

Diweddarwyd ddiwethaf