Gwaith datblygu o fewn safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n dynodi Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig er mwyn gwarchod nodweddion arbennig y safle. Dylai pob corff cyhoeddus gymryd camau rhesymol i warchod a gwella ymhellach y nodweddion sydd o ddiddordeb arbennig mewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig wrth arfer ei swyddogaethau. Mae hyn yn berthnasol i awdurdodau cynllunio pan fyddant yn paratoi cynlluniau datblygu, a phan fyddant yn gwneud penderfyniad ynghylch ceisiadau cynllunio.

Os ydych yn berchen neu'n rheoli tir mewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, rhaid i chi roi gwybod i ni am weithredoedd a allant wneud niwed posibl i'r diddordeb arbennig.

Gweler y canllawiau i berchnogion tir neu feddianwyr Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig: cyfrifoldebau cyrff cyhoeddus ac ymgymerwyr statudol

Diweddarwyd ddiwethaf