Asesiadau o brosesau ffisegol morol ac arfordirol

Efallai y bydd angen i chi gynnal asesiadau prosesau ffisegol os ydych yn ymgymryd â phrosiect morol.

Mae’r canllawiau sy’n berthnasol i chi yn dibynnu ar faint eich prosiect.

Prosiectau ar raddfa fawr

Ar gyfer prosiectau mwy sydd angen Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (AEA), mae ein canllawiau yn helpu i lywio dyluniad eich strategaethau arolygu a monitro, a’r defnydd o fodelu rhifiadol.

Mae enghreifftiau o brosiectau datblygu morol mawr yn cynnwys:

  • Datblygiadau porthladdoedd
  • Echdynnu agregau
  • Gorsafoedd pŵer (gan gynnwys niwclear)
  • Gwynt ar y môr
  • Datblygiadau ynni adnewyddadwy eraill megis amrediad llanw neu ffrydiau llanwol
  • Ceblau o dan y môr (yn arbennig lle maen nhw’n cyrraedd y tir)

Darllenwch ein canllawiau ar brosesau ffisegol morol a'r Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (PDF, Saesneg yn unig)

Prosiectau ar raddfa fach

Os yw eich prosiect yn llai, efallai na fydd angen arolwg manwl a modelu.

Mae enghreifftiau o brosiectau neu weithgareddau a allai ddefnyddio’r canllaw hwn yn cynnwys:

  • Gwaith ar raddfa fach i seilwaith arfordirol
  • Ail-broffilio traethau ac ailgylchu gwaddodion
  • Clirio sianeli draenio ac arllwysfeydd
  • Cynaeafu gwymon
  • Clirio ordnans heb ffrwydro
  • Gwaith archwilio tir

Darllenwch ein canllawiau ar gwblhau asesiad prosesau arfordirol neu ffisegol ar gyfer prosiectau ar raddfa fach (PDF, Saesneg yn unig)

Diweddarwyd ddiwethaf