Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Cefndir byr

Dros yr wythnosau diwethaf cafwyd nifer anarferol o uchel o adroddiadau o eogiaid cefngrwm (Oncorhynchus gorbuscha) sydd wedi eu dal mewn pysgodfeydd gwialen a rhwyd yn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon a hefyd ar draws Sgandinafia. Nid ydym wedi derbyn unrhyw adroddiadau yng Nghymru.

Pink salmon in Ocean phaseMature adult pink salmon in freshwater phase

Hyd yn hyn, mae rhyw 200 o eogiaid cefngrwm wedi'u dal ym mhysgodfa rhwyd eogiaid Arfordir Gogledd Ddwyrain Lloegr gyda nifer gynyddol o adroddiadau gan bysgotwyr gwialen a lein o fewn dŵr croyw, yn enwedig yn yr Alban ac Iwerddon. Mae’n bosib y gallai'r pysgod hyn fod yn bresennol yn ein hafonydd yng Nghymru yn dilyn adroddiad diweddar o ddal eog cefngrwm yn Swydd Cork, Iwerddon ac yn Afon Avon yn Hampshire..

Eogiaid cefngrwm yw'r lleiaf a'r mwyaf cyffredin o bum rhywogaeth eogiaid y Môr Tawel ac maent yn rhywogaeth eog anfrodorol o fewn Ardal Gogledd Iwerydd.

O ble mae Eogiaid Cefngrwm wedi dod?

Mae eog cefngrwm yn hanu o ardaloedd gogleddol y Cefnfor Tawel. Mae niferoedd sylweddol o eogiaid cefngrwm wedi'u stocio yn rhanbarth y Môr Gwyn yng ngogledd Rwsia a Phenrhyn Kola o'r 1950au hyd at 2003 i ddatblygu pysgodfa rhwyd fasnachol. Mae'r rhywogaeth bellach wedi sefydlu poblogaethau hunangynhaliol mewn nifer o afonydd yn Rwsia, y Ffindir a gogledd Norwy. Credwn mai dyma darddiad mwyaf tebygol yr eogiaid cefngrwm a ddaliwyd yn ddiweddar yn y DU ac Iwerddon.

Yn wahanol i eogiaid yr Iwerydd, mae gan yr eogiaid cefngrwm gylch oes dwy flynedd ac yn gyffredinol yn silio yn ystod misoedd hwyr yr haf ddiwedd mis Awst a dechrau mis Medi. Adroddir bod silio’n digwydd ym mhen isaf systemau afonydd gyda'r wyau wedi eu dodwy mewn graean afon. Mae'r wyau yn deor yn hwyr yn y gwanwyn ac mae'r rhai ifanc yn ymfudo'n gyflym i’r môr heb fwydo mewn dŵr croyw Felly, maent yn annhebygol o gystadlu'n uniongyrchol ag eogiaid gwyllt yr Iwerydd a’r brithyll mewn dŵr croyw.

Mae’r holl eogiaid cefngrwm aeddfed yn marw ar ôl silio. Oherwydd eu cylch bywyd 2 flynedd, bydd y rhai ifanc yn deillio o flynyddoedd 'odrif' neu ‘eilrif’, gyda'r pysgod Rwsiaidd / Norwyaidd yn stociau blwyddyn odrif. Felly mae'n bosibl, ac yn debygol, y bydd y pysgod hyn yn ymddangos mewn niferoedd eto yn 2019 er bod yna rai stociau blwyddyn eilrif hefyd.

Materion allweddol a risgiau

Er nad ydym yn credu bod eogiaid cefngrwm yn fygythiad uniongyrchol i'n heogiaid gwyllt yr Iwerydd o ran cystadleuaeth ar gyfer safleoedd silio a recriwtio ifanc, mae perygl y bydd y rhywogaeth hon yn cyflwyno parasitiaid neu afiechydon newydd i eogiaid gwyllt brodorol.

Mae eogiaid cefngrwm wedi'u gwarchod dan A41 o Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw (1975). Mae hyn yn golygu bod angen trwydded pysgota gwialen a rhwyd i bysgota’r rhywogaeth hon ac mae angen llenwi ffurflenni i adrodd am ddaliadau.

Mae'r is-ddeddfau Eogiaid cenedlaethol sy'n gwarchod eogiaid yr Iwerydd hefyd yn cwmpasu eogiaid cefngrwm. Felly mae gofyniad cyfredol i ddychwelyd adroddiadau ar bob rhywogaeth eogiaid cyn 16 Mehefin mewn pysgodfeydd gwialen.

Mae'r is-ddeddfau a gyflwynwyd yn 2009 sy’n ymwneud â thagio cyrff eogiaid a gwahardd dal eogiaid â gwialen yn berthnasol yn benodol i eogiaid yr Iwerydd a sewin. Felly, ar hyn o bryd, ni allwn orfodi'r angen i eogiaid cefngrwm sydd wedi eu dal gael eu tagio neu eu cofnodi yn llyfr cofnodi rhwydwyr.

Rydym wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am y mater hwn a byddant yn gweithio gyda ni dros yr ychydig fisoedd nesaf i sicrhau bod ein sefyllfa reoleiddio mewn perthynas ag eogiaid cefngrwm wedi'i diogelu.

Beth ydym yn ei wneud yn awr?

Cydnabyddir y dylem nawr ehangu'r alwad am adroddiadau am Eogiaid Cefngrwm i bob pysgodfa gwialen a rhwyd. Efallai y bydd cwrs eogiaid yn ddiweddarach ar rai afonydd yng Nghymru, ac mae'n bosib y bydd eogiaid cefngrwm yn gysylltiedig â heigiau eogiaid gwyllt yr Iwerydd a gallant eu dilyn tuag at aberoedd ac afonydd ymhellach i'r de.

Rydym wedi atodi nodyn ymgynghorol Asiantaeth yr Amgylchedd a byddwn yn ddiolchgar am eich cymorth wrth ddosbarthu hwn i unrhyw un arall sydd â diddordeb uniongyrchol mewn pysgodfeydd eogiaid ymfudol.

Rydym yn gofyn i adroddiadau am ddal neu arsylwi pysgod gael eu hanfon yn syth i'n Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9 am-5pm) sy'n cydlynu adroddiadau gan bysgotwyr gwialen a rhwydwyr.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.