Rhowch wybod i ni cyn cael gwared ar ddip defaid gwastraff ar dir

Rhoi gwybod i ni

Defnyddiwch y ffurflen isod i roi gwybod i ni eich bod yn bwriadu cael gwared ar ddip defaid gwastraff ar dir.

Mae angen i chi nodi’r canlynol:

  • Rhif eich trwydded
  • Eich enw a'ch cyfeiriad
  • Lleoliad y cae lle byddwch yn cael gwared ar ddip defaid gwastraff
  • Y dyddiad rydych yn bwriadu cael gwared ar ddip defaid gwastraff ar y tir

Gallwch hefyd ein ffonio ar 0300 065 3000 i ddweud wrthym pryd y byddwch yn cael gwared ar ddip defaid gwastraff ar dir.

Beth fydd yn digwydd os nad ydych yn ein hysbysu?

Os ydych wedi derbyn trwydded amgylcheddol newydd neu wedi'i diweddaru ers 1 Ebrill 2023, mae'n ofynnol i chi ein hysbysu o leiaf 48 awr cyn eich bod yn bwriadu cael gwared ar ddip defaid gwastraff ar dir. Mae'n amod ar eich trwydded a gall torri'r amodau hynny arwain at gamau pellach.

Os rhoddwyd eich trwydded cyn 1 Ebrill 2023, gofynnwn i chi ein hysbysu'n wirfoddol cyn gwaredu’r dip defaid.

Dros amser byddwn yn cyflwyno'r amod trwydded newydd hwn i bob trwydded bresennol sy'n golygu y bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i bob deiliad trwydded amgylcheddol yng Nghymru roi gwybod i ni cyn cael gwared ar eu dip defaid gwastraff ar dir.

Diweddarwyd ddiwethaf