Newid (amrywio) eich trwydded i waredu gwastraff dip defaid i’r tir

Os nad oes trwydded gennych eisoes i waredu gwastraff dip defaid i’r tir a’ch bod am wneud cais am un, ewch i’n tudalen ‘sut i waredu gwastraff dip defaid yn ddiogel’ ble cewch chi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Darganfyddwch sut i drosglwyddo’ch trwydded i rywun arall

Darganfyddwch sut i ildio’ch trwydded

Mathau o newid (amrywiad) y gallwch eu gwneud i’ch trwydded

Mae’n rhaid i unrhyw newidiadau a wnewch gwrdd â’r gofynion a nodir ar ein tudalen ‘sut i waredu gwastraff dip defaid yn ddiogel’

Mae yna 4 gwahanol fath o newid y gallwch eu gwneud i’ch trwydded: Gweinyddol, Mân, Arferol a Sylweddol. Caiff pob un ei ddisgrifio isod. Os ydych yn ansicr pa fath o newid yr ydych yn cynllunio i’w wneud, argymhellwn eich bod yn defnyddio’n gwasanaeth cynghori cyn-ymgeisio ar gyfer Trwyddedau Amgylcheddol.

Amrywiad gweinyddol

Ar gyfer cywiriadau neu newidiadau bach i’r drwydded, megis:

  • enw neu gyfeiriad ond lle nad yw’r endid cyfreithiol wedi newid
  • Cyfeirnod Grid Cenedlaethol i wella cywirdeb
  • gwallau teipograffyddol
  • dyddiad cychwyn trwydded

Mân amrywiad

Ar gyfer newidiadau sydd angen rhyw fewnbwn technegol gennym, gan gynnwys ceisiadau i:

  • Lleihau’r cyfeintiau gaiff eu gwaredu i’r tir
  • Lleihau amlder gwaredu
  • Lleihau’r nifer o ardaloedd gwaredu

Tra nad yw’r newidiadau’n golygu bod angen am asesiad newydd o’r risg o’r gweithgaredd gwaredu. Bydd hyn fel arfer oherwydd nad oes dim wedi newid ar y safle nag yn yr ardaloedd o amgylch ers i’r drwydded amgylcheddol wreiddiol gael ei dyroddi.

Amrywiad arferol

Ar gyfer newidiadau sy’n gofyn am fewnbwn technegol gan CNC sy’n debyg i gais newydd

  • Lleihau’r cyfeintiau gaiff eu gwaredu i’r tir
  • Lleihau amlder gwaredu
  • Lleihau’r nifer o ardaloedd gwaredu

Lle bydd angen asesiad newydd o’r risg o’r gweithgaredd gwaredu. Bydd hyn fel arfer oherwydd bod rhywbeth wedi newid ar y safle, neu yn yr ardaloedd o amgylch, neu bod ein polisïau wedi newid ers i’r drwydded amgylcheddol wreiddiol gael ei dyroddi.

Amrywiad sylweddol

Lle mae gofyn am asesiad arwyddocaol, byddai hyn yn cynnwys:

  • Ceisiadau i gynyddu cyfeintiau gwaredu
  • Ceisiadau i gynyddu amlder gwaredu
  • Newidiadau i’r lleoliad gwaredu ar y drwydded

Gan fod dip defaid yn sylwedd peryglus i ddŵr daear byddai’r rhain yn gofyn am gwblhau asesiad newydd gan CNC o’r risg o’r gwaredu.

Sut i wneud cais i newid eich Trwydded Amgylcheddol i waredu gwastraff dip defaid i’r tir

I newid Trwydded Amgylcheddol i ollwng dip defaid wedi’i ddefnyddio, bydd angen i chi gwblhau ein ffurflen gais ar-lein C7

 

Os bydd angen cyngor arnoch cyn gwneud cais am drwydded defnyddiwch ein gwasanaeth cynghori cyn-ymgeisio  

Ffioedd a thaliadau

Bydd angen i chi dalu ffi i newid eich trwydded amgylcheddol.

Amrywiad amgylcheddol: £363

Mân amrywiad: £701

Amrywiad arferol: £1994

Amrywiad sylweddol: £3102

Ffi Asesiadau Cynefinoedd

Os byddwch yn gwaredu dip defaid yn agos i safle cynefin Ewropeaidd cydnabyddedig bydd angen i ni gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) fel rhan o asesu eich cais am drwydded. Bydd hyn yn gofyn am dalu ffi ychwanegol o £1760.

Am ragor o wybodaeth ar pryd y gall fod gofyn am yr asesiadau hyn ewch i’n tudalen we ‘Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer eich Trwydded Amgylcheddol’

Ceisiadau â manylder annigonol i fynd ymlaen

Os byddwn yn dychwelyd eich cais oherwydd manylder annigonol ac felly methu mynd ymlaen tu hwnt i’r cam gwneud yn briodol, byddwn yn cadw 10% o’r ffi ymgeisio. Byddwn ond yn dychwelyd cais ar ôl rhoi cyfle yn gyntaf i chi ddarparu gwybodaeth sydd ar goll.

Os byddwch yn penderfynu tynnu eich cais am drwydded yn ôl

Os byddwch yn tynnu’ch cais am drwydded yn ôl ar ôl i ni ei wneud yn briodol byddwn yn cadw 100% o’r ffi ymgeisio. Os byddwch yn penderfynu tynnu’n ôl cyn i ni symud ymlaen o’r cam gwneud yn briodol, byddwn yn cadw 10% o’r ffi ymgeisio.  

Ffi flynyddol

Gall newid eich trwydded hefyd olygu newid i’ch tâl blynyddol. Dyma’r tâl am ein costau am gynnal ac adolygu eich trwydded, gan sicrhau eich bod yn cydymffurfio ag amodau’r drwydded.  

Darllenwch ragor am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl am drwyddedu amgylcheddol.

Diweddarwyd ddiwethaf