Cynnwys cyhoeddi: rôl yr arbenigwr pwnc

Mae hyn yn rhan o'r llawlyfr cynnwys a chyhoeddi

Gwiriwch yr hyn y mae angen i arbenigwyr pwnc ei wneud yn y broses o gynllunio a chreu cynnwys. 

Cwblhau’r ffurflen gais am gynnwys

Dewch o hyd iddi ar hafan y fewnrwyd, neu drwy chwilio'r fewnrwyd am ‘cais cynnwys’.

Anfonwch hi cyn i chi ddechrau ysgrifennu cynnwys.

Paratoi ar gyfer cyfarfod eglurhaol

Mae cyfarfod eglurhaol yn digwydd pan fydd angen mewnbwn gan ddylunydd cynnwys ar y cynnwys. Bydd y tîm digidol yn rhoi gwybod i chi os yw hyn yn wir.

Ar gyfer y cyfarfod, casglwch wybodaeth am y canlynol:

  • pwy yw'r defnyddwyr, beth yw'r angen a sut y caiff ei ddiwallu
  • prosesau neu lifoedd gwaith cysylltiedig
  • unrhyw newidiadau hysbys yn y dyfodol
  • prosesau neu gynlluniau, er enghraifft, sy'n cyd-fynd â'r un y gweithir arno, neu sy'n effeithio ar y cynnwys newydd

Cytuno sut bydd y gwaith yn cael ei reoli

Yn y cyfarfod eglurhaol, cytunwch ar y canlynol:

  • sut y byddwch yn cydweithio, er enghraifft:
    • arbenigwr pwnc i ddarparu deunydd ffynhonnell a’r dylunydd cynnwys yn ysgrifennu cynnwys
    • arbenigwr pwnc a'r dylunydd cynnwys yn creu cynnwys gyda'i gilydd
    • arbenigwr pwnc yn ysgrifennu drafft ac yn ei anfon at y dylunydd cynnwys i'w ddiwygio ar gyfer platfform digidol
  • beth yw'r llinellau amser
  • y bobl sy'n cymryd rhan, yn enwedig ar gyfer adolygu a chymeradwyo
  • pa mor aml y byddwch yn cyfarfod i adolygu i drafod y cynnwys

Adolygu’r cynnwys am gywirdeb ffeithiol

Mae arbenigwyr pwnc yn cywiro gwallau ffeithiol. Nid yw arbenigwyr pwnc yn ailysgrifennu'r cynnwys nac yn newid yr arddull na'r naws.

Ychwanegwch sylwadau at gynnwys drafft y mae dylunwyr cynnwys yn ei rannu gyda chi.

Pan gytunir bod y cynnwys yn gywir ac yn gyflawn, bydd dylunwyr cynnwys yn gwneud y canlynol:

  • adolygu o fewn eu tîm (a elwir weithiau yn wiriad ail bâr o lygaid)
  • prawfddarllen
  • anfon i'w gymeradwyo
  • anfon am gyfieithiad (os nad yw wedi ei greu yn ddwyieithog)
  • cyhoeddi 
Diweddarwyd ddiwethaf