Yn y blog hwn, mae Heledd Evans o dîm Gwasanaethau Digidol CNC yn rhannu ei myfyrdod personol ar esblygiad dylunio dwyieithog mewn gwasanaethau cyhoeddus. 

Cyhoeddir hwn fel pennod mewn llyfr newydd, Ysgrifennu triawd: dull newydd o ddylunio gwasanaethau digidol dwyieithog, a gyhoeddir gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

Dyfal donc a dyr y garreg…

Fy swydd gyntaf ar ôl bod yn y brifysgol oedd cyfieithu gwefan Asiantaeth yr Amgylchedd i'r Gymraeg.

Nid oeddwn yn gyfieithydd cymwys na phrofiadol. Doedd gen i ddim gradd yn y Gymraeg, nac unrhyw iaith arall, a doedd gen i ddim hyd yn oed lefel A Cymraeg. Am wn i na fyddai hyn yn digwydd heddiw.

Mae llawer wedi newid ers hynny – mae safonau a phrosesau – ac mae’r amodau i bobl greu gwasanaethau dwyieithog da yn sector cyhoeddus Cymru yn fwy ffafriol nag erioed.

Ar ôl gweithio i sefydliadau yn sector cyhoeddus yng Nghymru am fwy na 17 mlynedd, dyma fy stori am sut mae cyhoeddi gwefannau dwyieithog a dylunio cynnwys wedi esblygu.

Sicrhau bod mwy o gynnwys Cymraeg ar gael

Roedd hi'n 2006. Roeddwn i wedi symud i Gaerdydd ac roeddwn i'n chwilio am fy ‘swydd go iawn’ gyntaf. Roedd asiantaeth recriwtio yn chwilio am rywun a allai ysgrifennu yn Gymraeg gyda rhywfaint o brofiad mewn dylunio gwe. Roedd y swydd gydag asiantaeth amgylcheddol yn swnio'n ddiddorol. Fe wnes i roi cynnig arni.

Dechreuodd dau ohonom ar gontract 6 wythnos ym mis Chwefror 2006 – cawsom ein penodi gan fod ganddon ni brofiad o'r we a'r gallu i siarad ac ysgrifennu mewn 'Cymraeg bob dydd'.

Ein tasg oedd gweithio un dudalen ar y tro a'i hailysgrifennu yn Gymraeg. Ar ôl i ni orffen tudalen, bydden ni yn ei hargraffu a'i throsglwyddo i gydweithiwr yn y tîm Cyfathrebu a fyddai'n nodi unrhyw wallau gramadegol a sillafu. Fe wnaethon ni wedyn gywiro a chyhoeddi'r cynnwys Cymraeg. Wrth i'r wythnosau fynd heibio, roedd ganddon ni lawer mwy o Gymraeg ar y wefan.

Dadlau o blaid y Gymraeg

Roedd cyffro bod y wefan yn mynd i gael ei chyfieithu. Dim ond y dudalen hafan a rhai o'r prif dudalennau glanio oedd yn Gymraeg pan gyrhaeddon ni. 

Ni fyddai’r amodau iawn i ni fod yno yn gwneud y gwaith hwn wedi digwydd dros nos. Roedd perthnasau wedi'u hadeiladu. Postiwyd cacennau cri i gydweithwyr ym Mryste a Llundain ar Ddydd Gŵyl Dewi fel rhan o ymgais hirsefydlog i godi ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o’r Gymraeg.

Treiliwyd llawer o amser ac ymdrech yn dadlau a oedd angen cyfieithu rhywbeth ai peidio. Mae ffrind da a chydweithiwr yn cofio, ar ôl dadl arall eto fyth am yr angen i gyfieithu rhywbeth, bod rhywun wedi ymateb trwy ddweud "Bydd rhaid i ni ei wneud yn Gernyweg nesaf". Roedd yr agwedd hon yn gyffredin ar y pryd. 

Bryd hynny, roedd y safonau a’r disgwyliadau ar gyfer darpariaeth Gymraeg mewn gwasanaethau cyhoeddus yn is nac y maen nhw heddiw. Roedd gan y rhan fwyaf o sefydliadau'r sector cyhoeddus gynlluniau iaith Gymraeg, a oedd yn nodi'r hyn yr oedd yn rhaid iddyn nhw ei gyfieithu, ond nid oedd gan y rhain yr un grym ac eglurder â'r hyn a ddilynodd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach pan oedd yn rhaid i sefydliadau gydymffurfio â'r gyfraith yn dilyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Cymraeg ‘go iawn’

Ein profiad gyda chyfieithwyr y cyfnod hwn oedd eu bod nhw’n ysgrifennu'n wahanol iawn i sut y bydden ni yn siarad Cymraeg bob dydd.

Roedd 'Cymraeg ffurfiol' – neu 'Cymraeg eisteddfod' fel y byddai rhai yn cyfeirio ato – yn dechnegol ac yn ramadegol gywir ond byddai angen gradd i'w deall.

Eto, roedden ni'n derbyn mai dyna waith cyfieithwyr – sef ysgrifennu pethau mewn Cymraeg 'swyddogol'. Rhan o'r swydd i lawer o staff sy'n siarad Cymraeg, yn enwedig mewn timau cyfathrebu, fyddai ail-ysgrifennu neu olygu cyfieithiadau yn ôl i 'Gymraeg bob dydd’.

Codi rhwystrau – nid agor y ffordd

Yn fy marn i, roedd 'Cymraeg ffurfiol’ yn rhwystro pobl rhag cysylltu â ni yn eu hiaith gyntaf. Pan ofynnais i un o fy ffrindiau da, sy'n siarad Cymraeg yn rhugl, a wnaeth gwblhau’r Cyfrifiad yn Gymraeg yn 2021, dywedodd "o na, dwi ddim yn gwneud stwff swyddogol yn Gymraeg, fydda i ddim yn ei ddeall".

Ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu a chael deddfau i sicrhau bod yn rhaid i bethau fod ar gael yn ddwyieithog – byddai’n rhwystredig clywed pobl yn dweud y bydden nhw'n troi at y Saesneg.

Dwi’n credu fod pethau wedi gwella dros amser, ond mae pobl yn cofio’u profiadau o ddefnyddio gwasanaethau a chynnwys y sector cyhoeddus yn y gorffennol.

Dyma gyd-destun pwysig i unrhyw un sy'n ffurfio barn neu'n gwneud penderfyniadau ar sail defnydd isel o gynnwys Cymraeg dros y blynyddoedd.

Ysgrifennu Cymraeg a Saesneg clir

I fod yn deg gyda’r cyfieithwyr, byddai’r cynnwys gwreiddiol y bydden nhw’n yn ei gyfieithu yn aml yn aneglur ac yn llawn jargon. Hyd nes y byddwn yn mabwysiadu Saesneg plaen a chanolbwyntio ar y defnyddiwr yn sefydliadau'r sector cyhoeddus, anodd fydd gwreiddio’r hyn sy’n cyfateb i’r Gymraeg, ‘Cymraeg clir’.

David Cameron (nid y cyn-Brif Weinidog) a gyflwynodd Saesneg plaen i mi. Roedd yn arbenigwr cyfathrebu oedd yn arbenigo’n y gair ysgrifenedig ac roedd yn rhan o grŵp a fu’n flaenllaw wrth ymgyrchu dros 'ysgrifennu'n glir ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd'.

Mae'n siŵr gen i fy mod wedi dysgu mwy am yr iaith Saesneg, ei gramadeg, a phwysigrwydd ysgrifennu'n glir gydag ef na wnes i erioed yn yr ysgol. Rhoddodd yr hyder a'r gallu i bobl fel fi frwydro yn erbyn rwdl-mi-ri y sector cyhoeddus corfforaethol.

Crëwyd canllawiau a hyfforddiant Cymraeg hefyd mewn partneriaeth â Chanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor. Ar y cwrs hyfforddi hwnnw, clywais sut roedd Cymraeg modern wedi esblygu a dysgais fod y 'Cymraeg ffurfiol' a fy Nghymraeg i yn gywir, er eu bod yn wahanol.

Pe bawn i wedi astudio'r Gymraeg ar gyfer lefel A neu lefel gradd, mae'n ddigon posib fe fyddwn i wedi dysgu hyn, wrth gwrs. Ond, fel siaradwr Cymraeg 'cyffredin', oedd wedi arfer gweld Cymraeg ysgrifenedig mewn cyd-destunau ffurfiol, roedd yn gyffrous i mi weld rhywbeth gwahanol, ac roeddwn i'n teimlo bod llawer o gefnogaeth ac ewyllys da i 'Gymraeg Clir'.

Sefydliad a safonau newydd

Yn 2013, crëwyd corff hyd braich newydd – Cyfoeth Naturiol Cymru.

Roedd hi tua’r un amser ag y daeth safonau newydd y Gymraeg i rym. Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yw’r ddeddfwriaeth wnaeth greu safonau’r Gymraeg. Mae'r safonau yn hybu a hwyluso’r Gymraeg, ac yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru. 

Yn dilyn hyn, roedd ganddon ni Swyddog Safonau’r Gymraeg. Ar unwaith, roeddwn i'n gallu gweld gwerth cael person a fyddai’n gyfrifol am roi cyngor i’r sefydliad i wneud penderfyniadau gwell a chliriach ynglŷn â’r Gymraeg.

Doedd dim angen mwyach i’r bobl a weithiai yn y tîm Cyfathrebu gael eu llusgo i drafod gyda chydweithwyr p’un ai fod angen cyfieithu rhywbeth.

Yn yr ystyr hwn, yn fy mhrofiad i, roedd y safonau yn gweithio, ac yn gweithio'n dda.

Ysgrifennu (a chyfieithu) > Cyhoeddi > Cwblhau

Wrth i gyfieithwyr newydd ymuno, pylodd fy ysfa i olygu a newid cynnwys pob ebost, llythyr a thudalen we a dderbyniwn gan y tîm cyfieithu.

Roedd mwy o gynnwys nag erioed o'r blaen yn cael ei gyfieithu. Peth da mewn egwyddor, ond roedden ni’n canolbwyntio ar gyfieithu cymaint â phosib, ac nid ar y peth pwysicaf... hynny yw, 'pwy sy'n ei ddarllen?', 'ydyn nhw'n ei ddeall?', ac 'oedden nhw'n dewis defnyddio eu Cymraeg?'

Yn y rhan fwyaf o achosion roedden ni’n gwneud yr hyn yr oedd angen i ni ei wneud i gyrraedd y safonau - gan gyhoeddi pethau i safon gyfartal â’r Saesneg. Grêt. Ond yn aml, byddai hyn yn golygu bod ganddon ni gynnwys a gwasanaethau oedd yr un mor anodd eu defnyddio a'u deall yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Newid...

Yn 2018 fe wnaethon ni sefydlu’r rolau dylunio cynnwys i'n tîm am y tro cyntaf. Roedd yn teimlo'n chwyldroadol. Caniataodd i ni ganolbwyntio ar wneud cynnwys yn gliriach a chodi ymwybyddiaeth am ddylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.

Tua'r adeg hon, daeth y tîm Cyfieithu yn rhan o'r tîm Digidol. Roedd hyn yn caniatau i ni weithio gyda’n gilydd i gynnal y momentwm ar gyfer dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.

Dyma fyddai’n gosod y sylfeini gwirioneddol i ni weithio mewn ffordd wahanol, i ganolbwyntio bob amser ar y defnyddiwr a defnyddio’r iaith y bydden nhw yn ei defnyddio.

Pobl oedd yn poeni am ddefnyddwyr ac am gynnwys Cymraeg

Ar ôl blynyddoedd o syllu dros y ffin (gyda chenfigen!) tuag at Wasanaethau Digidol y Llywodraeth (GDS) ac yn dilyn cyflwyno’r safonau digidol yn y DU (Lloegr a'r Alban yn bennaf), Canada ac Awstralia... digwyddodd rhywbeth yng Nghymru a newidiodd bopeth i mi.

Yn 2020, sefydlodd tîm o bobl wych, gyda chefnogaeth gan Weinidogion, rywbeth i Gymru nad oedden ni erioed wedi'i gael o'r blaen. Dyma’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) a'r Safonau Gwasanaeth Digidol cyntaf i Gymru. Roedd ynddynt safon i'r Gymraeg, fel rhan o fod yn 'canolbwyntio ar y defnyddiwr':

"Mae angen i chi ddylunio ac adeiladu gwasanaethau sy'n hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg"

Roedd hyn yn llenwi bwlch yn safonau’r Gymraeg.

Roeddwn i'n gallu gweld sut y gallai cyrff cyhoeddus symud oddi wrth gyfieithu fel rhan anghofiedig o broses yn aml, tuag at ddylunio gwasanaethau dwyieithog da lle roedd cyfieithwyr yn gweithio gyda dylunwyr cynnwys ac eraill o'r dechrau.

Cyfarfodydd cyntaf cymuned ymarfer Adeiladu Gwasanaethau Dwyieithog

Ar ddiwedd 2020 a dechrau 2021, cyfarfu cymuned ymarfer Adeiladu Gwasanaethau Dwyieithog amy troeon cyntaf.

Roedd yn lle i ni glywed straeon ein gilydd - yr heriau a'r llwyddiannau.

Er bod nifer fach ohonom yn dod o'r sector cyhoeddus yng Nghymru, roedd llawer o'r rhai a rannai enghreifftiau yn dod o gyrff Llywodraeth y DU – a hynny mae'n debyg am eu bod wedi bod yn gweithio yn unol â safonau gwasanaeth, ac yn fwy tebygol o fod â rolau dylunwyr cynnwys ac ymchwilwyr defnyddwyr.

Roedd sgwrs gan Élise Cossette, dylunydd cynnwys o Wasanaeth Digidol Canada yn ysbrydoledig – roedden nhw’n dylunio cynnwys yn y ddwy iaith, yn hytrach na dylunio mewn un a chyfieithu i un arall.

Dechrau dylunio'n ddwyieithog

Erbyn 2022, roedd ganddon ni dîm cyfieithu mewnol newydd - roedd hyn yn golygu mwy o gapasiti mewnol a'r gallu i gyfathrebu'n hawdd yn ôl ac ymlaen gyda chyfieithwy. 

Hyd heddiw, mae rhywfaint o waith yn cael ei wneud yn allanol, ond gallwn ni gadw unrhyw beth sy’n gofyn am gydweithio agos yn fewnol. Mae sawl peth yn dal i gael ei gyfieithu ar ddiwedd y broses – ar gyfer rhywfaint o waith gall hyn fod yn anochel – ond ar gyfer rhai prosiectau, mae cyfieithwyr yn cael eu cynnwys o'r dechrau, hyd yn oed gan ddrafftio'n Gymraeg o bryd i'w gilydd mewn proses o'r enw 'ysgrifennu triawd'.

Dyma un enghraifft o sut rydyn ni wedi defnyddio'r ysgrifennu triawd, i ddylunio cynnwys am blannu coed:

  • dylunydd cynnwys – yn ysgrifennu'r cynnwys Saesneg, gydag adborth gan bobl ag arbenigedd pwnc
  • cyfieithydd – yn gyfrifol am ysgrifennu'r Gymraeg
  • ymchwilydd defnyddwyr – yn deall anghenion y defnyddwyr a’u hadborth am ba mor hawdd yw’r Gymraeg i’w darllen

Trwy gydweithio i wneud y testun Cymraeg mor syml â phosib, roedden ni hefyd yn gallu gwneud y Saesneg yn symlach. Os oedd unrhyw un yn ansicr o'r union ystyr yn y naill iaith neu'r llall, fe fethodd y prawf, ac fe gafodd ei ail-ddrafftio. Fe wnaethon ni sicrhau nad oedd rhaid dyfalu yn y naill iaith na'r llall.

Yng Nghynllun Corfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru 2022, roedd ymrwymiad i ganiatáu amser a hyblygrwydd i ddrafftio'r Gymraeg yn fwy creadigol na chyfieithiad plaen yn unig. Gofynnon ni am adborth gan ddarllenwyr Cymraeg, ac os oedd rhywbeth yn gweithio'n arbennig o dda yn y Gymraeg, byddai hynny’n cyfrannu i'r testun Saesneg hefyd. Mae hyn wedi gwella pa mor ddarllenadwy yw’r fersiwn Gymraeg, yn ogystal â gwella darllenadwyedd y Saesneg ar brydiau. Y nod yn y pen draw yw deall mai cryfder yw paratoi cynnwys mewn dwy iaith – cyfle ychwanegol i gydweithio – yn hytrach na thasg lafurus.

Ymlaen

Mae wedi bod yn daith hir i gyrraedd y fan hon. Rydym wedi gorfod creu diwylliant sydd:

  1. yn gyntaf ac yn bennaf yn canolbwyntio ar y defnyddiwr, yn gofalu am ddefnyddwyr ac yn gofalu am gynnwys
  2. dileu’r ddadl ynghylch ‘beth oedd angen ei gyfieithu’
  3. creu diwylliant sy’n cydnabod bod cyfieithwyr yn rhan hanfodol o dîm sy’n dylunio gwasanaethau.

Dyfal donc fu hi ers blynyddoedd. Ond erbyn hyn, mae'n amser mynd â'r maen i'r wal

Heledd, Manon and Osian disscussing trio writing at the Eisteddfod 2023

Darganfyddwch fwy am Wasanaethau Digidol CNC

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru