Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Sut rydyn ni’n darogan llifogydd, yn rhoi rhybudd ac yn asesu’r risg

Mae’n hollbwysig dweud wrth bobl bod llifogydd yn bosibl, neu ar fin digwydd, gan fod hynny’n rhoi amser iddyn nhw baratoi

Rhybuddio a rhoi gwybod i’r cyhoedd

Rydyn ni’n darogan llifogydd ac yn rhybuddio’r cyhoedd.  Rydyn ni hefyd yn codi ymwybyddiaeth o lifogydd ac yn helpu pobl i baratoi ymlaen llaw.  Mae ein staff ni'n barod i ymateb 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos, ac yn barod i rybuddio am, ac i ymateb i, lifogydd.

Monitro a darogan

Rydyn ni'n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i fonitro glawiad, lefelau afonydd, a’r amodau yn y môr.  Drwy gyfuno hynny â’r data tywydd ac adroddiadau llanw oddi wrth y Swyddfa Dywydd, rydyn ni'n gallu rhoi rhagolygon i ardaloedd lleol i ddweud a oes posibilrwydd o lifogydd ac, os felly, pa mor ddifrifol fyddan nhw. 

Cyhoeddi rhybuddion

Mae'r swyddogion sydd ar ddyletswydd i rybuddio am lifogydd yn defnyddio'r rhagolygon hyn, yn ogystal â'u gwybodaeth leol am y perygl o lifogydd, i wneud penderfyniad am gyhoeddi rhybudd i'r bobli dan berygl.  Rydyn ni'n rhoi tri math gwahanol o rybudd:  Llifogydd – Byddwch yn Barod, Rhybudd Llifogydd a Rhybudd Llifogydd Difrifol.  Rydyn ni'n gwneud yn siŵr fod y rhybuddion yn cael eu darlledu ar radio lleol a’r teledu.  Mae modd cael gwybodaeth hefyd drwy ein gwasanaeth gwybodaeth Llinell Llifogydd pwrpasol (0345 988 1188) neu ein gwefan ni, sy’n cael ei diweddaru bob 15 munud.

Rhoi'r amddiffynfeydd, y gorsafoedd pwmpio ac asedau eraill ar waith

Mae ein timoedd gweithredol allan yn yr ardal cyn, yn ystod, ac ar ôl llifogydd i wneud yn siŵr bod ein hamddiffynfeydd, ein gorsafoedd pwmpio, a'n hasedau eraill (er enghraifft sgriniau brigau) yn gweithredu fel maen nhw i fod, er mwyn diogelu cymunedau rhag llifogydd. Mewn rhai llefydd, mae'r staff yn rhoi amddiffynfeydd dros dro ar waith.  Maen nhw'n gallu tynnu'r rheini eto ar ôl y llifogydd.

Rhybuddio a rhoi gwybodaeth i ymatebwyr brys

Drwy weithio gyda’r Swyddfa Dywydd yng Nghaerwysg, mewn Canolfan Darogan Llifogydd ar y cyd, rydyn ni'n llunio asesiad pum niwrnod o'r perygl llifogydd o bob ffynhonnell (afonydd, y môr, dŵr wyneb, a dŵr daear) ar sail sirol. 

Mae'r asesiad yn cael ei rannu bob diwrnod gydag awdurdodau lleol ac ymatebwyr brys, gan eu helpu nhw i weithredu'n gynt ac yn fwy effeithiol pan fydd risg uwch o lifogydd. 

Cyngor arbenigol

Mae'r Ganolfan Darogan Llifogydd yn rhoi cyngor arbenigol i staff Cyfoeth Naturiol Cymru am yr amodau tywydd sydd ar y gorwel hefyd.  Mae hyn yn ein helpu i ddarogan y tebygolrwydd o lifogydd ar lefel leol, ac i wneud penderfyniadau o ran cyhoeddi rhybudd.

Asesu 'perygl llifogydd'

Mae 'perygl llifogydd' yn fwy na'r perygl y bydd llifogydd yn digwydd; mae hefyd yn ystyried y difrod y gall y llifogydd ei achosi.

Pan fyddwn ni'n siarad am 'berygl llifogydd', rydyn ni'n siarad am gyfuniad o ddau beth:

  • Y tebygolrwydd y bydd llifogydd yn digwydd. Mae hyn yn cael ei fesur yn nhermau'r tebygolrwydd blynyddol. Er enghraifft, 'Yn y lleoliad hwn, mae 1 siawns mewn 100 y bydd llifogydd yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn'.
  • Yr effaith, neu'r canlyniadau, os bydd llifogydd yn digwydd.

Cyfrifo'r tebygolrwydd a'r difrifoldeb

Mae angen i ni wybod pa mor debygol yw llifogydd, a hefyd pa mor ddifrifol fydd yr effaith (ac mae hynny'n gallu newid, gan ddibynnu ar ba mor eithafol yw'r llifogydd). Gyda'r wybodaeth hon, gallwn ni ddisgrifio'r peryglon mewn lleoliad penodol.

Modelu a mapio llifogydd

Rydyn ni'n gwneud gwaith modelu fel y gallwn ni lunio mapiau sy'n dangos faint o lifogydd fydd yn digwydd gan ddibynnu ar y tebygolrwydd.  Mae ein gwaith modelu llifogydd yn ystyried y ffactorau canlynol:

  • Ffynhonnell y llifogydd, er enghraifft afon, llanw, neu ddŵr arfordirol
  • Y llwybrau y bydd y dŵr yn eu dilyn mewn llifogydd, a sut y gall difrifoldeb y llifogydd effeithio ar y llwybrau hynny.
  • Yr effaith ar bobl, tir ac eiddo yn sgil y llifogydd
  • Data hanesyddol am lifogydd yn y gorffennol
  • Lefel y dŵr ar hyn o bryd

Mae'r gwaith hwn yn cael ei ddefnyddio wrth ystyried cynlluniau datblygu, gwaith brys, ac adeiladu amddiffynfeydd llifogydd i ddiogelu cymunedau.

Tebygolrwydd llifogydd

Y diffiniad o'r tebygolrwydd yw 'y tebygolrwydd y bydd lleoliad yn dioddef llifogydd mewn un flwyddyn'.

Os bydd tebygolrwydd o 1.3% y bydd lleoliad yn dioddef llifogydd bob blwyddyn, mae modd dweud, mewn geiriau eraill, bod 1 siawns mewn 75 y bydd llifogydd yn digwydd yn y lleoliad hwnnw mewn blwyddyn benodol.

Dehongli'r tebygolrwydd llifogydd

Fodd bynnag, nid yw ffigwr felly'n golygu na fydd y lleoliad yn dioddef llifogydd am 74 o flynyddoedd ar ôl llifogydd un flwyddyn.  Ac nid yw'n golygu chwaith y bydd y lleoliad yn bendant yn dioddef llifogydd eleni os nad yw wedi dioddef ers 74 o flynyddoedd.

Categorïau tebygolrwydd

Pan fyddwn ni'n disgrifio'r tebygolrwydd o lifogydd, rydyn ni'n rhoi'r disgrifiad hwnnw mewn un o dri chategori:

  • Sylweddol: mae'r tebygolrwydd o lifogydd mewn unrhyw flwyddyn yn uwch na 1.3% (1 mewn 75)
  • Canolig: mae'r tebygolrwydd o lifogydd mewn unrhyw flwyddyn yn 1.3% (1 mewn 75) neu'n llai, ond yn uwch na 0.5% (1 mewn 200)
  • Isel: mae'r tebygolrwydd o lifogydd mewn unrhyw flwyddyn yn 0.5% (1 mewn 200) neu'n llai

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.