Ardaloedd sy'n elwa ar amddiffynfeydd rhag llifogydd

Mae'r llinellau'n nodi ardaloedd sy'n elwa ar amddiffynfeydd sy'n diogelu rhag llifogydd o afonydd a'r môr. Mae gan yr amddiffynfeydd hyn lefelau gwahanol o ddiogelwch, a chydnabyddir hyn yn y lefelau gwahanol o risg llifogydd a'r Safon Amddiffyn ar y map. 

Mae Safon Amddiffyn mewn ffigyrau, er enghraifft 75. Mae hwn yn golygu bod y strwythur yn amddiffyn rhag llifogydd â siawns 1 mewn 75 o ddigwydd mewn unrhyw flwyddyn. Mae hwn yn cyfeirio at debygolrwydd o lifogydd o'r raddfa honno ddigwydd, yn ôl modelau llifogydd. Bydd llifogydd 1 mewn 75 yn llai eithaf na llifogydd 1 mewn 200 mlynedd. 

Mae amddiffynfeydd rhag llifogydd yn gostwng y siawns o lifogydd ond dydyn nhw ddim yn cael gwared â'r perygl, gan y gallant orlifo neu fethu.

Ychwanegwn ni amddiffynfeydd rhag llifogydd ac ardaloedd sy'n elwa o amddiffynfeydd rhag llifogydd i'r map, wrth iddyn nhw ddod i law. 

I gael gwybodaeth am amddiffynfeydd rhag llifogydd nad ydyn nhw'n cael eu dangos ar y map eto, cysylltwch â ni.

Diweddarwyd ddiwethaf