Prosiectau amddiffyn rhag llifogydd

Mae llawer o wahanol brosiectau amddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru. Mae gennym brosiectau modelu llifogydd sy'n edrych ar ddata o lawiad, llif afonydd a dŵr llanw i'n helpu ni i ddeall perygl llifogydd. Gellir defnyddio'r wybodaeth hon i helpu i ddylunio, adeiladu a gofalu am amddiffynfeydd sy'n helpu i amddiffyn rhag llifogydd o afonydd neu'r môr.

Mae awdurdodau lleol a thirfeddianwyr preifat hefyd yn gofalu am rai strwythurau amddiffyn rhag llifogydd.

Gweld pob prosiect amddiffyn rhag llifogydd

Enw’r prosiect Awdurdod Lleol Cam Dyddiad Cwblhau Arfaethedig
Atgyweirio yn sgil erydiad yn Cwm Blaenau Gwent Adeiladu 2022-2023
Atgyweirio glannau a cherrig cynnal ym Mhen-y-bont ar Ogwr Pen-y-bont ar Ogwr Adeiladu 2022-2023
Gwaith diogelwch ar gronfa ddŵr Llyn Tegid Gwynedd Adeiladu 2022-2023
Cynllun rheoli perygl llifogydd stryd Stephenson Casnewydd Adeiladu 2024-2025
Gwelliannau i gronfa lifogydd y Bont-faen Bro Morgannwg Adeiladu 2022-2023
Atgyweirio yn sgil erydiad yng Nghaerffili Caerffili Adeiladu 2022-2023
Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanfair Talhaearn Conwy Adeiladu 2022-2023
Prosiect rheoli perygl llifogydd Rhydaman Sir Gaerfyrddin Adeiladu 2024-2025
Gwaith ar orlifan Afon Wydden Conwy Adeiladu 2022-2023
Prosiect cynnal llanw Porthmadog Gwynedd Arfarnu 2026-2027
Cynllun rheoli perygl llifogydd llanwol Dyfi Gwynedd Arfarnu 2023-2024
Asesiad i wella cwlfer afon Rhydeg Sir Benfro Adeiladu 2022-2023
Cynllun rheoli perygl llifogydd Aberteifi Ceredigion Arfarnu 2024-2025
Y Foryd a Dinas Dinlle - cynllun addasu'r arfordir Gwynedd Arfarnu 2024-2025
Cored Merthyr Merthyr Tudful Adeiladu 2023-2024
Diogelu eiddo Aberdulais Castell-nedd a Phort Talbot Adeiladu 2022-2023
Gwella taith llysywod Gogledd Cymru Adeiladu 2022-2023
Cynllun rheoli perygl llifogydd Dwyran Ynys Môn Arfarnu 2024-2025
Astudiaeth o hyfywedd arglawdd Tan Lan Conwy Arfarnu 2022-2023
Amddiffyn eiddo yn Llanfair Talhaearn Conwy Arfarnu 2022-2023
Gorsaf fesur Fiddlers Elbow Rhondda Cynon Taf Adeiladu 2023-2024
Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn nalgylch Tregatwg Bro Morgannwg Cynllunio 2024-2025
Adlinio a reolir ym Mwche Sir Gaerfyrddin Arfarnu 2024-2025
Cynllun rheoli perygl llifogydd Pwllheli Gwynedd Arfarnu 2026-2027
Gorsaf fesur Dyfi Powys Adeiladu 2023-2024
Cynllun rheoli perygl llifogydd Fairbourne Gwynedd Gorffen y Prosiect 2022-2023
Cynllun rheoli perygl llifogydd Llanandras Powys Adeiladu 2023-2024
Gwaith amnewid winsh hydrometreg yng Ngogledd Cymru Gogledd Cymru Adeiladu 2022-2023
Cynllun rheoli llifogydd yn naturiol yn Llanfair Talhaearn Conwy Adeiladu 2022-2023
Aber Dysynni, Tywyn - cynllun addasu'r arfordir Gwynedd Arfarnu 2024-2025
Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd ar Lan Camlas Aberdulais Castell-nedd a Phort Talbot Arfarnu 2023-2024
Modelu llifogydd yn y Rhondda Rhondda Cynon Taf Arfarnu 2022-2023
Modelu llifogydd o Afon Gele Conwy Arfarnu 2022-2023
Atgyweirio amddiffynfeydd morol ar Glogwyni'r Friog Gwynedd Gorffen y Prosiect 2022-2023
Dadansoddi perygl llanwol yn ne Bae Tremadog Gwynedd Arfarnu 2022-2023
Cynllun Llifogydd Caerllion (llifddor barhaol) Casnewydd Adeiladu 2022-2023
Adolygu gorsafoedd pwmpio Gogledd Cymru Arfarnu 2022-2023
Diogelu eiddo Llanelwedd Powys Adeiladu 2022-2023
Llynnau Caeconroi - gwaith diogelwch ar y gronfa ddŵr amddifad Powys Cynllunio 2024-2025
Amddiffyn eiddo’r Creunant Castell-nedd a Phort Talbot Adeiladu 2022-2023
Pontydd mynediad llifddor y Bala Gwynedd Arfarnu 2022-2023
Cynllun rheoli perygl llifogydd Llangefni Ynys Môn Arfarnu 2024-2025
Cynllun rheoli llifogydd yn naturiol yn Nant Gwrach Castell-nedd a Phort Talbot Adeiladu 2022-2023
Gwaith strwythurol yng Nghlog y Frân Sir Gaerfyrddin Adeiladu 2022-2023
Modelu hydrolig ar Afon Seiont Gwynedd Arfarnu 2022-2023
Arolygon topograffig hydrometreg a thelemetreg Cymru Gyfan Arfarnu 2022-2023
Gwelliannau mynediad yn Nhrehafod Rhondda Cynon Taf Adeiladu 2023-2024
Atgyweirio ffyrdd mynediad yn Aber Hafren Sir Fynwy Adeiladu 2022-2023
Atgyweirio gollyngfa Trefynwy Sir Fynwy Adeiladu 2022-2023
Atgyweirio gollyngfa Pil Magwyr Sir Fynwy Adeiladu 2022-2023
Atgyweirio gollyngfa St Pierre Sir Fynwy Adeiladu 2022-2023
Atgyweirio argae Cwm Clydach Castell-nedd a Phort Talbot Gorffen y Prosiect 2023-2024
Astudiaeth perygl llifogydd a mapio yn y Bala Gwynedd Arfarnu 2022-2023
Atgyweirio wal cerrig cynnal yng Nglyn-nedd Castell-nedd a Phort Talbot Gorffen y Prosiect 2022-2023
Modelu llifogydd yn Llandinam Powys Arfarnu 2022-2023
Model dalgylch integredig Afon Cynon Rhondda Cynon Taf Arfarnu 2022-2023
Cronfa ddŵr y Bala - tynnu banciau tywod Gwynedd Adeiladu 2022-2023
Tynnu silt o gronfa ddŵr Llanbedr-y-fro Caerdydd Adeiladu 2022-2023
Cynllun llifogydd Nant y Rhath Caerdydd Arfarnu 2022-2023
Atgyweirio gollyngfa Chapel Reen Casnewydd Adeiladu 2023-2024
Gorsaf Fesur Bodfari Sir Ddinbych Adeiladu 2022-2023
Arglawdd llifogydd Bedwas Caerffili Adeiladu 2022-2023
Atgyweirio glannau Lancers Way Casnewydd Adeiladu 2022-2023
Atgyweirio amddiffynfa forol Gwynllŵg Casnewydd Adeiladu 2022-2023
Atgyweirio gollyngfa Windmill Reen Casnewydd Adeiladu 2022-2023
Atgyweirio gollyngfa Coldharbour Casnewydd Adeiladu 2022-2023
Modelu llifogydd Taf Isaf De Cymru Arfarnu 2022-2023
Daliwr coed pont Elái Caerdydd Gorffen y Prosiect 2022-2023
Adnewyddu gorsaf fesur rhyd Glasfryn Sir Gaerfyrddin Adeiladu 2022-2023
Rheoli llystyfiant a bwnd dros dro yn y Pwll Sir Gaerfyrddin Adeiladu 2022-2023
Rheoli perygl llifogydd ym Mhontarddulais Abertawe Gorffen y Prosiect 2022-2023
Arolwg o Nant y Rhath Caerdydd Arfarnu 2022-2023
Arglawdd llifogydd Crofty Mill House Abertawe Adeiladu 2022-2023
Cynllun llifogydd y Clas-ar-Wy - gwaith atgyweirio Powys Adeiladu 2022-2023
Arglawdd y Gelli a charthu banciau tywod Rhondda Cynon Taf Adeiladu 2022-2023
Arglawdd llanwol Maes-glas Sir y Fflint Arfarnu 2022-2023
Arolygon o lefel crib argloddiau yn y Gogledd Orllewin Gwynedd Arfarnu 2022-2023
Cynlluniau llifogydd Machen (cam 2) Caerffili Adeiladu 2022-2023
Atgyweirio wal lifogydd Pontypridd Rhondda Cynon Taf Adeiladu 2022-2023
Gwelliannau mynediad ym Mhontygwyndy Caerffili Adeiladu 2022-2023
Gwella gollyngfa West Pill Sir Fynwy Adeiladu 2022-2023
Gwaith cynnal a chadw yn Nhrefforest Rhondda Cynon Taf Adeiladu 2022-2023
Rhaglen arolygu cwlferi yn y Gogledd Orllewin Gwynedd Arfarnu 2022-2023
Gwella mynediad ym Medwas Caerffili Adeiladu 2022-2023
Ailraddio arglawdd a llwybr llifogydd Colchester Avenue Caerdydd Adeiladu 2022-2023
Prosiect creu cynefin cors Cwm Ivy Abertawe Gorffen y Prosiect 2022-2023
Atgyweirio arglawdd llifogydd parc carafanau Glanyrafon Abertawe Gorffen y Prosiect 2022-2023
Adolygiad o safon yr amddiffyniad presennol Cymru Gyfan Arfarnu 2022-2023
Gwella model darogan llifogydd Afon Tawe Abertawe Arfarnu 2022-2023
Arolwg strwythurol o wal lifogydd y Bontnewydd Gwynedd Arfarnu 2022-2023
Rheoli perygl llifogydd yn y Pwll Sir Gaerfyrddin Gorffen y Prosiect 2022-2023
Ardal storio Frampton - gwelliannau ar gyfer gweithgareddau cynnal a chadw Bro Morgannwg Adeiladu 2022-2023
Ailosod uniad ehangu Glyn-nedd Castell-nedd a Phort Talbot Adeiladu 2022-2023
Diweddaru model Ynys-y-bwl Rhondda Cynon Taf Arfarnu 2022-2023
Bwnd llifogydd nant Tawelan Sir Gaerfyrddin Adeiladu 2022-2023
Modelu llifogydd ym Mryn-crug Gwynedd Arfarnu 2022-2023
Gwaith diogelwch ar gronfa ddŵr Pont y Cerbyd Sir Benfro Adeiladu 2022-2023
Modelu llifogydd o Afon Rhymni Caerffili Arfarnu 2022-2023
Problemau llifogydd gweddilliol yn Nyffryn Conwy Conwy Adeiladu 2022-2023
Awtomeiddio lloc argae Pontarddulais Abertawe Adeiladu 2022-2023
Trac mynediad ar ffordd Ton-du Pen-y-bont ar Ogwr Adeiladu 2022-2023
Adolygiad o gynllun Bangor Is-coed Wrecsam Arfarnu 2022-2023
Modelu llifogydd ym Mhen-sarn Conwy Arfarnu 2022-2023
Gwella gorsaf rhybuddion llifogydd Pontyberem Sir Gaerfyrddin Adeiladu 2022-2023
Modelu llifogydd o Afon Adda Gwynedd Arfarnu 2022-2023
Gorsaf fesur Llangyndeyrn Sir Gaerfyrddin Gorffen y Prosiect 2022-2023
Cerrig cynnal a mynediad yn Llanelái Rhondda Cynon Taf Adeiladu 2022-2023
Adnewyddu cored Resolfen Castell-nedd a Phort Talbot Gorffen y Prosiect 2022-2023
Cynllun rheoli tymor canolig Fairbourne Gwynedd Arfarnu 2022-2023
Amnewid basged caergawell Tal-sarn Ceredigion Gorffen y Prosiect 2022-2023
Gorsaf fesur Dyserth Powys Gorffen y Prosiect 2022-2023
Adnewyddu adeilad pont Canaston Sir Benfro Gorffen y Prosiect 2022-2023
Amddiffyniad ar lannau Esgair Carnau Powys Gorffen y Prosiect 2022-2023
Cynllun llifogydd Llanelwy Sir Ddinbych Gorffen y Prosiect 2022-2023
Cynllun rheoli perygl llifogydd Crindai Casnewydd Gorffen y Prosiect 2022-2023
Gollyngfa Nant Tregatwg De Cymru Gorffen y Prosiect 2022-2023

Pedwar cam ar gyfer pob prosiect

Mae angen i bob prosiect fynd drwy’r camau canlynol:

  1. Gwerthuso – rydym ni’n sicrhau bod y prosiect yn ymarferol o safbwynt technegol, amgylcheddol ac economaidd a’i fod yn gallu mynd yn ei flaen
  2. Dylunio – rydym ni’n edrych yn fanwl ar y dyluniad ac yn mireinio’r cynlluniau, y costau a’r manylebau gan sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei ddiogelu a’i well alle bynnag bo hynny’n bosibl.
  3. Adeiladu – mae’r gwaith yn cael ei wneud ar y safle
  4. Cau’r prosiect – pan fo’r gwaith adeiladu wedi’i gwblhau ac unrhyw gostau’n cael eu talu

Rhoddir dyddiad disgwyliedig ar gyfer cwblhau pob prosiect. Fel pob prosiect adeiladu sylweddol, gall y dyddiad disgwyliedig newid oherwydd yr adnoddau sydd ar gael i ni, newidiadau technegol, yr amodau ar y safle a newid yn ein blaenoriaethau.

Cyllid

Rydym ni’n gwario oddeutu £17m y flwyddyn ar brosiectau amddiffyn rhag llifogydd, gan flaenoriaethu’r cymunedau hynny sydd fwyaf mewn perygl. Mae ein prosiectau’n cael eu hariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru.

Mae ein cyllid yn cael ei gadarnhau’n flynyddol. Mae’n cael ei asesu gan Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar y cynlluniau yr ydym yn cynnig eu datblygu ymhellach.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf