Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru

Yr Ail Adroddiad i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, dan Adran 18 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi ei ail adroddiad i Weinidogion Cymru ar Reoli Peryglon Llifogydd ac Erydiad Arfordirol yng Nghymru.

Cylch Gwaith

Mae’r adroddiad, a gynhyrchwyd ar ran yr holl Awdurdodau Rheoli Peryglon sy’n gweithredu yng Nghymru (sy’n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdodau Lleol a Chwmnïau Dŵr a Charthffosiaeth sy’n gweithredu yng Nghymru), yn rhoi diweddariad o fuddsoddiadau, datblygiadau allweddol a gwelliannau gweithredol a wnaed yn ystod y cyfnod ym mis Ebrill 2014 a mis Mawrth 2016.

Rhoi strategaeth ar waith

Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi diweddariad i Weinidogion Cymru ar y cynnydd a wnaed wrth weithredu Strategaeth Rheoli Peryglon Llifogydd ac Erydiad Arfordirol Llywodraeth Cymru.

Dogfen gyfeirio safonol

Mae hyn yn ddilyniant i’r adroddiad cyntaf, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2014 a disgwylir y bydd yn parhau i fod yn ddogfen gyfeirio safonol ar gyfer ffeithiau a ffigurau cysylltiedig â rheoli peryglon llifogydd ac erydiad arfordirol yng Nghymru. Bydd yr adroddiadau yn parhau i gael eu cynhyrchu bob dwy flynedd ac yn alinio ag adolygiad Llywodraeth Cymru o’i Strategaeth Rheoli Peryglon Llifogydd ac Erydiad Arfordirol Cenedlaethol.

Buddsoddiad

Mae’r adroddiad yn crynhoi’r wybodaeth a ddarparwyd gan yr holl Awdurdodau Rheoli Peryglon yng Nghymru ac mae’n dangos fod £116 miliwn wedi ei fuddsoddi ym maes rheoli peryglon llifogydd ac arfordirol ac adnoddau rhwng mis Ebrill 2014 a mis Mawrth 2016. Mae hyn wedi helpu i leihau’r perygl o lifogydd i fwy na 5000 o gartrefi a busnesau, yn ogystal ag isadeiledd hanfodol.

Digwyddiadau Llifogydd Mawr

Yn ystod y cyfnod adrodd, cafwyd nifer o achosion o lifogydd sylweddol ledled y DU ac yn 2015, cofnodwyd y mis Rhagfyr gwlypaf erioed, gyda glawiad o 1016mm yng Nghapel Curig, Conwy (ffynhonnell: y swyddfa dywydd). Fodd bynnag, er gwaetha’r glaw sylweddol, ni chafwyd llifogydd cyffredinol yng Nghymru.  

Amddiffynfeydd llifogydd da

Mae achosion o law trwm a stormydd wedi dangos pa mor llwyddiannus yw amddiffynfeydd llifogydd yng Nghymru wrth ddiogelu cymunedau, ac i ba raddau y bu Awdurdodau Rheoli Peryglon, cymunedau a sefydliadau eraill, yn cydweithio’n effeithiol i leihau effeithiau llifogydd.

Datblygu gwytnwch

Mae’n eglur fod y rhwydwaith cenedlaethol o amddiffynfeydd llifogydd ac ymatebion Awdurdodau Rheoli Peryglon a sefydliadau eraill, yn debygol o gael eu profi o ddifrif yn ystod llifogydd mawr. Mae angen gwneud mwy i sicrhau fod cymunedau ac isadeileddau ledled Cymru yn fwy gwydn i wrthsefyll llifogydd ac erydiad arfordirol yn y dyfodol.

Mae’r adroddiad hefyd felly yn darparu crynodeb o sut y mae Awdurdodau Rheoli Peryglon yn edrych ar, ac yn defnyddio mwy ar ddulliau eraill heblaw camau rheoli peryglon llifogydd traddodiadol er mwyn mynd i’r afael â phwysau megis newid hinsawdd a chynyddu gwytnwch y cymunedau mwyaf bregus. Cafwyd hefyd ymwybyddiaeth a dealltwriaeth cynyddol o sut y gellir mynd i’r afael â phwysau o’r fath drwy ddefnyddio amrediad o fesurau lliniaru llifogydd, drwy rannu adnoddau a thrwy weithio ar y cyd gyda phartneriaid i gyflawni amcanion cyffredin.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.