Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Gwybodaeth am lifogydd Rhagfyr 2015

Ystadegau cyffredinol am beryglon llifogydd


Mae:

  • 208,500 eiddo mewn perygl o lifogydd gan afonydd neu’r môr, tua 11% o bob eiddo,
  • 163,000 eiddo mewn perygl o lifogydd gan ddŵr wyneb (mae rhai’n gorgyffwrdd â’r uchod)
  • 73,000 o’r rhain ar eu hennill oherwydd amddiffynfeydd llifogydd
  • 2,000 eiddo mewn perygl o erydiad arfordirol dros y ganrif nesaf

Costau a buddsoddiad

  • Costiodd llifogydd yng Nghymru tua £71 miliwn rhwng Tachwedd 2011 a Mawrth 2014
  • Achosodd stormydd Rhagfyr/Ionawr 2013/14 niwed gwerth £8.1 miliwn i amddiffynfeydd llifogydd ond amcangyfrifir bod y gost y llwyddwyd i’w hosgoi oherwydd buddsoddiad mewn amddiffynfeydd llifogydd yn £3 biliwn
  • Buddsoddwyd £165 miliwn mewn rheoli perygl llifogydd ac erydiad arfordirol yng Nghymru rhwng Tachwedd 2011 a Mawrth 2014, gan leihau perygl i 6,700 eiddo

Asedau

  • 319 milltir o amddiffynfeydd yn cael eu cynnal gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  • Dros 4,000 ased amddiffyn llifogydd yn berchen i CNC

Ymwybyddiaeth llifogydd

  • Darparwyd gwasanaeth rhagweld llifogydd ar gyfer 173 lleoliad yng Nghymru
  • Dros 97,000 o bobl wedi cofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim drwy gyfrwng Rhybuddion Llinell Llifogydd (Floodline) Uniongyrchol (gwasanaeth ar y cyd rhwng CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd)
  • Mae gan dros 1,000 o gymunedau a busnesau unigol yng Nghymru eu cynlluniau llifogydd parod erbyn hyn rhag ofn i’r gwaethaf ddigwydd

Difrifoldeb digwyddiad Rhagfyr 2015

Mae cofnodion y Swyddfa Dywydd, a gefnogir gan ddata CNC, yn nodi bod Cymru wedi cael y Rhagfyr gwlypaf a gofnodwyd, ers 1910. Er gwaethaf hynny, nid ydym wedi dioddef llifogydd cyffredinol cyfatebol yng Nghymru, y gellid ei ddisgwyl o ystyried y glaw – bu misoedd gaeafol llawer gwaeth o ran llifogydd. Dengys ein cofnodion er enghraifft fod: 

  • 996 milimetr o law yng Nghwm Dyli, yr Wyddfa, yn ystod Rhagfyr
  • dengys ein mesurydd glaw yn y Bala mai dyma’r cyfnod mwyaf gwlyb ers i gofnodion gael eu cadw yn 1961
  • lefelau afonydd Conwy, Glaslyn a Dyfi yn cyrraedd eu huchafbwynt mwyaf erioed

Cafodd buddsoddiadau mewn amddiffynfeydd, rhybuddion ac ati dros y degawdau diwethaf effaith gadarnhaol, ond chwaraeodd patrwm y glaw yng Nghymru y mis diwethaf ei ran hefyd:

  • fe syrthiodd y gwaethaf dros ogledd-orllewin Cymru, llawer llai yn y de
  • roedd yn law dyfal a chyson dros gyfnod yn hytrach na chwympo dros gyfnod byr

Lefelau afonydd

Roedd mis Rhagfyr 2015 yn fis eithriadol o wlyb, gan arwain at fesur lefelau eithriadol o uchel mewn sawl gorsaf fesur ar afonydd, yn enwedig yng ngogledd-orllewin Cymru, gyda sawl mesurydd glaw yng Ngogledd Cymru’n mesur dros 200% yn fwy na’r cyfartaledd hirdymor ar gyfer y mis hwnnw. Gwelwyd y lefelau afonydd uchaf a gofnodwyd erioed ar: 

  • Afon Seiont ym Melin Peblig – yr uchafbwynt mwyaf ers dechrau cofnodi yn 1976 (roedd yr uchafbwynt blaenorol ym mis Tachwedd 2009)
  • Afon Llyfni ym Mhont y Cim - yr uchafbwynt mwyaf ers dechrau cofnodi yn 1995 (roedd yr uchafbwynt blaenorol ym mis Tachwedd 2012)
  • Afon Gwyrfai yn y Bontnewydd – yr uchaf ers ailadeiladu’r orsaf fesur yn 2009

Gwelwyd y lefelau afonydd ail uchaf erioed ar:

  • Afon Conwy yng Nghwmlanerch – yr ail fwyaf ers dechrau cofnodi yn 1964 (roedd yr uchafbwynt mwyaf a gofnodwyd erioed ym mis Tachwedd 2009)
  • Afon Elwy ym Mhont y Gwyddel - yr ail fwyaf ers dechrau cofnodi yn 1973 (roedd yr uchafbwynt mwyaf a gofnodwyd erioed ym mis Tachwedd  2012)
  • Afon Elwy yn Llanelwy - yr ail fwyaf ers dechrau cofnodi yn 1997 (roedd yr uchafbwynt mwyaf a gofnodwyd erioed ym mis Tachwedd 2012)

Astudiaeth achos – Dolgellau

Mae gwelliannau i waliau oedd yn bodoli eisoes, ynghyd ag adeiladu amddiffynfeydd a giatiau llifogydd newydd, wedi lleoihau risg llifogydd ar gyfer dros 300 eiddo yn y dref. 

Dechreuodd gwaith ar y cynllun £5.6 miliwn ym mis Medi 2014, a daeth i ben yn ystod hydref 2015. Ym mis Rhagfyr 2015 cododd afon Wnion i lefelau a oedd yn uwch na’r amddiffynfeydd blaenorol ac oni bai am y cynllun newydd, byddai eiddo yn Nolgellau wedi dioddef gorlifo. Mae’r Gweinidog Adnoddau Naturiol yn mynd i agor y cynllun yn swyddogol ar 25 Chwefror 2016.

Rydym ni’n annog pobl sy’n byw neu’n gweithio yn yr ardal i gofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim. Mae rhyw 150 o bobl eisoes wedi gwneud, gan ddarparu amser hanfodol ar gyfer paratoi a gweithredu os oes llifogydd yn bygwth. 

Astudiaeth achos – Cyffordd Llandudno

Er mai dim ond 3.2 cilometr o hyd yw afon Wydden, mae ganddi gyfanswm o 41 ased gwarchod rhag llifogydd, 4 ardal cronni llifogydd ac un ased sylweddol ar hyd iddi. Mae’r cynllun, a gwblhawyd yn 1996, ac a ddiweddarwyd yn 2012, yn darparu amddiffynfeydd ychwanegol i 200 eiddo o ran llifogydd o’r afon a’r llanw. 

Dros y Nadolig 2015 gweithredodd y system bedwar tro. Oni bai am y system, byddai sawl cartref wedi gorlifo bob tro. Digwyddodd y llifogydd mwyaf diweddar a arweiniodd at niwed sylweddol i eiddo yn 1993. Nid oes dim llifogydd difrifol wedi digwydd ers cwblhau’r system diogelu rhag llifogydd yn 1996. 

Safleoedd eraill

Mae ein data’n dangos y byddai eiddo ym Mhorthmadog, Llanelwy, Beddgelert, Aberdaron, Llanfair Talhaearn, Bangor, Bangor-is-y-coed a’r Bala wedi diddef llifogydd ym mis Rhagfyr oni bai am yr amddiffynfeydd. Rhwystrodd amddiffynfeydd yn Nyffryn Conwy yn Llanrwst i’r llifogydd a welwyd yno fod yn llawer gwaeth.

Yn ne Cymru llwyddodd amddiffynfeydd CNC i ddal y llifogydd yn ôl yn Sanclêr, Tregaron ac Abergwili.

Rhybuddion llifogydd

Cyhoeddodd CNC 55 Rhybudd Llifogydd a 178 rhybudd i fod yn barod am lifogydd yn ystod mis Rhagfyr.

Datblygiadau mewn ardaloedd ble ceir perygl llifogydd

Bydd CNC yn asesu rhyw 900 cais cynllunio mewn ardaloedd perygl llifogydd bob blwyddyn. Mae ein gwaith yn cefnogi polisi Llywodraeth Cymru i ddargyfeirio datblygiad oddi wrth ardaloedd ble ceir perygl llifogydd ble bynnag y bo hynny’n bosib ac os nad oes dewis arall yna dylai lleoliad a dyluniad y datblygiad olygu ei fod yn ddiogel ar gyfer pobl. 

Mae rhyw 96% o benderfyniadau Awdurdodau Cynllunio yn unol â’n cyngor ni, naill ai drwy wrthod cais neu ei addasu i gwrdd â’n cyngor. Byddwn ni’n gwrthwynebu cynlluniau sy’n methu â dangos bod modd rheoli’r perygl llifogydd, naill ai i’r safle mewn ystyriaeth neu oddiwrtho. 

Y nod yw arwain datblygiadau oddi wrth ardaloedd sydd mewn perygl mawr o lifogydd. Mae hyn yn haws ei gyflawni yn y cam cynllunio strategol pan fydd modd adnabod safleoedd eraill, sy’n llai tebygol o orlifo. 

Y rhan a chwaraeir gan asiantaethau amrywiol

Mae CNC yn glir o ran pa afonydd, sianelau draenio ac asedau y mae’n gyfrifol amdanynt ac mae gennym raglen cynnal a chadw yn ei lle i archwilio’r rhain cyn i ddigwyddiad glaw mawr ddigwydd er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio cystal ag y gallant. Roeddem allan yn gyson dros gyfnod y Nadolig, yn sicrhau bod sgriniau sbwriel yn glir, gorsafoedd pwmpio’n gweithio’n dda ac ati. Cyfrifoldeb Awdurdodau Lleol yw llwybrau dŵr llai a llifogydd o ddŵr wyneb. Rydym ni’n gweithio’n galed i gysylltu ein gwaith gyda’r Awdurdodau Lleol a’r gwasanaethau brys mewn ymateb sy’n cynnwys sawl asiantaeth. 

Carthu afonydd

Mae gan CNC raglen flynyddol i dynnu rhwystrau o lwybrau dŵr yr ydym yn gyfrifol amdanynt a ble y gall wneud gwahaniaeth. 

Rydym ni’n ymgymryd yn rheolaidd â chynnal a chadw llwybrau dŵr mewn cymunedau ble ceir perygl mawr o lifogydd, mewn cymunedau gwledig a threfol. Bydd hyn yn cynnwys tynnu dyddodion, rheoli llystyfiant mewn sianelau a symud rhwystrau a graean. Ymhlith enghreifftiau o 2015 a 2014 mae:

  • Afon Hafren yn Llanidloes
  • Afon Camarch yn Beulah, Powys
  • Afon Dawan yn y Bont-faen
  • Afon Wysg yn Aberhonddu
  • Afon Clwyd yn Llandyrnog
  • Afon Wnion yn Nolgellau

Serch hynny, nid carthu yw’r ateb yn aml, a gall wneud y broblem yn waeth drwy symud dŵr yn gynt ac achosi gorlifo yn is i lawr yr afon. Gall hefyd gynyddu erydiad glannau afonydd ac amddiffynfeydd llifogydd, niweidio’r amgylchedd ac effeithio ar ddefnyddwyr eraill y tir a busnesau gwledig. Mae nifer y lleoliadau sy’n cael eu carthu bob blwyddyn yn amrywio yn ôl angen a faint o fygythiad llifogydd sydd ar y pryd.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.