Lefelau afonydd ar lein help

Rydym ni’n cyhoeddi gwybodaeth ynghylch lefelau afonydd er mwyn i bobl mewn ardaloedd perygl llifogydd gael gwell gwybodaeth a gallu penderfynu beth i’w wneud wrth i lefelau’r dŵr newid.

Bydd genweirwyr a chychwyr hefyd yn gallu defnyddio'r wybodaeth i ganfod lefel y dŵr cyn cychwyn o gartref.

Darllenwch drwy’n canllawiau i ddysgu rhagor ynghylch y map lefelau ar lein, sut i ddefnyddio ei nodweddion, o ble y daw ein gwybodaeth a sut i'w ddefnyddio.

Cofiwch fod croeso i chi gysylltu â ni os byddwch angen rhagor o wybodaeth.

Sut ydych chi’n mesur lefelau afonydd?

Mae gennym ni orsafoedd monitro ledled Cymru sy’n mesur lefelau dŵr. Mae darlleniadau’n cael eu cadw ar safle ac yn cael eu hanfon yn awtomatig atom ni drwy ein systemau telemetreg. 

Pa wybodaeth sy’n cael ei ddangos ar y map?

Lefelau afonydd – yn cael ei fesur mewn metrau fel dyfnder y dŵr uwchben gorsaf fonitro. 

Sut ydw i’n canfod lefel afon yn fy ardal i?

Gallwch ddod o hyd i orsafoedd mesur yn eich ardal mewn dwy ffordd:

1. Defnyddio’r cyfleuster chwilio ar y dudalen map i ganfod lleoliad yn ôl cyfeiriad, côd post neu enw gorsaf fonitro.

2. Defnyddio’r cyfleuster chwilio ar y dudalen crynodeb gorsafoedd monitro i hidlo ar gyfer nodweddion gorsafoedd monitro penodol.

Pa mor aml mae’r wybodaeth yn cael ei ddiweddaru?

Mae data’n cael ei gofnodi bob 15 munud, yn cael ei gadw ar safle ac yn cael ei anfon i'n systemau ni sawl gwaith y diwrnod. Mae’r wybodaeth ynghylch lefelau afonydd yn cael ei diweddaru’n awtomatig ar ein gwefan. Ar rai adegau, yn enwedig pan geir llifogydd, mae’r data’n cael ei anfon yn ôl yn amlach.

Rydym yn deall y byddai nifer o ddefnyddwyr yn hoffi pe byddai’r wybodaeth ynghylch lefelau afonydd yn cael ei diweddaru’n amlach ar ein gwefan. Mae’r wefan yn cael ei diweddaru gynted ag y daw’r data o’r safle. Mae’n costio i anfon data o safleoedd a dyma un rheswm pan nad oes cysylltiad parhaol â gorsafoedd.

Hefyd, mae llawer o’n safleoedd mewn mannau anghysbell ac yn rhedeg ar fatris. Mae’n rhaid i ni fod yn ofalus pa mor aml y byddwn yn adfer y data i wneud y gorau o oes y batris ac i sicrhau y bydd yr offer yn dal i weithio i gyfarfod â’n hanghenion. 

Pa mor gywir yw’r data?

Rydym yn gweithio’n galed i roi gwybodaeth gywir a pherthnasol i chi. Oherwydd fod y mesuriadau’n cael eu hanfon ar eu hunion i’n gwefan, dydyn nhw ddim wedi’u dilysu ac fe allan nhw, weithiau, fod yn anghywir.

Os bydd problemau’n parhau gyda data anghywir neu ar goll, efallai na fyddwn yn defnyddio'r data o'r safle honno nes bod y broblem wedi'i datrys.

Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau fod yr wybodaeth a roddir yn gywir, ni ellir dal Cyfoeth Naturiol Cymru na’i staff na'i asiantau yn gyfrifol am unrhyw anghywirdeb na diffygion, a achoswyd gan esgeulustod neu unrhyw beth arall.

A oes gwybodaeth ar gael ar gyfer pob afon?

Mae gennym rwydwaith helaeth o orsafoedd monitro. Mae’r rhain ar bob un o brif afonydd Cymru yn ogystal ag ar rai o’r afonydd llai ac ar rai nentydd a ffrydiau. Nid oes orsafoedd monitro ar rai o’r cyrsiau dŵr llai oherwydd nad oes raid i ni eu monitro ar gyfer ein hanghenion gwaith. 

Oes yna fwriad i gael rhagor o orsafoedd monitro?

Rydym wastad yn datblygu a gwella ein gwefan a’n gwasanaethau ac efallai y byddwn yn gallu ychwanegu rhagor o safleoedd a gwasanaethau yn y dyfodol.

Sut alla i dderbyn rhybuddion llifogydd?

Yr Uchaf a Gofnodwyd - y lefel uchaf a gofnodwyd yn ystod cyfnod llawn y data a gofnodwyd

Yr Isaf a Gofnodwyd - y lefel isaf a gofnodwyd yn ystod cyfnod llawn y data a gofnodwyd

Ystod Nodweddiadol - yr ystod arferol o lefelau dŵr gydol y flwyddyn. Cyfrifir hyn o’r data hanesyddol a gasglwyd yn dangos lefel y dŵr yn yr oraf fonitro honno.

Pam fod lefel afon yn codi neu’n gostwng yn gyflym weithiau?

Mae lefelau dŵr mewn afonydd yn codi a gostwng yn ôl faint o law sy’n disgyn. Ond mae pethau eraill hefyd yn effeithio ar lefelau rhai afonydd, megis:

  • argaeau a fflodiardau yn agor a chau
  • cynhyrchu trydan dŵr
  • y llanw yn achosi'r llif i godi a gostwng mewn rhai gorsafoedd monitro
  • malurion yn casglu mewn cwlfertau

Alla i lawr lwytho data lefel afonydd o’n gwefan?

Gall ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd roi rhybudd i chi ymlaen llaw pan fydd llifogydd yn debygol o afonydd a'r môr - a rhoi amser i chi baratoi.

Ymunwch â Rhybuddion Uniongyrchol Floodline 

Mae gen i drwydded tynnu dŵr, allai i ddefnyddio'r wybodaeth?

Nid yw'r wybodaeth ynghylch lefelau afonydd ar ein gwefan wedi'i ddilysu ac ni ddylai'r rhai sy'n tynnu dŵr ei ddefnyddio i gyfarfod ag amodau penodol eu trwyddedau.

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n Canolfan Gofal y Cwsmer neu ganfod sut i wneud cais am wybodaeth

Pam fod y wefan yn defnyddio Amser Safonol Greenwich (GMT) yn lle Amser Haf Prydain (BST)?

Rydym yn defnyddio Amser Safonol Greenwich oherwydd mai dyma'r dull safonol o gasglu data hydrometrig. 

Diweddarwyd ddiwethaf