Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Darganfod pum tirwedd chwedlonol

Dewch i archwilio’r tirweddau a ysbrydolodd rai o chwedlau hynafol Cymru ar un o’n pum llwybr cerdded

Stream flowing over rocks with trees at the side of the river bank

Ble ydw i’n cychwyn?

Rydym wedi dewis pum llwybr drwy goedwigoedd neu Warchodfeydd Natur Cenedlaethol, ac mae gan bob un gyswllt â chwedloniaeth leol neu chwedl enwog.

Dilynwch yn ôl troed Sant Ffolant Cymru yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch ar Ynys Môn, neu, ymhellach i’r de, syllwch i fyny ar gadair y cawr o fryniau Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Gwrandewch ar stori Siwsi’r wrach, a anfonodd gŵn hela’r arglwydd lleol cas i’w tranc ym Mharc Coedwig Coed y Brenin.

Dewch i gael eich hudo gan hanes y bobl danddaearol a fyddai’n helpu’r mwyngloddwyr i ddarganfod gwythiennau o blwm gwerthfawr ym mryniau canolbarth Cymru, neu ewch ar daith yn ne Cymru i ddod o hyd i’r porth i deyrnas y tylwyth teg ymysg y rhaeadrau.

Cynllunio eich taith

  • Dysgwch ragor am y llwybr a gwrandewch ar y straeon sy’n gysylltiedig â phob un ar ein ap PlaceTales. Dyma sut i lawrlwytho ein ap yn rhad ac am ddim
  • Os nad oes gennych ddyfais symudol, gallwch wrando ar y llwybrau drwy gyfrwng y ddolen o dan bob disgrifiad o’r llwybrau isod
  • Lawrlwythwch unrhyw un o’r llwybrau yn rhad ac am ddim i’ch dyfais Apple neu Android oddi ar wefan Viewranger
  • Dewch o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch ynglŷn â thrafnidiaeth gyhoeddus mewn un man ar wefan Traveline Cymru
  • Gwiriwch y Cod Cefn Gwlad er mwyn gwneud y gorau o’ch ymweliad a sicrhau bod cefn gwlad Cymru’n parhau i fod yn lle hardd y gall pawb ei fwynhau

Rydym ni’n argymell eich bod chi’n lawrlwytho ein ap ac unrhyw lwybrau, mapiau neu amserlenni teithio cyn i chi adael eich cartref er mwyn i chi allu’u defnyddio heb fod angen signal symudol.

Dewis eich llwybr

Llwybr 1: Darganfod chwedl Santes Dwynwen yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch, Gogledd Orllewin Cymru

Y chwedl

Ynys LLanddwynDwynwen yw nawddsant cariadon Cymru, a’n Sant Ffolant ni.

Roedd hi’n ferch i frenin o’r bumed ganrif, a dywedir iddi encilio i ynys Llanddwyn, yn ne-orllewin Môn, ar ôl iddi gwympo mewn cariad.

Yn ôl rhai fersiynau o’r stori, dywedir bod ei thad wedi trefnu iddi briodi rhywun arall, ac fe ddewisodd hi fywyd meudwy yn lle. Yn ôl eraill, dywedir iddi ddod yn lleian i ddiolch i Dduw am wireddu’i dymuniad, ac iddi sefydlu lleiandy yma.

Dros y blynyddoedd, daeth yr ynys hardd hon yn fan pererindota poblogaidd, a byddai ymwelwyr yn gadael offrymau ger allor Dwynwen. Daeth yr ardal yn gyfoethog iawn yn ystod cyfnod y Tuduriaid ac adeiladwyd capel newydd yn yr unfed ganrif ar bymtheg ar safle capel gwreiddiol Dwynwen.

Erbyn heddiw, mae’r ynys yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch ac mae’n gartref i ddewis helaeth o blanhigion ac anifeiliaid sydd wedi addasu ar gyfer her yr amgylchedd ar lan y môr.

Y llwybr

Mae’r Llwybr Saint, Môr a Thywod yn cychwyn drwy lwybrau’r goedwig gan fynd â chi drwy system dwyni arfordirol ysblennydd Cwningar Niwbwrch ac ymlaen i’r ynys. Gallwch weld adfeilion y capel a dysgu mwy am stori Dwynwen a’r dirwedd unigryw a ffurfiwyd gan wynt a môr. 

Llwybr sain: Ceir llwybr sain y gallwch wrando arno wrth i chi ddilyn y llwybr hwn. Mae wedi’i rannu’n adrannau sy’n cyd-fynd â physt wedi’u rhifo ar hyd y ffordd. Mae’r llwybr yn un o nifer o lwybrau sain a straeon gwerin ar ein ap rhad ac am ddim PlacesToGo. Rydym ni’n argymell eich bod chi’n lawrlwytho’r ap i’ch dyfais symudol cyn ymweld â’r lle er mwyn i chi allu gwrando arno wrth i chi ddilyn y llwybr.  

Hyd: Mae’r llwybr cylchol hwn, sydd wedi’i farcio, yn 5 milltir (7km) o hyd.

Tir dan draed: Llwybr cymedrol wedi’i raddio yw hwn. Mae’r llwybr yn mynd ar hyd llwybrau’r goedwig, twyni tywod meddal a glaswelltir anwastad. Gall Ynys Llanddwyn gael ei gwahanu o’r tir mawr ar adeg llanw uchel felly gwiriwch amserau’r llanw cyn cychwyn a dilynwch yr arwydd gwiriad llanw uchel pan fydd angen.

Dechrau a gorffen: Maes parcio traeth Niwbwrch, pentref Niwbwrch, Ynys Môn.

Dysgu rhagor

Llwybr 2: Darganfod chwedl Idris Gawr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, Gogledd Orllewin Cymru

Y chwedl

Cadair IdrisMae tirwedd ddramatig Cadair Idris, ynghyd â’r tywydd cyfnewidiol, wedi bwydo dychymyg cenedlaethau o storïwyr.

O ganlyniad, dyma ardal sy’n gyforiog o chwedlau a straeon, ac un o’r mwyaf enwog yw honno am Idris y Cawr.

Daw enw Cadair Idris o’r sôn am y bardd-filwr enfawr y dywedir iddo greu cadair ar ben y mynydd er mwyn gweld y nefoedd.

Un diwrnod, roedd Idris yn eistedd ar ei orsedd pan deimlodd fod darnau o raean mân yn ei esgidiau. Taflodd y graean i lawr y mynydd a honnir mai’r tair carreg fawr a welir ar waelod y mynydd yw’r darnau bach hynny o raean oedd yn boen i Idris.

Erbyn heddiw mae Cadair Idris yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac mae copa’r mynydd yn gyrchfan i filoedd o gerddwyr profiadol bob blwyddyn.

Gallwch ddilyn ôl eu troed am ran o’r ffordd a chael blas ar gerdded y mynydd agored ar Lwybr Pont Nant Cadair neu ar Ddringfa’r Ceunant, sy’n fyrrach.

Ceir dau lwybr hygyrch o gwmpas y llyn yn y parcdir islaw’r mynydd yn ogystal. Gallwch ddysgu mwy am chwedl Idris Gawr yn y ganolfan ymwelwyr a’r caffi, sydd hefyd yn cadw gwybodaeth am ddaeareg a bywyd gwyllt y Warchodfa Natur Genedlaethol, ynghyd â ffilm sy’n dangos golygfeydd dramatig o’r mynydd o’r awyr.

Gwelwch ein ffilm am chwedlau Cadair Idris

Mae’r ffilm yn ddwyieithog.  Mae’r fersiwn Gymraeg yn dod yn gyntaf ac mae’r fersiwn Saesneg yn dilyn ar ôl 7 munud.

 Y llwybr

Mae Llwybr Pont Nant Cadair yn dechrau ychydig heibio i’r ganolfan ymwelwyr ger mynedfa’r Warchodfa Natur Genedlaethol. Byddwch chi’n mynd drwy’r Fforest Law Geltaidd ac yn mwynhau golygfeydd ar draws y ceunant. Yna byddwch chi’n dringo’n serth i gyrraedd llethrau isaf y mynydd agored, nes i chi gyrraedd Pont Nant Cadair. Oddi yma, rhaid i chi ailymweld â’ch camre yn ôl i’r ganolfan ymwelwyr.

Enw’r llwybr yw llwybr Minffordd ac mae’n parhau i gopa Cadair Idris. Mae’n llwybr serth iawn sy’n gofyn am lawer o ymdrech, a dim ond cerddwyr profiadol sy’n meddu ar ddillad ac esgidiau addas, a map, ddylai fod yn rhoi cynnig arno.

Hyd: Llwybr llinol (yno ac yn ôl) yw hwn, sy’n ½ milltir (1km) o hyd un ffordd.

Tir dan draed: Mae’r llwybr o’r maes parcio i’r ganolfan ymwelwyr yn llydan a hygyrch ond mae Llwybr Pont Nant Cadair yn mynd â chi i’r mynydd agored. Mae’n llwybr serth sy’n gofyn am ymdrech, sy’n dringo cyfanswm o 620troedfedd (190m).

Dechrau a gorffen: Canolfan Ymwelwyr Cadair Idris (mynediad o faes parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri oddi ar yr A487 rhwng Machynlleth a Dolgellau).

Dysgu rhagor

Llwybr 3: Darganfod chwedl Siwsi’r Wrach, Parc Coedwig Coed y Brenin, Gogledd Orllewin Cymru

Y chwedl

Defnyddio’r bocs weindio arbennig ar y bontY bont dros geunant dramatig yw lleoliad chwedl Siwsi Dôl y Clochydd, y dywedir ei bod hi’n wrach.

Honnodd arglwydd lleol fod cath hoff Siwsi’n hela ar ei dir, ac felly lladdodd ef y gath.

Roedd Siwsi mewn gwewyr mor ofnadwy nes iddi droi’i hun yn sgwarnog a denu cŵn hela’r arglwydd i fynd ar ei hôl dros ochr y ceunant. Neidiodd hithau drosodd ar yr eiliad olaf ond disgynnodd y cŵn i’w tranc i’r dyfroedd brochus islaw.

Bob tro y byddai’r arglwydd yn dychwelyd i hela, byddai Siwsi’n troi’n ewig ac yn dod â’r cŵn i’r un lle bob tro, ble byddai’n llamu drosodd ac yn eu rhwystro rhag dal eu prae.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, codwyd pont dros y ceunant. Enw’r bont yw Pont Llam yr Ewig ac mae’n dal i gael yr enw hwnnw hyd heddiw.

Mae Pont Llam yr Ewig yn cuddio ym Mharc Coedwig Coed y Brenin, ond nid yw’n rhy bell o Ganolfan Ymwelwyr Coed y Brenin. Yn y Ganolfan Ymwelwyr ceir caffi, ardal chwarae i blant a dewis o lwybrau cerdded a beicio mynydd. 

Y llwybrau

Y Llwybr Darganfod: llwybr byr drwy ardd goedwig sy’n cynnwys coed o bob cwr o’r byd. Cadwch lygad am y paneli dirgel a guddiwyd yn y pyst arbennig ar hyd y llwybr er mwyn dargaofd ffeithiau diddorol am y coed gwahanol. Gallwch ddefnyddio’r bocs weindio arbennig i glywed Siwsi’r wrach yn adrodd ei stori.

Hyd: Mae’r llwybr cylchol hwn, sydd wedi’i farcio, yn ¾ milltir (1.2km) o hyd.

Tir dan draed: Dyma lwybr hawdd a raddiwyd. Mae rhan o’r llwybr yn dilyn y llwybr hygyrch ac mae rhan yn dilyn ffordd fwy serth ac anwastad drwy’r goedwig, ond nid oes grisiau na chamfeydd. 

Dechrau a gorffen: Maes parcio Pandy, Parc Coedwig Coed y Brenin, ger Dolgellau.

Mae Llwybr Hygyrch yr Ewig yn cychwyn o’r maes parcio ar gyfer ymwelwyr anabl ger y bont. Mae’r llwybr yna’n dilyn yr afon drwy ran isaf gardd y goedwig nes cyrraedd lle gweld golygfa dros y rhaeadr. Defnyddiwch y bocs weindio arbennig yna, i wrando ar Siwsi’r wrach yn adrodd ei hanes.

Hyd: Llwybr llinol (yno ac yn ôl), wedi’i farcio, yw hwn, sy’n 160 llath (0.14km) o hyd un ffordd.

Tir dan draed: Adeiladwyd y llwybr hwn i safonau Cefn Gwlad i Bawb gyda graddfa hawdd (uchafswm o 10% / 1 mewn 10) ac mae’n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Dechrau a gorffen: Maes parcio Pont Llam yr Ewig, Parc Coedwig Coed y Brenin, ger Dolgellau.

Dysgu rhagor 

Llwybr 4: Darganfod chwedl Cnocwyr Cwmsymlog, Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Canolbarth Cymru

Y chwedl

Bwlch Nant yr ArianRoedd mwyngloddio plwm yn ddiwydiant pwysig yn y bryniau o gwmpas Aberystwyth ar un adeg, ac roedd yn cyflogi llawer o bobl leol, mewn swyddi prin.

Cafodd y mwyngloddwyr gymorth tylwyth teg a elwid yn ‘gnocwyr’, diolch i’r synau y bydden nhw’n eu gwneud er mwyn arwain pobl at y plwm.

Pan stopiodd y mwyngloddwyr glywed y cnocwyr, a methu â dod o hyd i’r plwm, roedd arnyn nhw ofn fod rhywun wedi digio’r tylwyth teg, ac na fyddai gwaith iddyn nhw mwyach.

Meddyliodd Deio, un o feibion y mwyngloddwyr, y byddai rhoi anrheg i’r cnocwyr, sef teisen fwyar ei fam, yn eu plesio, felly cychwynnodd am y pwll gyda’r gacen. Diolchodd tylwythen deg i Deio am yr anrheg flasus a dywedodd y byddai’r tylwyth teg yn cofio am y mwyngloddwyr, am ei fod ef wedi cofio am y tylwyth teg.

Dywedodd y dylwythen deg y byddai’n dangos y ffordd i’r mwyngloddwyr ddarganfod y plwm eto, a, wir i chi, buan y clywson nhw sŵn cnocio a dod o hyd i wythïen werthfawr iawn o blwm.

Heddiw, trawsnewidiwyd y cyn-dirwedd ddiwydiannol ac mae canolfan ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian yn cynnig llwybrau â golygfeydd ysblennydd, llwybrau beicio mynydd a chaffi.

Gallwch weld un o lwyddiannau mawr Cymru yn y cyfnod diweddar yma hefyd – golygfa ddramatig y barcutiaid coch yn bwydo. Ailgyflwynwyd yr adar ysglyfaethus hyn, a oedd ar fin diflannu’n llwyr, rai blynyddoedd yn ôl, ac maen nhw’n cael eu bwyd ger y llyn bob prynhawn.

Y llwybr

Mae Llwybr Elenydd yn dilyn llwybr cylchol o gwmpas y llyn. Mae’n pasio drwy goedwigoedd a cheir golygfeydd o’r bryniau cyfagos. Ysbrydolwyd y llwybr gan Elenydd, sef yr hen enw ar yr ardal hon, ac mae’r cerfluniau sydd wrth ochr y llwybr yn dod â’r dirwedd hudol a’i chwedlau gwerin yn fyw. Cadwch lygad am y pyst weindio arbennig sy’n adrodd stori Deio a’r cnocwyr a chwedlau lleol eraill.

Hyd: Mae’r llwybr cylchol hwn, sydd wedi’i farcio, yn ⅔ milltir (1.2km) o hyd.

Tir dan draed: Mae’r llwybr o gwmpas y llyn yn codi llai na 10% a chafodd ei raddio fel llwybr hygyrch. Mae’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a bygis babanod.

Dechrau a gorffen: Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth.

Dysgu rhagor

Llwybr 5: Darganfod chwedl Teyrnas y Tylwyth Teg, Pont Melin-fach, De Ddwyrain Cymru

Y chwedl

RhaeadrBachgen lleol oedd Elidir, ac roedd e’n hyfforddi i fod yn offeiriad.

Un diwrnod, ac yntau wedi diflasu ar ei hyfforddiant, rhedodd i ffwrdd a syrthiodd i gysgu ar lan Afon Nedd. Cafodd ei ddeffro gan ddau o’r Tylwyth Teg, a aeth ag ef i lawr drwy dwnnel ar lan yr afon i gartref Brenin y Tylwyth Teg.

Chwaraeodd Elidir gyda phlant y brenin am sawl diwrnod nes iddo ddechrau teimlo hiraeth am ei gartref.

Dywedodd y brenin y gallai Elidir ddychwelyd i’w gartref, ond na allai ddweud wrth neb am ei ymweliad. Ond ni chadwodd Elidir ei air, a phan ddywedodd wrth ei fam am y peli aur y bu’n chwarae gyda nhw yno roedd hi eisiau iddo ddod ag un yn ôl iddi hi. Ceisiodd wneud hynny, yn ddigon anfoddog, ond cafodd ei ddal gan y tylwyth teg, a ddywedodd ei fod yn lleidr ac yn fradwr.

Roedd Elidir yn llawn cywilydd, ac yn benderfynol o ymddiheuro i’w ffrindiau newydd, ond ni lwyddodd ef byth eto ddod o hyd i fynedfa teyrnas y tylwyth teg.

Y llwybr

Lleolir Llwybr Elidir yn yr ardal a elwir yn Wlad y Sgydau, am ei bod yn gartref i’r casgliad mwyaf o raeadrau, neu sgydau yn y dafodiaith leol, yng Nghymru. Mae’r llwybr yn mynd heibio i bedair o’r rhaeadrau hyn wrth ddilyn yr afon i lawr i bentref Pontneddfechan. Mae cannoedd o fathau gwahanol o blanhigion sy’n hoffi gwlybaniaeth yn byw yma, a honnir bod y fynedfa i deyrnas y tylwyth teg ble aeth Elidir ar ymweliad rywle ar hyd y ffordd, ynghudd ynghanol y mwsoglau a’r rhedyn.

Hyd: Llwybr llinol (yno ac yn ôl) wedi’i farcio yw hwn, sy’n 2.4 milltir (3.9km) o faes parcio Pont Melin-fach i Bontneddfechan. Bydd angen i chi ailymweld â’ch llwybr pan gyrhaeddwch i Bontneddfechan er mwyn dychwelyd i faes parcio Pont Melin-fach.

Tir dan draed: Mae’r tir yn anwastad mewn sawl lle ac mae’n llithrig ar ôl iddi fwrw glaw. Ceir rhai dringfeydd serth, ac mae’r llwybr o Bont Melin-fach i raeadr Sgwd Gwladys yn serth ac anwastad.

Dechrau a gorffen: Maes parcio Pont Melin-fach, ger Ystradfellte.

Dysgu rhagor

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.