Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Deg gweithgaredd gorau

Dewiswch ba un a fynnoch o’n rhestr o’r deg gweithgaredd a rhoi cynnig ar rywbeth newydd!

Dau blentyn gyda deulygad

Dau blentyn gyda deulygad

A hoffech chi wneud rhywbeth egnïol yn yr awyr agored?

Os hoffech chi wneud mwy na dim ond mynd am dro, mae gennym ddigonedd o syniadau i chi.

O helfa drysor yn y goedwig i wylio adar oddi ar lwybr pren, mae’n siŵr y bydd rhywbeth yn apelio atoch chi a’r teulu.

O goedwigoedd cysgodol i dwyni tywod agored a gwlyptiroedd arfordirol dramatig, mae ein safleoedd yn rhoi cyfle i chi anturio yn yr awyr agored ac yn eich herio i roi cynnig ar rywbeth newydd.

Cynllunio eich ymweliad

  • Mae’r ap PlacesToGo yn dangos i chi ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud yng nghoedwigoedd cyhoeddus a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol Cymru. Mae ap PlaceTales yn cynnwys llwybrau sain a chwedlau gwerin sy’n dod â’r mannau hyn yn fyw. Dysgwch sut i lawrlwytho’r apiau rhad ac am ddim hyn ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn i chi gychwyn ar eich taith
  • Am fanylion ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline.cymru/

Mwynhau eich ymweliad

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn eich helpu i barchu, gwarchod a mwynhau cefn gwlad, gan eich galluogi i gael y profiadau gorau ar eich ymweliad.

Mae’n rhoi cyngor defnyddiol ynghylch:

  • paratoi am eich taith
  • eich diogelwch chi ac eraill
  • sicrhau bod cefn gwlad yn aros yn lle hardd y gall pawb ei fwynhau

Gweithgaredd 1: Cyfeiriannu yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Coed y Brenin, Gogledd Orllewin Cymru

Group of people Orienteering at Coed y Brenin Forest ParkYdych chi’n chwilio am weithgaredd awyr agored gyffrous y gall y teulu cyfan ei fwynhau gyda’i gilydd? Gallai cyfeiriannu fod yn ddelfrydol i chi – mae’n addas ar gyfer pob oedran a ffitrwydd a gallwch fynd yn eich blaen o dan eich pwysau eich hun.

Ceir pedwar cwrs cyfeiriannu parhaol (cyfres o byst pren y mae’n rhaid i chi eu darganfod yn eu trefn) ym Mharc Coedwig Coed y Brenin. Maen nhw’n dechrau ac yn gorffen yn y Ganolfan Ymwelwyr ble gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud y gorau o’ch diwrnod.

Ceir dau gwrs haws ar gyfer dechreuwyr (melyn ac oren). Mae’r cwrs melyn yn addas ar gyfer plant iau ac mae’n ffordd hwyliog iawn o ddatblygu sgiliau darllen map. Graddiwyd pob un o’r llwybrau i safon y Ffederasiwn Cyfeiriannu Prydeinig a cheir dau gwrs mwy heriol hefyd (coch a gwyrdd) ar gyfer rhai sy’n gallu darllen mapiau’n fwy hyderus ac ar gyfer cyfeirianwyr profiadol. Pa bynnag gwrs y dewiswch chi a pha mor gyflym bynnag y gallwch gwblhau’r her, byddwch yn sicr o deimlo eich bod wedi cyflawni rhywbeth gwerth chweil pan fyddwch yn gorffen, a byddwch yn barod ar gyfer eich antur nesaf yn y goedwig.

Hyd: Mae’r llwybrau’n amrywio mewn hyd rhwng 1 a 1.5 milltir (1.5 i 2.5 cilometr).

Tir dan draed: Gellir cwblhau’r cwrs melyn ar lwybrau da ond mae’r tir yn amrywio dan draed ar y tri chwrs arall.

Cyn i chi fynd: Gellir prynu mapiau cyfeiriannu sy’n dal dŵr yn y ganolfan ymwelwyr. Bydd angen cwmpawd arnoch chi, ynghyd â rhyw gymaint o ddealltwriaeth sut i’w ddefnyddio.

Dechrau a gorffen: Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin ble ceir caffi, toiledau a chyfleusterau eraill ar gyfer ymwelwyr. Codir tâl am barcio.

Cyrraedd yno: Mae Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Coed y Brenin ar ochr ddwyreiniol yr A470, wyth milltir i’r gogledd o Ddolgellau. Mae ychydig i’r gogledd o Ganllwyd ac i’r de o Drawsfynydd, y pentrefi agosaf. Codir tâl am barcio. Mae’r gorsafoedd trenau agosaf yn Abermo (llinell Arfordir y Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog - Llandudno). Mae bysiau rhif T2 (Dolgellau - Aberystwyth) a 35 (Blaenau Ffestiniog - Dolgellau) yn mynd heibio i geg y lôn i’r maes parcio.

Dysgu mwy am gyfeiriannu ym Mharc Coedwig Coed y Brenin

Gweithgaredd 2: Gwylio a bwydo barcutiaid yng Nghanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Canolbarth Cymru

Merched yn gwylio'r barcud cochMae hi’n ddigon hawdd gweld barcud yng Nghanolbarth Cymru erbyn hyn, ond mae’r profiad o weld haid o’r adar ysglyfaethus trawiadol hyn wrth iddynt ddod i fwydo yng Nghanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian yn dal i fod yn ddiguro.

Mae’r ganolfan ymwelwyr ger Aberystwyth yn enwog am y wledd ddyddiol i’r llygad a geir adeg bwydo’r barcutiaid. Gellir gwylio’r digwyddiad o glydwch y caffi neu o sawl llecyn o gwmpas y llyn, gan gynnwys cuddfan gwylio adar sy’n edrych dros yr ardal fwydo. Mae bwydo’n digwydd am 2pm yn y gaeaf ac am 3pm yn yr haf pan fydd cynifer â 200 o farcutiaid yn dod heibio. Ar ddiwrnod cymylog, mae’r awyr yn gefnlen llawn cymeriad ar gyfer haid o’r adar cynffon fforchog hyn wrth iddynt hongian yn yr awyr uwch y llyn cyn plymio i gipio darnau o gig ar y ddaear gyda’u crafangau.

Mae’r Llwybr Barcud, sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn, yn mynd o gwmpas ymyl y llyn ble bydd y barcutiaid yn cael eu bwydo.

Hyd: Mae’r Llwybr Barcud yn ddwy ran o dair o filltir (1.2 cilometr)

Tir dan draed: Mae’r Llwybr Barcud o gwmpas y llyn yn addas ar gyfer cadeiriau olwynion. Nid oes grisiau na chamfeydd ac mae’r goleddf yn 10% neu lai gyda chilfannau gorffwys ar adrannau sy’n mynd am i fyny.

Dechrau a gorffen: Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian lle ceir caffi, toiledau a chyfleusterau eraill ar gyfer ymwelwyr. Codir tâl am barcio.

Cyrraedd yno: Mae Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian naw milltir i’r dwyrain o Aberystwyth ar yr A44. Aberystwyth yw’r orsaf drenau agosaf. Mae’r bws 525 o Aberystwyth – Ponterwyd / Llanidloes yn stopio ar gais ger mynedfa’r maes parcio. Mae gwasanaeth coets National Express yn stopio’n ddyddiol ym Mhonterwyd ac Aberystwyth.

Dysgu mwy am Ganolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian

Gweithgaredd 3: Beicio mynydd i ddechreuwyr ym Mharc Coedwig Afan, De Cymru

Bachgen ar feic mynyddYdych chi’n newydd i feicio mynydd, neu a ydych chi’n chwilio am daith feic ymlaciol y gallwch chi a’r teulu ei gwneud gyda’ch gilydd? Yna ewch i Barc Coedwig Afan ble cynlluniwyd Llwybr y Dechreuwyr yn benodol ar gyfer beicwyr llai profiadol. Does dim angen dod â beic (na phrynu un!) am fod dau le yn llogi beiciau yma.

Mae pob un o’r llwybrau beicio mynydd wedi’u graddio i’ch helpu i ddewis yr un sydd orau ar eich cyfer chi ac, fel y mae’r enw’n awgrymu, graddiwyd Llwybr y Dechreuwyr yn wyrdd (hawdd). Mae’r llwybr yn crwydro drwy olygfeydd hyfryd ar lan afon a gellir beicio yno ymhob tywydd.

Os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau beicio mynydd, oedwch yn yr ardal sgiliau’r teulu hanner ffordd ar hyd y llwybr. Yma gallwch feicio i lawr ambell graig fach a rhoi cynnig ar feicio ambell dro â banc, a elwir yn ‘bermau’. Os yw hynny’n codi blas am ragor o antur, dilynwch y ddolen ddewisol gradd glas (cymedrol) ger yr afon a arwyddwyd ar ddiwedd yr adran werdd.

Ac os yw'r clwy beicio mynydd yn cydio ynoch chi, ceir llawer mwy o lwybrau i roi cynnig arnynt ym Mharc Coedwig Afan - efallai y byddwch chi’n barod ar gyfer troeon a llethrau serth y llwybr gradd du un diwrnod.

Hyd: Mae’r Llwybr Dechreuwyr yn cynnwys darn 3.5 milltir (5.5 cilometr) wedi’i raddio’n wyrdd (hawdd) a darn dolen ddewisol 1.5 milltir (2.3 cilometr) glas (cymedrol)

Tir dan draed: Dyma lwybr llydan gydag ambell i riw ddramatig.

Dechrau a gorffen: Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan

Cyn mynd: Darllenwch ragor o wybodaeth am feicio mynydd

Cyrraedd yno: Lleolir Parc Coedwig Afan oddi ar yr M4 ger Port Talbot. Ewch oddi ar gyffordd 40 yr M4 ar i heol A4107. Ar ôl chwe milltir ceir arwyddion ar gyfer Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan, gerllaw pentref Cwmafan. Mae’r orsaf drenau agosaf ym Mhort Talbot.

Dysgu mwy am Barc Coedwig Afan

Gweithgaredd 4: Chwilio am geogelc yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Coed y Brenin, Gogledd Orllewin Cymru

Bachgen gyda geocacheMath o helfa drysor awyr agored yw chwilio geogelc, ac mae’n debygol o ddenu’r cerddwyr mwyaf cyndyn hyd yn oed i fentro allan ymhob tywydd heb iddynt sylweddoli hynny!

Bwriad chwilio geogelc yw hela celc cudd gan ddefnyddio mapiau a derbynwyr GPS (system leoli fyd-eang). Os dewch o hyd i gelc, ac mae rhai’n anodd iawn dod o hyd iddyn nhw, ceir llyfr log i chi allu cofnodi eich ymweliad, ac yn aml bydd eitemau y gallwch chi gyfnewid am rywbeth yr ydych chi wedi dod gyda chi yn y bocs.

Mae gan Barc Coedwig Coed y Brenin ddau lwybr geogelc cylchynol a gynlluniwyd ar gyfer cerddwyr. Mae’r ddau’n dilyn ffyrdd y goedwig a llwybrau ac yn cynnwys safleoedd o bwysigrwydd hanesyddol sydd bellach wedi’u cuddio’n ddwfn yn y goedwig. Mae’r celciau’n cynnwys gwybodaeth am rai o’r safleoedd hyn gan gynnwys heol Rufeinig Sarn Helen, gwaith haearn canoloesol a’r hen fwyngloddiau aur yng Ngwynfynydd.

Os yw’r clwy geogelc yn cydio ynoch chi, byddwch chi’n falch o glywed y gellir darganfod geogelc ledled y byd. Efallai y byddwch chi’n penderfynu cuddio celc bach eich hun hyd yn oed!

Hyd: Mae’r Rhodfa Rufeinig yn 3 milltir (5 cilometr) a Llwybr y Mwynwyr yn 5 milltir (8 cilometr).

Tir dan draed: Mae gan y llwybrau arwynebedd anwastad a darnau serth am i fyny ac i lawr. Nid yw’r celciau wedi’u lleoli mewn mannau sy’n cynnwys peryglon amlwg ond byddwch yn ymwybodol fod afonydd chwim, ceunentydd dwfn a llawer o hen weithfeydd ym mharc y goedwig.

Cyn mynd: Gallwch naill ai logi GPS o’r ganolfan ymwelwyr (ffoniwch 01341 440746 i archebu ymlaen llaw) neu gallwch lawrlwytho’r cyfesurynnau i’ch dyfais GPS eich hun gartref oddi ar https://www.geocaching.com/play. Os ydych eisiau cyfnewid eitem yn y geogelc, dewch â rhywbeth gyda chi a chofiwch wisgo rhywbeth cadarn ar eich traed.

Dechrau a gorffen: Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin ble ceir caffi, toiledau a chyfleusterau eraill ar gyfer ymwelwyr. Codir tâl am barcio.

Cyrraedd yno: Mae Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Coed y Brenin ar ochr ddwyreiniol yr A470, wyth milltir i’r gogledd o Ddolgellau. Mae ychydig i’r gogledd o Ganllwyd ac i’r de o Drawsfynydd, y pentrefi agosaf. Codir tâl am barcio. Mae’r gorsafoedd trenau agosaf yn Abermo (llinell Arfordir y Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog - Llandudno). Mae bysiau rhif T2 (Dolgellau - Aberystwyth) a 35 (Blaenau Ffestiniog - Dolgellau) yn mynd heibio i geg y lôn i’r maes parcio.

Dysgwch ragor am hel geogelc ym Mharc Coedwig Coed y Brenin

Gweithgaredd 5: Gwylio adar i ddechreuwyr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd, De Ddwyrain Cymru

LapwingOs yw gwylio adar yn brofiad newydd i chi, ewch i Warchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd. Prynwch lawlyfr o’r ganolfan ymwelwyr (gallwch logi sbienddrych hefyd) neu edrychwch ar y paneli gwybodaeth ger y llwybrau pren drwy’r gwelyau hesg, ac yna ceisiwch adnabod cynifer o rywogaethau ag y gallwch.

Mae’r gaeaf yn amser gwych i adarwyr newydd, am mai dyma pryd y gwelir yr heidiau mwyaf o adar yma. Ac, wrth gwrs mae llai o lystyfiant i’w cuddio, felly mae’n haws eu gweld!

Dros y gaeaf, bydd cyfoeth o ddewis o rywogaethau i’w gweld yma – chwiliwch am hwyaid gwyllt sy’n gaeafu yma, fel hwyaden gopog, hwyaden bengoch, hwyaden yr eithin, hwyaden lydanbig a rhydwyr fel y gylfinir a phibydd y mawn.

Hyd yn oed os nad ydych chi’n gwybod y gwahaniaeth rhwng hwyaden gopog a hwyaden bengoch, fydd dim modd i chi fethu â gweld y miloedd o ddrudwy sy’n dod i glwydo yn y warchodfa ar ddiwedd dydd. Fe welwch chi (a chlywed!) dros 10,000 o adar yn chwyrlïo uwchben mewn patrymau sy’n newid bob eiliad (a elwir yn Saesneg yn ‘murmuration’) wrth iddyn nhw baratoi i dreulio oriau’r nos yn y gwelyau hesg ger y ganolfan ymwelwyr.

Yn y gwanwyn daw’r gwelyau hesg yn fyw â chân gan mai dyma gartref teloriaid, elyrch dof, hwyaid copog, cwtieir a gwyach bach. Gallwch eu gweld o’r sgriniau gweld, y guddfan neu’r llwyfan gweld.

Daw’r hydref â’r hwyaid gwyllt, sy’n cartrefu yma dros y gaeaf, yn ei sgil: chwiwell, corhwyaden a rhydwyr fel y gornchwiglen a phibydd y mawn.

Hyd: Ceir pum llwybr ag arwyddbyst yn amrywio o ran hyd o ychydig dros filltir (1.6km) i 4 milltir (6km).

Tir dan draed: Mae’r llwybrau’n wastad gyda rhai llethrau graddol a ramp igam-ogam i ddringo’r pum metr i fyny i lefel uwch y gwelyau hesg. Mae pob un o’r llwybrau o gwmpas gwelyau hesg Aber Wysg yn hygyrch i gadeiriau olwyn a cheir meinciau bob rhyw 100 metr ar hyd y daith.

Dechrau a gorffen: Rhedir y ganolfan ymwelwyr gan yr RSPB ac mae’n lle gwych i ddysgu mwy am adar neu ddarganfod am y llwybrau cerdded a digwyddiadau eraill. Cewch olygfa ysblennydd o’r caffi dros y gwelyau hesg, felly dyma le delfrydol i wylio adar yn hamddenol ar ddiwrnod oer neu wlyb.

Cyrraedd yno: Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd bum milltir i’r de o Gasnewydd oddi ar yr A48. O Gyffordd 24 yr M4 ewch i’r gorllewin ar hyd yr A48 a dilynwch yr arwyddion hwyaid brown i faes parcio Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd. O Gyffordd 28 yr M4 ewch i’r dwyrain ar hyd yr A48 a dilynwch yr arwyddion hwyaid brown. Mae’r maes parcio a mynediad i’r ganolfan ymwelwyr yn rhad ac am ddim. Mae gan Lwybr Beicio Cenedlaethol Sustrans 4 gangen sy’n mynd i Wlyptir Casnewydd gan ddefnyddio llwybrau beicio a ffyrdd tawel. Ceir lle i barcio beiciau dan gysgod yn y maes parcio a stondin beiciau wrth ochr mynedfa’r Ganolfan Ymwelwyr.

Dysgwch ragor am Warchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd

Gweithgaredd 6: Dod yn dditectif anifeiliaid yng Nghoed Moel Famau, Gogledd Ddwyrain Cymru

Family on a bridge at Coed Moel Famua car parkDewch i chwilota’r Trywydd Tracio gyda’r teulu a’u helpu i ddarganfod pwy sy’n byw yn ein coedwigoedd. Gallant rwbio placiau pres, darganfod pwy sy’n trwyno’i ffordd drwy’r llwyni a sblasio yn y pyllau ger Cadwyn y Cerrig. Mae wyth anifail i ddarganfod amdanynt yma wrth i chi wneud eich ffordd drwy’r goedwig. Os yw’r plant yn dal i deimlo’n llawn bywyd gallant ddringo i grombil coeden gedrwydd enfawr a siglo mewn cawell aderyn yn llecyn chwarae Nyth yr Hebog.

Gallwch godi taflen o’r stondin yn y maes parcio. Peidiwch ag anghofio dod â chreonau gyda chi ar gyfer y rhwbio pres er mwyn gwneud ymweliad y plant yn fwy cofiadwy, neu codwch greon am ddim o Barch Gwledig Loggerheads gerllaw, sydd hefyd yn lle gwych ar gyfer cael paned gynnes a rhywbeth i’w fwyta ar ôl i chi orffen eich taith gerdded.

Hyd: Mae’r Trywydd Tracio yn filltir o hyd ac mae’n cymryd rhyw 45 munud i’w gwblhau.

Tir dan draed: Nodwch os gwelwch yn dda nad yw rhai darnau o’r Trywydd Tracio yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn na bygis babi.

Dechrau a gorffen: Maes parcio Coed Moel Famau. Codir tâl am barcio ceir ar y safle. Gellir cael trwydded barcio flynyddol ar gyfer nifer o feysydd parcio ym Mryniau Clwyd.

Cyrraedd yno: Mae Coed Moel Famau dair milltir i’r de o’r Wyddgrug, wedi’i arwyddo oddi ar 494. O’r gogledd: ewch ar yr A494 o’r Wyddgrug drwy drefi Gwernymynydd a Loggerheads, hyd y gyffordd â Pharc Gwledig Moel Famau ar y dde. Dilynwch y ffordd hon am filltir, ac mae’r maes parcio ar y dde. O’r de: ewch ar yr A494 o Ruthun i gyfeiriad yr Wyddgrug. Ar ôl pasio drwy bentref Llanferres trowch i’r chwith yng nghyffordd Parc Gwledig Moel Famau. Dilynwch y ffordd hon am filltir, ac mae’r maes parcio ar y dde. Cyfeirnod grid OS yw SJ 161 627.

Dysgwch ragor am lwybrau yng Nghoed Moel Famau, gogledd ddwyrain Cymru

Gweithgaredd 7: Rhedeg yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Coed y Brenin, Gogledd Orllewin Cymru

Man running through the countryside at Coed y Brenin Forest ParkOs ydych chi eisiau codi curiad eich calon ac anfon eich lefelau ffitrwydd i’r entrychion, rhowch gynnig ar un o Lwybrau Rhedeg Sarn Helen yng Nghoed y Brenin, canolfan redeg llwybrau penodedig gyntaf y DU.

Mae’r llwybr hir yn dringo i ben esgair Cefndeuddwr cyn syrthio i lawr i ddyffryn Afon Gain. Yna byddwch yn dilyn yr afon i fyny i adfeilion Fferm Penmaen ac yn dringo’n ôl i fyny’r bryn i ffordd Rufeinig Sarn Helen, llwybr ymerodrol pwysig ar gyrion yr Ymerodraeth Rufeinig, oedd yn cysylltu de a gogledd Cymru. Byddwch hefyd yn pasio heibio i weithfeydd haearn o’r Oesoedd Canol cyn dychwelyd ar hyd ffordd y goedwig i’r ganolfan ymwelwyr.

Mae’r llwybr byr yn un cymedrol ac yn cynnwys ffyrdd coedwig yn bennaf. Mae’r llwybr yn dringo i ben esgair Cefndeuddwr ac yna’n ymuno â ffordd Rufeinig Sarn Helen cyn mynd i lawr yn ôl i’r ganolfan ymwelwyr.

Ar hyd y ffordd ceir golygfeydd ysgubol o fynyddoedd de Eryri, afonydd byrlymus, pyllau llonydd, rhosydd grug a chysgod ysgafn coedwigoedd deri collddail.

Pan fyddwch yma, cofiwch ymweld â’r siop redeg ar y safle

Hyd: Mae Llwybr Hir Sarn Helen yn 5.2 milltir (8.5 cilometr) ac yn dringo 198 metr. Mae Llwybr Byr Sarn Helen yn 2.7 milltir (4.3 cilometr) ac yn dringo 97 metr.

Tir dan draed: Mae Llwybrau Rhedeg Sarn Helen ar gymysgedd o heolydd y goedwig a llwybrau un trac mwdlyd.

Dechrau a gorffen: Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin ble ceir caffi, toiledau a chyfleusterau eraill ar gyfer ymwelwyr. Codir tâl am barcio.

Cyn mynd: Os ydych chi’n ddechreuwr neu’n rhedwr profiadol iawn, gwnewch yn siŵr eich bod wedi paratoi ar gyfer eich rhediad a’r tywydd.

  • Bydd angen esgidiau a dillad ar gyfer y tywydd yn ogystal â dŵr a chyflenwad o fwyd
  • Argymhellir eich bod yn gwisgo esgidiau llwybr priodol ar gyfer y darnau mwdlyd
  • Os ydych chi’n mynd i drafferthion, dilynwch y mynegbyst Llwybr Dianc ar gyfer dychwelyd ar hyd ffordd haws i’r ganolfan ymwelwyr
  • Dilynwch unrhyw arwyddion dargyfeirio os gwelwch yn dda, a byddwch yn ymwybodol y gall lorïau coed fod yn defnyddio heolydd y goedwig

Cyrraedd yno: Mae Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Coed y Brenin ar ochr ddwyreiniol yr A470, wyth milltir i’r gogledd o Ddolgellau. Mae ychydig i’r gogledd o Ganllwyd ac i’r de o Drawsfynydd, y pentrefi agosaf. Codir tâl am barcio. Mae’r gorsafoedd trenau agosaf yn y Bermo (llinell Arfordir y Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog – Llandudno). Mae bysiau rhif T2 (Dolgellau – Aberystwyth) a 35 (Blaenau Ffestiniog – Dolgellau) yn mynd heibio i geg y lôn i’r maes parcio.

Dysgwch ragor am redeg yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Coed y Brenin a gwyliwch y fideo i gael blas ar yr adnoddau a’r llwybrau rhedeg

Gweithgaredd 8: Gwylio adar ar lan Dyfi: Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas, Canolbarth Cymru

PloverCydiwch yn eich ysbienddrych ac anelwch am lan Dyfi: Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas, un o ardaloedd pwysicaf Bae Ceredigion o ran adar gwyllt. Dyma le poblogaidd dros yr haf, ond mae’n werth ymweld yn ystod misoedd tawelach y gaeaf hefyd, pan fydd y dirwedd drawiadol yn arbennig o ddramatig. Waeth pryd ddewiswch chi ymweld, dyma le gwych i wylio adar.

Hanner ffordd rhwng Aberystwyth a Machynlleth, mae aber afon Dyfi, a’i fflatiau llaid, banciau tywod a morfa helaeth yn cynnig gwledd o fwydod morol a chregyn y gall adar wledda arnynt. Ymysg rhai o’r adar a welir yma’n aml mae’r hwyaden fraith, cwtiad torchog, pioden y môr, pibydd y mawn a’r chwiwell.

Mae’r hydref yn gyfnod da iawn i weld rhydwyr yn yr aber, ddaw’n gartref maes o law i adar gwylltion sy’n cartrefu yma dros y gaeaf, gan gynnwys unig boblogaeth reolaidd Cymru dros y gaeaf o wyddau talcen-gwyn yr Ynys Las.

Y gaeaf yw’r adeg orau i weld barcud, bwncath, boda tinwyn, cudyll bach a’r hebog tramor hefyd.

Yn y gwanwyn llenwir twyni tywod Ynyslas (y twyni mwyaf yng Ngheredigion) â chân yr ehedydd, llinos, clochdar y cerrig, llwydfron, siff-saff a thelor yr helyg. Wrth iddi nosi ar nosweithiau cynnes, llonydd, ceisiwch graffu i glywed cân grwndi’r Troellwr Mawr.

Hyd: Ceir tri llwybr cylchynol ag arwyddbyst yma, sy’n amrywio o ychydig dros filltir (2 km) o hyd i 2 ½ milltir (4km) o hyd.

Tir dan draed: Mae llwybrau Ynyslas yn wastad neu’n donnog gan groesi tywod, llwybrau a darnau o lwybrau pren. Mae’r llwybr pren a sglodion pren yng Nghors Fochno’n wastad. Mae croeso i chi grwydro dros y twyni a’r traeth hefyd, ond gall crwydro dros y fflatiau llaid a’r morfa fod yn beryglus iawn oherwydd perygl mynd yn sownd, a chael eich dal gan y llanw.

Dechrau a gorffen: Ceir paneli gwybodaeth a chanolfan ymwelwyr yn Ynyslas )ar agor rhwng y Pasg a mis Medi, ble gallwch holi staff y ganolfan am y bywyd gwyllt a welwyd yno’n ddiweddar. Mae’r llwybrau ag arwyddbyst yn archwilio tair rhan y warchodfa (twyni Ynyslas, aber Dyfi a chyforgors fawnog Cors Fochno).

Cyn mynd: Gwiriwch y diweddariadau o ran pa adar a welwyd yn yr ardal ar Flog Adar Ceredigion (Saesneg yn unig)

Cyrraedd yno: Prif bwynt mynediad Dyfi: Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas yw Ynyslas, sydd ddwy filltir i’r gogledd o Borth ar y B4353. Borth yw’r orsaf drenau agosaf. Ceir gwasanaeth bysiau o Aberystwyth i Dre’r-ddôl, sy’n mynd drwy Borth ac Ynyslas.

Dysgwch ragor am Dyfi: Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas

Gweithgaredd 9: Beicio mynydd ar gyfer beicwyr cynradd yng Nghanolfan Ymwelwyr Garwnant, De Cymru

Bachgen ar feic mynyddOs ydych chi’n chwilio am rywle diogel y gall plant fynd i’r afael â beic mynydd yna Canolfan Ymwelwyr Garwnant yw’r lle i fynd iddo.

Ceir dau lwybr byr a gynlluniwyd ar gyfer beicwyr cynradd er mwyn gwella’u harddull beicio a magu hyder. Mae Llwybr y Griafolen yn dechrau gyda chynhesu yn y parc sgiliau cyn dringo i fyny llwybr llydan sengl a disgyn yn ôl drwy gyfrwng troeon, twmpathau a bympiau. Mae’r Llwybr Sbriws yn rhannu’r un dechrau ond mae’n cynnwys ambell nodwedd fwy heriol megis cwymp, corneli serth bermog a disgyniad cyflym sy’n cynnwys troeon.

Mae gan y parc sgiliau gyfres o rwystrau plant-gyfeillgar a gynlluniwyd yn arbennig er mwyn gwella sgiliau beicwyr ifanc a chodi hyder, Bydd beicwyr yn gwthio’u beiciau i fyny’r llethr ac yn beicio o gwmpas pob un o’r nodweddion yn eu tro o dan eu pwysau, neu gallant ddewis osgoi nodwedd.

Garwnant yw porth deheuol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae’r goedwig hardd hon yn lle bendigedig ar gyfer diwrnod i’r teulu. Ceir llwybr hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a bygis, ardal chwarae, cwrs rhaffau isel a chaffi.

Hyd: Mae Llwybr y Griafolen yn 550 metr o hyd a’r Llwybr Sbriws yn 450 metr o hyd.

Tir dan draed: Mae’r ddau lwybr yn donnog gyda digon o droeon, twmpathau a bympiau. Llwybr graddfa wyrdd (hawdd) yw Llwybr y Griafolen ac mae’r Llwybr Sbriws yn llwybr graddfa glas (cymedrol).

Dechrau a gorffen: Maes parcio Canolfan Ymwelwyr Garwnant lle ceir caffi, toiledau a chyfleusterau eraill ar gyfer ymwelwyr. Codir tâl am barcio.

Cyn mynd: Darllenwch ragor o wybodaeth am feicio mynydd

Cyrraedd yno: Mae Canolfan Ymwelwyr Garwnant oddi ar briffordd yr A470 rhwng Aberhonddu a Merthyr Tudful. Merthyr Tudful yw’r orsaf drenau agosaf. Y gwasanaeth bws lleol sy’n pasio’r safle yw’r T4 rhwng Merthyr ac Aberhonddu.

Dysgwch ragor am Ganolfan Ymwelwyr Garwnant

Gweithgaredd 10: Gwylio’r wiwer goch yn Llyn Parc Mawr, Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, Gogledd Orllewin Cymru

A red squirrel at Llyn Parc MawrOs yw gweld gwiwer goch brin ar eich rhestr bwced chi yna ewch i Lyn Parc Mawr, Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, yn Ynys Môn.

Mae Môn yn gadarnle i unig rywogaeth frodorol y DU o wiwer oherwydd i wiwerod llwyd gael eu difa’n llwyr ar yr ynys. Hyd un oed yn ystod y gaeaf, pan fydd y rhan fwyaf o famaliaid mewn trwmgwsg, mae’r wiwer goch yn dal i’w gweld o gwmpas. Mae boreau yn ystod cyfnodau o dywydd mwynach yn amser arbennig o dda i gael cip ar un ohonynt.

Y lle gorau i ddechrau chwilio am y wiwer goch yw maes parcio Llyn Parc Mawr. Yma, bydd cyfle go dda gennych o’u gweld ar y pethau bwydo cyn i chi gychwyn ar Lwybr y Wiwer Goch, llwybr cylchynol a arwyddwyd drwy’r coed. Mae’r wiwer goch yn hoffi cymysgedd o binwydd a rhywogaethau brodorol o goed a dyfir yma am eu bod yn darparu bwyd a chysgod ar eu cyfer.

Craffwch am fflach liwgar o goch yn y coed a gwrandewch am sŵn blychau nythu’n agor a chau wrth i’r gwiwerod fynd i mewn ac allan ohonynt. Os byddwch chi’n lwcus iawn, fe welwch chi rai o’r anifeiliaid bach hudolus yn rhedeg ar ôl ei gilydd ar hyd canghennau’r coed. Pob hwyl wrth chwilio’r gwiwerod coch a pheidiwch ag anghofio dod â’ch camera gyda chi!.

Hyd: Mae Llwybr y Wiwer Goch yn 1.5 milltir (2.5 cilometr).

Tir dan draed: Llwybr hawdd wedi’i arwyddo gyda rhai darnau o dywod rhydd ac ychydig o ddringo ar i fyny i ben y twyni. Ceir darnau cul wrth ochr dŵr agored.

Cyn mynd: Dysgwch ragor am y wiwer goch ar Ynys Môn.

Dechrau a gorffen: Maes parcio Llyn Parc Mawr

Cyrraedd yno: Oddi ar yr A55, dilynwch yr A4080 i bentref Niwbwrch, ewch ymlaen drwy’r pentref i gyfeiriad Malltraeth. Unwaith y bydd y goedwig ar ddwy ochr y ffordd, mae maes parcio Llyn Parc Mawr wedi’i arwyddo ar y dde (Pwll Bywyd Gwyllt).

Dysgwch ragor am Warchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.