Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Eglwysi, cestyll a chapeli

Deg o lwybrau ar gyfer archwilio eglwysi hanesyddol, capeli a chestyll dros Gymru wrth gerdded, beicio neu ar gefn ceffyl

Castell Harlech © Crown copyright (2011) Visit Wales, all rights reserved

Rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid i lunio deg llwybr cerdded, marchogaeth a reidio i’ch helpu i weld rhai o gestyll, eglwysi a chapeli hanesyddol gorau Cymru. 

Mae’r llwybrau’n amrywio o lwybrau pellter hir heriol i rai haws, addas i deuluoedd.

Lawrlwytho’r llwybrau 

Gallwch lawrlwytho’r holl lwybrau hyn (a llawer o rai eraill) am ddim i ddyfeisiau Apple neu Android o Viewranger neu Trailzilla. 

Mae Viewranger a Trailzilla yn cynnig:

  • gwybodaeth am y llwybr gan gynnwys pellter, pa mor anodd yw’r llwybr, pa mor hawdd yw mynediad a beth ellir ei weld ar hyd y ffordd
  • rhan gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n tynnu sylw at gyfleoedd hamdden ledled Cymru
  • llyfrgell helaeth o arweiniadau llwybrau gyda miloedd o lwybrau wedi’u hargymell oddi wrth gyhoeddwyr teithio blaenllaw, sefydliadau twristiaeth ac arbenigwyr lleol

Rydym yn argymell ichi lawrlwytho llwybrau a mapiau cyn cychwyn o’ch cartref ac yna gallwch eu defnyddio heb fod angen signal ffôn symudol. 

Lawrlwytho casgliadau Cyfoeth Naturiol Cymru o ViewRanger neu Trailzilla.

Mwynhewch eich ymweliad 

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn eich helpu i barchu, diogelu a mwynhau’r cefn gwlad, a’ch galluogi i wneud y mwyaf o’ch ymweliad. 

Mae’n rhoi cyngor defnyddiol i chi am: 

  • Baratoi ar gyfer eich taith
  • Cadw’ch hun ac eraill yn ddiogel
  • Sicrhau fod cefn gwlad yn aros yn lle prydferth y gall pawb ei fwynhau

Dewis eich llwybr 

Llwybr 1 – Taith Taf (y rhan o Gaerdydd i Bontypridd), y De 

View of the river and daffodils along the taff trailLlwybr cerdded a beicio sydd gan fwyaf heb draffig yw Taith Taf. Mae’n cysylltu Bae Caerdydd a Llwybr Arfordir Cymru yn y de â Chastell Coch ar gyrion gogledd y ddinas. Mae’r llwybr hwn yn dilyn rhan o Daith Taf trwy barciau pert a mannau gwyrdd canol y ddinas, gan fynd heibio i lawer o brif atyniadau Caerdydd ar hyd y ffordd gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Castell Caerdydd, Parc Bute ac Eglwys Gadeiriol Llandaf.

  • Hyd: 55 milltir yw hyd gyfan Taith Taf (16 milltir yw’r rhan hon)
  • Tir: Mae Sustrans yn disgrifio’r llwybr hwn fel un o anhawster canolig. Cymysg yw’r wyneb. Mae rhai rhannau o’r llwybr ar brif ffyrdd ac isffyrdd
  • Addas i: Gerddwyr a beicwyr
  • Dechrau: Bae Caerdydd
  • Diwedd: Pontypridd
  • Cyrraedd yno: Trenau i Gaerdydd a Phontypridd

I gael gwybod mwy 

Ewch i wefan Sustrans i gael gwybodaeth am yr hyn sydd i’w weld a’r cyfleusterau ar hyd y llwybr, ac i lawrlwytho’r daflen am y llwybr. 

Llwybr 2 -  Taith Croesau Celtaidd a Glannau’r Môr, y De 

Nash Point lighthouseCewch eich swyno gan lan môr odidog Arfordir Treftadaeth Morgannwg, sy’n rhan o Llwybr Arfordir Cymru Dyma’r llwybr perffaith i’r rheiny sy’n mwynhau ychydig o hanes wrth gerdded. Mae tref Llanilltud Fawr wedi bod yn anheddiad ers mwy na 3000 o flynyddoedd.

  • Hyd: 3 milltir, gydag estyniad dewisol o 2 filltir i Goleg yr Iwerydd
  • Tir: Ceir camfeydd a thir garw a thonnog ar hyd y llwybr. Dylech gymryd sylw o’r arwyddion rhybuddio lle mae erydiad
  • Dechrau a diwedd: maes parcio Neuadd y Dref, Llanilltud Fawr
  • Addas i: Gerddwyr
  • Cyrraedd yno: Trenau a bysiau i Lanilltud Fawr a bysiau’n unig i dafarn y Lighthouse Inn ym Marcroes

I gael gwybod mwy 

Ewch i wefan Ymweld â’r Fro i gael gwybodaeth am yr hyn sydd i’w weld a’r cyfleusterau ar hyd y llwybr, ac i lawrlwytho’r daflen am y llwybr.  

Llwybr 3 – O Lanrhidian i Cheriton, Bro Gŵyr 

Wild Horses in marshland on the Loughor estuary near SwanseaTeithiau cerdded pleserus trwy gefn gwlad mwyn gogledd Bro Gŵyr, gan ddefnyddio rhan o Llwybr Arfordir Cymru sy’n rhan o Lwybr Arfordir Cymru rhwng Llanrhidian a Cheriton yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf ym Mhrydain. Mae’r llwybr yn frith o nodweddion hanesyddol gan gynnwys Eglwys Llanrhidian a Chastell Weble.

  • Hyd: 7.3 milltir
  • Tir: Mae’r llwybr yn mynd trwy dirwedd ychydig yn donnog. Mae’r rhan o Lwybr Arfordir Cymru’n weddol wastad ac agos i lefel y môr ond o dro i dro mae’r wyneb yn arw. Mae rhai camfeydd ar y llwybr a bydd rhai mannau ychydig yn lleidiog. Ar achlysuron prin bydd y llwybr o dan ddŵr am gyfnod byr ar adeg penllanw. Gwiriwch amserau’r llanw ar wefan Ymweld â Bae Abertawe
  • Addas i: Gerddwyr
  • Dechrau a diwedd: Eglwys Llanrhidian
  • Cyrraedd yno: I gael gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yn ardal Abertawe ewch i http://www.baytrans.org.uk/

I gael gwybod mwy 

Ewch i wefan Ymweld â Bae Abertawe i gael gwybodaeth am yr hyn sydd i’w weld a’r cyfleusterau ar hyd y llwybr, ac i lawrlwytho’r daflen am y llwybr. 

Llwybr 4 – Darganfyddiadau Llandingad, Dyffryn Gwy 

View of the country sideDyma un o dri Llwybr Troed a Throtian sydd wedi’u bwriadu i gerddwyr, marchogion a beicwyr mynydd. Mae’n cynnig golygfeydd trawiadol tuag at y Mynydd Du a Bannau Brycheiniog ac mae digonedd o fywyd gwyllt a threftadaeth gudd ar hyd y ffordd. Mae’r llwybr hefyd yn dilyn rhan o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, sy’n 177 o filltiroedd o hyd. Yma mae’n mynd trwy Sir Fynwy heibio i Eglwys Llanwarw a Chastell Llandingad, ymhlith mannau eraill.

  • Hyd: 4.5 milltir
  • Tir: Llwybr cymharol fryniog gydag arwyddion da yw hwn, sy’n defnyddio cyfuniad o lonydd gwyrdd, traciau coedwigaeth, caeau a lonydd tarmac. Gan ei fod yn llwybr addas i farchogaeth ar hyd-ddi, nid oes unrhyw gamfeydd
  • Addas i: Gerddwyr, marchogion a beicwyr mynydd
  • Dechrau a diwedd: Gallwch gychwyn ar y llwybr mewn sawl man – gweler y daflen ar wefan Llwybrau Troed a Throtian i gael y manylion llawn
  • Cyrraedd yno: Mae Llandingad yn agos i gyffordd yr A449 Rhaglan/Y Fenni ger Trefynwy

I gael gwybod mwy 

Ewch i wefan Llwybrau Troed a Throtian i gael gwybodaeth am yr hyn sydd i’w weld a’r cyfleusterau ar hyd y llwybr, ac i lawrlwytho’r daflen am y llwybr. 

Llwybr 5 -  Llwybr Hafren (y rhan o’r Drenewydd i’r Trallwng), y Canolbarth 

Montgomery CanalLlwybr pellter hir 210 o filltiroedd o hyd yw Llwybr Hafren. Mae’r daith hon yn dilyn rhan o Lwybr Hafren ar hyd Camlas Trefaldwyn. Mae’r daith unigryw hon ar lan y dŵr yn ffordd ddelfrydol o weld trefi a phentrefi, hanes a threftadaeth Cymru, gan gynnwys Castell Coch y Trallwng a Chastell Dolforwyn, ac ar yr un pryd teithio trwy gefn gwlad godidog. Gallwch gysylltu â llwybr pellter hir Glyndŵr yn y Trallwng.

  • Hyd: 14 milltir
  • Tir: Nid oes unrhyw gamfeydd ond mae’r llwybrau heb wyneb caled y tu allan i’r trefi. Mae rhan o’r daith yn dilyn llwybr halio Camlas Trefaldwyn. Cymerwch ofal wrth groesi’r ffyrdd
  • Addas i: Gerddwyr
  • Dechrau/diwedd: Y Drenewydd/Y Trallwng
  • Cyrraedd yno: Mae’r Drenewydd ar gyffordd yr A489 a’r A483. Mae’r Trallwng ger yr A483. Mae gwasanaeth bws yn cysylltu’r Drenewydd, Aber-miwl, Aberriw a’r Trallwng. Mae gorsafoedd rheilffordd y brif linell yn y Drenewydd a’r Trallwng

I gael gwybod mwy 

Ewch i wefan Crwydro Canolbarth Cymru a Bannau Brycheiniog i gael gwybodaeth am yr hyn sydd i’w weld a’r cyfleusterau ar hyd y llwybr, ac i lawrlwytho’r daflen am y llwybr. 

Llwybr 6 – Llwybr Hanes Llangollen, Gororau’r Gogledd 

Llangollen CanalMae’r llwybr hwn, sy’n hawdd ei ddilyn ag arwyddion da, yn mynd â chi ar daith gylch hanesyddol hynod ddiddorol. Cewch gerdded wrth eich pwysau ar hyd glannau coediog Camlas Llangollen a gweld rhaeadr grom ryfeddol Thomas Telford. Cewch fwynhau tawelwch Abaty Glyn y Groes, ac edrych i lawr o uchelfannau Castell Dinas Brân trwy fynd ychydig o ffordd o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.

  • Hyd: 8 milltir
  • Tir: Mae’r llwybr yn amrywio o ran anhawster. Mae rhannau gwastad ar hyd Camlas Llangollen ond gall rhai rhannau fod yn heriol gyda chamfeydd, gatiau mochyn a grisiau serth
  • Addas i: Gerddwyr
  • Dechrau a diwedd: canol tref Llangollen
  • Cyrraedd yno: mae Llangollen ar yr A5

I gael gwybod mwy 

Ewch i wefan Cefn Gwlad Sir Ddinbych i gael gwybodaeth am yr hyn sydd i’w weld a’r cyfleusterau ar hyd y llwybr, ac i lawrlwytho’r daflen am y llwybr. 

Llwybr 7 – O Gonwy i Landudno, y Gogledd 

Safle Treftadaeth y Byd, Castell Conwy o Lwybr Moryd ConwyMae gan y llwybr hwn un o’r cefndiroedd harddaf o unrhyw lwybr ledled y wlad. I’r gogledd, mae Pen y Gogarth yn codi i 679 o droedfeddi ac ar ei glogwyni mae llawer o rywogaethau o adar y môr yn nythu. I’r de-orllewin, ar draws Bae Conwy, mae copaon enfawr Eryri fel pe baen nhw’n codi’n syth o’r dŵr. Ac wrth ichi ddynesu at Gonwy, yn llenwi’r tir blaen mae marina’r dref a chastell godidog Edward I yn swatio wrth draed y bryniau trawiadol. Mae’r daith yn dilyn rhan o Llwybr Arfordir Cymru ac yn mynd heibio i lawer o adeiladau hanesyddol.

  • Hyd: 4 milltir
  • Tir: Mae Sustrans yn disgrifio’r llwybr hwn fel un hawdd. Cymysg yw’r wyneb ac mae’r daith i ffwrdd o draffig gan fwyaf, gyda rhan fer ar y ffordd yng nghanol tref Conwy
  • Addas i: Gerddwyr a beicwyr
  • Dechrau a diwedd: Conwy
  • Cyrraedd yno: Mae gorsafoedd rheilffordd yn Llandudno a Chonwy

I gael gwybod mwy 

Ewch i wefan Sustrans i gael gwybodaeth am yr hyn sydd i’w weld a’r cyfleusterau ar hyd y llwybr, ac i lawrlwytho’r daflen am y llwybr. 

Llwybr 8 – Llwybr Branwen, Parc Cenedlaethol Eryri 

Harlech CastleMae llawer o bobl yn credu mai Parc Cenedlaethol o fynyddoedd yw Eryri, ond mae mwy nag 20 milltir o lan môr hardd yn y Parc, a rhai traethau godidog hefyd. Taith gerdded gylchol yw hon, sy’n cynnwys Castell Harlech, tref Harlech, y twyni tywod a glan y môr ar hyd Llwybr Arfordir Cymru

  • Hyd: 2 filltir
  • Tir: Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n disgrifio’r llwybr hwn fel taith hamdden gymedrol. Nid oes camfeydd arno ac mae’n dilyn ffyrdd tarmac gyda rhywfaint o dir serth ger y castell
  • Addas i: Gerddwyr
  • Dechrau a diwedd: Maes parcio Castell Harlech
  • Cyrraedd yno: mae gorsaf reilffordd gan Harlech ac mae ar yr A496

I gael gwybod mwy 

Ewch i wefan Parc Cenedlaethol Eryri i gael gwybodaeth am yr hyn sydd i’w weld a’r cyfleusterau ar hyd y llwybr, ac i lawrlwytho’r daflen am y llwybr. 

Llwybr 9 – Llwybr Aberteifi i Gilgerran, y Gorllewin 

Castell CilgerranMae’r daith gerdded hon â mynediad hawdd yn mynd â chi trwy Warchodfa Natur Cymru, ceunentydd mewn coedwigoedd ac ar hyd Corsydd Teifi gan ddilyn hen linell reilffordd y ‘Cardi Bach’. Mae gan Aberteifi a Chilgerran gestyll o’r 12fed ganrif mewn lleoliadau trawiadol. Gallwch ymestyn y daith i ddilyn rhan o Llwybr Arfordir Cymru.

  • Hyd: 5.6 milltir
  • Tir: Mae’r llwybr hwn i gerddwyr sy’n gymedrol heini ond mae’r rhan gyntaf o’r dechrau wrth Ganolfan Natur Cymru’n addas i gadeiriau olwyn. Nid oes unrhyw dir garw ond gall rhai o’r traciau fod yn lleidiog ac mae rhai llethrau serth a chamfeydd
  • Addas i: Gerddwyr. Mae rhai rhannau’n addas i feicwyr (gweler y daflen ar wefan Cycle Pembrokeshire i gael y manylion)
  • Dechrau a diwedd: Aberteifi
  • Cyrraedd yno: Gellir cyrraedd Aberteifi ar hyd yr A487

I gael gwybod mwy 

Ewch i wefan Cycle Pembrokeshire i gael gwybodaeth am yr hyn sydd i’w weld a’r cyfleusterau ar hyd y llwybr, ac i lawrlwytho’r daflen am y llwybr. 

Llwybr 10 – Taith Gerdded Dinas Tyddewi, y Gorllewin 

St Davids cathedralMae’r daith gerdded hon yn dilyn perimedr y ddinas leiaf yng Nghymru, gan gynnwys eglwys gadeiriol Tyddewi. Gallwch hefyd ddilyn taith gerdded 2.4 milltir Dwyrain Porth Clais i Ffynnon a Chapel Non ac ar hyd rhan Llwybr Arfordir Penfro o Llwybr Arfordir Cymru i’r harbwr cysgodol.

  • Hyd: 3 milltir (estyniad dewisol o 2.4 milltir arall)
  • Tir: Llwybrau palmantog a naturiol, lonydd tawel, llwybrau ceffylau a 0.9 milltir (1.5 km) o waith cerdded ar isffyrdd. Mae Llwybr Arfordir Cymru rhwng Capel Non a Phorth Clais ar dir garw a chynghorir gwisgo esgidiau da sy’n cynnal y fferau. Mae bryn cymedrol i fyny at Gapel Non a bryn serth gyda rhywfaint o risiau i lawr i Borth Clais. Nid oes unrhyw gamfeydd na gatiau rhwng Capel Non a Phorth Clais. Mae gât mochyn ychydig i’r dwyrain o’r rhan hon
  • Addas i: Gerddwyr
  • Dechrau a diwedd: Eglwys Gadeiriol Tyddewi
  • Cyrraedd yno: Gellir cyrraedd Tyddewi ar hyd yr A487. Ewch i wefan Lonydd Glas Sir Benfro i gael gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus

I gael gwybod mwy 

Ewch i wefan Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i gael gwybodaeth am yr hyn sydd i’w weld a’r cyfleusterau ar hyd y llwybr, ac i lawrlwytho’r taflenni am y llwybr.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.