Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Coetiroedd Cymunedol Talyllychau, wrth ymyl Llanymddyfri

View from Talley woods

Beth sydd yma

Cŵn
Llwybr cerdded

Trosolwg

Coetiroedd a choedwigoedd yn ardal Llanymddyfri

Mae’r coetiroedd a’r coedwigoedd o gwmpas tref Llanymddyfri’n amrywio’n aruthrol o ran cymeriad ond i gyd yn cynnig amrywiaeth o safleoedd picnic a theithiau cerdded byr i ymwelwyr.

Plannwyd llawer ohonynt yn wreiddiol gan y Comisiwn Coedwigaeth i gynhyrchu pren.

Erbyn heddiw mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gofalu amdanynt i bobl gael eu mwynhau ac i fywyd gwyllt fyw ynddynt, a hefyd i gynhyrchu pren o hyd.

Lleolir y coetiroedd a’r coedwigoedd hyn yn ardal Llanymddyfri:

  • Coedwig Cwm Rhaeadr – coetir anghysbell a safle picnic yng Nghwm Tywi Uchaf
  • Coedwig Irfon – lle gallwch gerdded ar hyd llwybr hawdd a gwastad ar lan Afon Irfon
  • Coetiroedd Cymunedol Talyllychau - mae’r coed yma’n ffurfio cefndir o wyrdd i hen adfeilion Abaty Talyllychau (gweler isod)
  • Coedwig Caeo – coetir sy’n lledu allan i'r ucheldir fry uwchben pentref Caeo
  • Coedwig Cilgwyn – coetir bychan gyda chymysgedd hyfryd o goed
  • Coed Pen Arthur – coedwig fawr gyda chymysgedd dymunol o goed conwydd a choed llydanddail brodorol

Coetiroedd Cymunedol Talyllychau

Tyfodd bentref hanesyddol Talyllychau o gwmpas yr abaty a sefydlwyd yn y 12fed ganrif ym mlaen y llynnoedd.

Codwyd eglwys y pentref sy’n dyddio o’r 17eg ganrif yn defnyddio cerrig o’r abaty ac mae gan lawer o’r hen dai yn y pentref gysylltiadau â’r abaty, gan gynnwys Kings Court, Y Plas a Talley House.

Mae nifer o lwybrau cerdded o'r pentref i Goed Talyllychau, ac i gyd yn cynnwys rhannau sy’n dringo’n serth.

Cau a dargyfeirio

Sylwch:

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Achosion presennol o gau a dargyfeirio

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar hyd pob un o’r llwybrau. Maent i gyd yn cychwyn o’r gilfan barcio wrth y fynedfa i'r coed, yr ochr draw i faes parcio’r abaty.

Llwybr Golygfaol Talyllychau

1 ¾ milltir, 2.9 km

Mae’r llwybr hwn yn dringo’n serth i fyny gallt llawn eithin ar hyd llwybr igam-ogam.  Mae’n rhoi golygfeydd o bentref Talyllychau a Dyffryn Cothi. Mae'r llwybr yn un anodd ond mae mainc ar ben yr allt er mwyn gallu mwynhau’r olygfa cyn dod i lawr eto.

Llwybr Coed Mawr

1 ¼ milltir, 1.4 km

Mae hwn yn dro arall lle mae angen dringo’n serth. Mae’n pasio drwy hen “ardd goed” sy’n gartref i goed derw, ynn, pinwydd a sbriws anferth. Mae’r llwybr yn cyrraedd mainc gyda golygfa cyn dychwelyd i lawr yr allt.

Llwybr Cwm yr Efail

2 milltir, 4 km

Mae’r tro hwn yn dringo’n serth drwy hen “ardd goed” i gyrraedd mainc gyda golygfa cyn dychwelyd i lawr gallt llawn eithin.

Sut i gyrraedd yma

Mae Coetiroedd Cymunedol Talyllychau 12 milltir i'r gorllewin o Lanymddyfri, bron yn syth oddi ar y B4302.

Y cyfeirnod grid OS yw SN 631 329.

Gallwch barcio mewn cilfan barcio wrth y fynedfa i’r coed.

Cyfarwyddiadau

O’r A482 rhwng Llambed a Llanymddyfri cymrwch y B4302 i Dalyllychau a Llandeilo. Wrth gyrraedd Talyllychau dilynwch yr arwyddion am Abaty Talyllychau gan barcio’n sensitif yn y gilfan barcio wrth y fynedfa i’r coed, ychydig yr ochr draw i faes parcio’r abaty.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae’r orsaf drên agosaf yn Llandeilo. Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru

Darganfod mwy

Manylion cyswllt

Ffôn: 0300 065 3000

E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.