Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu, ger Ystradgynlais

Rhostir agored gyda golygfeydd godidog a system eang o ogofâu

Beth sydd yma

Cŵn
Mynediad i’r mynydd
Natur
Parcio
Llwybr cerdded

Trosolwg

Mae Gwarchodfa Natur Ogof Ffynnon Ddu yn ardal fawr o rostir yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sydd â golygfeydd gwych o’r ardal.

Mae’r warchodfa’n adnabyddus am ei system ogofâu, sydd ymhlith y systemau mwyaf yn Ewrop ac yn boblogaidd iawn gydag ogofwyr profiadol.

Yn y gorffennol roedd yma chwarel, gweithfa frics, a phentref llewyrchus. Mae’r olion diwydiannol i’w gweld o gwmpas y warchodfa.

Nodweddion daearyddol difyr

Mae priddoedd y warchodfa yn amrywio o ganlyniad i newidiadau yn y graig islaw, ac mae amrywiaeth o blanhigion gwahanol yn tyfu yno.

Mae ardaloedd bychan o balmant calchfaen, gyda holltau dwfn nodweddiadol a grëwyd gan y tywydd.

Mae cyfoeth o blanhigion llysieuol yn y glaswelltir calch.

Ar yr ardaloedd o grit melinfaen ceir rhostir grug.

Cafodd yr ogofâu eu darganfod gan Glwb Ogofâu De Cymru yn 1946. Mae ganddynt nifer o nodweddion diddorol gan gynnwys nentydd tanddaearol, stalagmidau, a stalactidau.

Bywyd gwyllt uwchlaw ac islaw’r ddaear

Mae’r creaduriaid difyrraf yn byw yn yr ogofâu

Mae rhai, megis y cramenogion sydd yn y dŵr, yn unigryw i ogofâu.

Mae eraill, gan gynnwys gwyfynod fel yr ‘Herald moth ’ a’r brychan rhafnwydd, yn treulio’r gaeaf yn yr ogofâu a’r hafau yn yr awyr iach

Mae ystlumod yn gaeafgysgu yn yr ogofâu, ac mae brithyll gwynion yn y byw yn y nant danddaearol

Mae’r rhostir yn gynefin gwych ar gyfer adar sy’n nythu- cadwch lygad barcud am yr ehedydd a thinwen y garn yn yr haf.

Amrywiaeth eang o blanhigion

Mae grug, llus, mwsoglau, a chen yn gorchuddio ardaloedd eang o’r creigiau asidig sydd yn y warchodfa. Bydd y grug ar ei orau wrth i’r haf droi’n hydref.

Yn y glaswelltir ceir ambell i rywogaeth lai cyffredin hefyd, megis edafeddog y mynydd, crwynllys yr hydref, a thormaen llydandroed.

Mae ambell i rywogaeth arbennig yn tyfu yn holltau’r palmant calchfaen, yn ogystal â rhai sy’n fwy cyffredin. Yn eu plith ceir:

  • Clafrllys bach
  • Lili’r dyffrynnoedd
  • Blodau’r gwynt
  • Tafod yr hydd
  • Duegredynen goesddu
  • Y goesgoch

Yr adeg gorau i weld y rhan fwyaf o’r planhigion calchfaen yma yw dechrau’r Haf.

Hanes diwydiannol

Heddiw mae’n anodd dychmygu Penwyllt fel pentref prysur, ond roedd yno orsaf drenau, swyddfa bost, a thafarn ar un cyfnod.

Gweithwyr y gwaith brics, a’r chwarel a’r odynau calch oedd yn byw yn y pentref.

Dilynodd hanes Penwyllt lanw a thrai’r chwyldro diwydiannol yn Ne Cymru, ac wedi blynyddoedd hir o ddirywio cafodd y pentref ei adael yn wag.

Yn awr, yr unig bethau sydd ar ôl yw rhes o dai teras ger y maes parcio, adfeilion y gwaith brics a’r chwarel, ac ambell lwybr tram.

Y gweithwyr a’u teuluoedd fyddai wedi byw yn y tai. Erbyn hyn maent yn gartref i Glwb Ogofâu De Cymru, gan gynnig llety i aelodau ac i ymwelwyr.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Phenwyllt, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Gwarchodfa natur genedlaethol

Mae Ogof Ffynnon Ddu yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Ymweld â’r warchodfa

Cerdded

Mae sawl llwybr cerdded yn arwain o’r maes parcio tua’r warchodfa.

Mae’r llwybrau’n hawdd i’w dilyn, a gallwch gael blas o’r warchodfa trwy gerdded ychydig ohonynt i weld y golygfeydd.

Os ydych yn bwriadu cerdded ymhellach, rydym yn argymell i chi ddod a map gyda chi.

Mae’r llwybrau’n cynnwys ambell i allt serth, camfeydd, a giatiau mochyn.

Arhoswch ar y llwybr os gwelwch yn dda, gall y tir fod yn arw ac anwastad, ac mae tyllau dyfnion yn britho’r warchodfa.

Mae llwybr gwastad, haws, yn dilyn llwybr hen reilffordd hyd ymyl y warchodfa.

Ffordd y Bannau

Mae Ffordd y Bannau’n croesi’r warchodfa.

Mae’r llwybr eiconig hwn yn 95 milltir (152km) o hyd, ac yn ymestyn o un pen y Parc Cenedlaethol i’r llall.

Ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am ragor o wybodaeth.

Ymweld â’r ogofâu

Dim ond ogofwyr gyda’r offer priodol a thrwydded gan Glwb Ogofâu De Cymru all fentro’r ogofâu.

Bydd mynedfa’r ogofâu dan glo ar adegau eraill.

Cewch ragor o fanylion ar wefan Clwb Ogofâu De Cymru, mae yno luniau a ffilmiau o’r ogofâu.

Canolfan Genedlaethol Dan-yr-Ogof

Pe hoffech chi ymweld ag ogof yn yr ardal, mae Canolfan Dan-yr-Ogof yn yr un dyffryn. MAe’r fynedfa oddi ar yr A4067.

Atyniad ymwelwyr preifat yw hwn a bydd angen talu ffi mynediad.

Mae rhan o Dan-yr-ogof yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Rhagor o wybodaeth am Ganolfan Dan-yr-ogof

Parc Gwledig Craig-y-Nos

Mae cyfleusterau ymwelwyr, gan gynnwys toiledau a chaffi, i’w cael ym mharc gwledig cyfagos Craig-y-Nos.

Mae’r ardd Fictorianaidd yma’n cael ei chadw gan y Parc Cenedlaethol, ac yn cynnwys 40 erw o goedwigoedd, llynnoedd, lawntiau, ac afonydd.

Mae mynedfa’r maes parcio ar yr A4067, ac ar agor bob dydd (Oni bai am Ddydd Nadolig).

Rhagor o wybodaeth am Barc Gwledig Craig-y-Nos.

Cau a dargyfeirio

Sylwch:

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Cyrraedd yno

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu chwe milltir i’r gogledd o Ystradgynlais.

SN 866 154 yw’r cyfeirnod grid OS.

Mae parcio’n rhad ac am ddim.

Cyfeiriadau

Dilynwch yr A4067 o Ystradgynlais tua Abercraf a Phen-y-cae. Ewch trwy Pen-y-cae gan droi i’r dde tuag at Penwyllt. Dilynwch yr arwyddion ymwelwyr brown a gwyn dros yr afon, ac i’r chwith ar y gyffordd. Ewch heibio’r hen chwarel, a dilyn y ffordd tua’r maes parcio.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Am fanylion ynglŷn â thrafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.traveline.cymru

Darganfod mwy

Manylion cyswllt

Ffôn: 0300 065 3000

E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.