Gwaun Hepste, ger Merthyr Tudful

Beth sydd yma

Croeso

Mae Gwaun Hepste wedi'i leoli ym Mro’r Sgydau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Y maes parcio poblogaidd hwn yw'r man cychwyn ar gyfer Llwybr Pedair Sgwd - mae'r llwybr cylchol enwog i geunentydd y coetir lle mae pedair o raeadrau mwyaf ysblennydd yr ardal i'w gweld.

Mae'r prif lwybr yn llydan ac yn hawdd i'w ddilyn ond mae’r llwybrau nôl-a-mlaen dewisol sy’n arwain at olygfeydd o'r sgydau, yn cynnwys grisiau serth, sy’n arw a llithrig.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Pedair Sgwd

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 5¼ milltir/8.4 ciilomedr
  • Amser: 3-4 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r prif lwybr cylchol wedi'i arwyddo â saethau coch ac mae'n dilyn llwybrau sy'n llydan fel arfer, a cheir wyneb carreg gan amlaf. Ceir gwaith dringo ysgafn ac ychydig iawn o risiau sydd yma. Mae’r sgwd cyntaf yn cymryd tua 40 munud. Mae’r llwybrau sy’n cysylltu’r sgydau wedi’u eu harwyddo â saethau gwyrdd. Mae'r rhain yn llwybrau nôl-a-mlaen dewisol sy’n arwain at olygfeydd o'r sgydau, ac maent yn dilyn llwybrau cul, heb wyneb a llithrig mewn mannau, gyda llawer o risiau. Mae’r rhain yn arbennig o arw a chreigiog ger y sgydau. Gwisgwch esgidiau cryf, a byddwch yn ymwybodol o gwympiadau serth heb ffensys i’ch gwarchod, yn enwedig pan fyddwch yn tynnu lluniau. Peidiwch â chael eich temtio i nofio yn y dŵr – mae’n gallu bod yn oer ac mae’n llifo’n gyflym.

Llwybr cylchol rhyfeddol drwy geunentydd coediog sy’n cynnwys y pedair sgwd fwyaf poblogaidd.

Llwybrau eraill

Llwybr Pedair Sgwd (o faes parcio Cwm Porth)

Gallwch hefyd ymuno â Llwybr Pedair Sgwd o’r maes parcio yng Nghwm Porth (Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans SN928 124) sy’n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae hwn yn faes parcio talu ac arddangos ac mae pwynt gwybodaeth a thoiledau yma hefyd.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Llwybr Sgwd yr Eira (o faes parcio Craig y Ddinas)

Mae llwybr uniongyrchol, rhywfaint yn fyrrach i raeadr Sgwd yr Eira o'n maes parcio Craig y Ddinas.

Cadwch yn ddiogel ym Mro’r Sgydau

Mae Gwaun Hepste mewn rhan boblogaidd o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a elwir yn Fro’r Sgydau.

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad â Bro’r Sgydau.

Mae damweiniau difrifol yn digwydd yma i ymwelwyr a chafwyd nifer o farwolaethau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

  • Rydych chi mewn perygl o ddioddef anafiadau a all newid bywyd neu o gael eich lladd os byddwch yn penderfynu mynd i mewn i’r dŵr.
  • Peidiwch â chael eich temtio i neidio i bwll dŵr neu i gerdded i mewn i afon i nofio gan fod y dŵr yn oer, yn ddwfn ac yn llifo’n gryf a cheir creigiau llithrig, cerhyntau cryfion a pheryglon cudd.
  • Peidiwch byth â chymryd rhan mewn gweithgareddau fel cerdded ceunentydd neu hafnau a sgramblo oni bai eich bod wedi cael hyfforddiant neu oni bai eich bod yn cael eich goruchwylio gan weithredwr cofrestredig a thrwyddedig.
  • Gwisgwch esgidiau cerdded.
  • Byddwch yn eithriadol o ofalus yn yml dŵr a chadwch at y llwybrau sydd wedi’u harwyddo gan eu bod yn cynnig y ffordd fwyaf diogel – mae mentro y tu hwnt i’r llwybr sydd wedi’i arwyddo yn hynod o beryglus.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Darganfod Bro’r Sgydau

Does yna unlle arall yng Nghymru gyda’r fath gyfoeth ac amrywiaeth o raeadrau mewn ardal mor fach. Yma, yn yr ardal a elwir yn Fro’r Sgydau, mae afonydd Mellte, Hepste, Pyrddin, Nedd Fechan a Sychryd yn ymdroelli i lawr ceunentydd dwfn, coediog, dros gyfres o raeadrau dramatig, cyn ymuno i ffurfio Afon Nedd.

P’un a ydych yn chwilio am antur am ddiwrnod cyfan neu dro am awr yn unig, dylech allu dod o hyd i lwybr addas i chi.

Lleolir Bro’r Sgydau yn bennaf o fewn coetir a reolir ar y cyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Parc Cenedlaethol. Gyda’n gilydd, rydym yn rheoli’r llwybrau ac yn eich helpu chi i archwilio a mwynhau’r ardal unigryw hon.

Ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ganfod rhagor o leoedd i ymweld â hwy ym Mro’r Sgydau.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Gwaun Hepste 10 milltir i'r gogledd-orllewin o Ferthyr Tudful.

Mae Gwaun Hepste yn Sir Powys.

Map Arolwg Ordnans

Mae Gwaun Hepste ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 12.

Cyfeirnod grid yr AO yw SN 935 123.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch yr A465 o Ferthyr Tudful tuag at Gastell-nedd.

Ar ôl 5 milltir, cymerwch yr A4059 ar y gylchfan tuag at Aberhonddu.

Ar ôl 3¼ milltir, trowch i'r chwith tuag at Ystradfellte.

Cadwch i'r chwith ar y ddwy gyffordd nesaf, gan ddilyn arwyddion rhaeadr i faes parcio Gwaun Hepste sydd ar y chwith.

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Aberdâr.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae maes parcio Gwaun Hepste yn faes parcio talu ac arddangos sy’n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Codir tâl parcio:

  • £5 y car
  • £7 y bws mini

Mae’r peiriant tocynnau yn derbyn cardiau yn unig.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Ddwyrain Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf