Fforest Fawr, ger Caerffili

Beth sydd yma

Croeso

Mae coetir Fforest Fawr wedi’i leoli ger Castell Coch, sef un o gestyll harddaf Cymru.

Mae tri llwybr cerdded o faes parcio Fforest Fawr, yn cynnwys llwybr cerfluniau i deuluoedd, ac un llwybr arall o faes parcio Castell Coch.

Ar hyd y llwybrau cerdded, fe sylwch ar rai tomenni a phantiau - safleoedd mwyngloddio haearn a'u tomenni rwbel cyfagos yw'r rhain, sydd bellach wedi’u gorchuddio â llystyfiant.

Coetir cymysg yw Fforest Fawr ac mae ynddi garpedi o glychau'r gog, blodau’r gwynt a garlleg gwyllt yn y gwanwyn.

Mae’r coetir yn cael ei ddefnyddio'n aml fel lleoliad ffilmio i gynyrchiadau sy’n amrywio o ddramâu hanesyddol Cymreig i raglenni teledu i blant, gyda Merlin a Sherlock yn eu plith.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Darganfod Cerfluniau

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1¼ milltir/2 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae llwybr hwn yn dechrau o faes parcio Fforest Fawr.

Darganfyddwch rai o drigolion anarferol Fforest Fawr ar hyd y llwybr hwn i deuluoedd.

Ym mhen pellaf y llwybr mwynhewch olygfa banoramig o'r dy¬ryn a'r bryniau cyfagos.

Llwybr Ogof y Tair Arth

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1½ milltir/2.6 cilmedr
  • Amser: 1¼ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Gallwch ddechrau’r llwybr hwn o faes parcio Fforest Fawr neu maes parcio Castell Coch.

Gallwch weld mwynglawdd dramatig Ogof y Tair Arth - fe'i gelwir hefyd yn Dair Bwa.

Mae’n rhy beryglus mentro’n agos - gallwch weld o'r ffens.

Llwybr Syr Henry

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2½ milltir/3.9 cilomedr
  • Amser: 2 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r daith gerdded gylchol hon yn cysylltu meysydd parcio Castell Coch a Fforest Fawr, a gellir cychwyn o’r naill faes parcio neu’r llall.

Peidiwch â cholli hen waith cloddio haearn Ogof y Tair Arth - mae’n rhy beryglus mentro’n agos ond gallwch weld o'r ffens.

Ffordd Burges

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 1 milltir/1.8 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r daith gylchol hon yn cysylltu meysydd parcio Castell Coch a Fforest Fawr.

Mae Ffordd Burges (cymedrol, 1 milltir/1.8 cilomedr) yn daith cerdded o faes parcio Castell Coch o amgylch pen gorllewinol Fforest Fawr.

Taith Taf

Mae Fforest Fawr ar hyd Taith Taf.

Mae Taith Taf yn ymestyn am 55 milltir rhwng Caerdydd ac Aberhonddu ac yn dilyn cyfuniad o lwybrau ar hyd glan yr afon, llwybrau rheilffordd a ffyrdd coedwig.

Mae Taith Taf yn rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, sydd yng ngofal Sustrans.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Sustrans.

Castell Coch

Mae Castell Coch yn codi'n ddramatig o goedwig ffawydd Fforest Fawr.

Wedi'i adeiladu ar adfeilion castell canoloesol, mae Castell Coch yn enghrai¬t wych o’r Adfywiad Gothig Fictoraidd.

Mae gan y castell olygfa drawiadol o Geunant Taf ac mae'n dirnod amlwg o’r A470.

Mae’r castell yn cael ei reoli gan Cadw - sylwch mai ar gyfer ymwelwyr sydd wedi talu’n unig y mae'r cyfleusterau toiled a'r ystafell de.

I gael rhagor o wybodaeth am ymweld at Gastell Coch, ewch i wefan Cadw.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Fforest Fawr 4½ milltir i’r de orllewin o Gaerffili.

Mae'r safle hon yn ymestyn ar draws ffiniau sir Caerdydd a Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Map Arolwg Ordnans

Mae Fforest Fawr ar fap Arolwg Ordnans (AR) 151.

Y cyfeirnod grid OS yw ST 142 839.

Cyfarwyddiadau

O Gaerffili, dilynwch yr arwyddion i’r A470 i gyfeiriad Caerdydd.

Dilynwch y A470 am tua 1½ milltir cyn cymryd y ffordd ymadael â’r arwydd Castell Coch.

Dilynwch yr arwyddion i Gastell Coch.

Ewch heibio mynedfa’r castell ac mae maes parcio Fforest Fawr ar y chwith tua 1¼ milltir wedyn.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Ffynnon Taf.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Ddwyrain Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf