Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch

Beth sydd yma

Mae gwyriadau ar y llwybrau hyn:

 

  • Lwybr Darganfod Gwiwerod
  • Llwybr Rhedeg y Gymanwlad

Dilynwch yr holl gyfarwyddiadau ac arwyddion dargyfeirio ar y safle.

Croeso

Cafodd y twyni, y corsydd arfordirol, y glannau tywodlyd a chreigiog Niwbwrch eu ffurfio dros filoedd o flynyddoedd gan y gwynt a'r môr ac maent yn gartref i amrywiaeth syfrdanol o blanhigion ac anifeiliaid.

Cwningar Niwbwrch yw un o'r systemau twyni mwyaf a’r harddaf ym Mhrydain, ac ym 1955 Cwningar Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn oedd y mannau arfordirol cyntaf yng Nghymru i gael eu dynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol.

Plannwyd y Coed pinwydd Corsica sy'n rhan o Goedwig Niwbwrch rhwng 1947 a 1965 er mwyn darparu pren ac i sefydlogi'r twyni tywod symudol. Heddiw mae'n ardal boblogaidd ar gyfer hamddena ac yn gartref i fywyd gwyllt, yn enwedig gwiwerod coch.

Mae Moryd Cefni a'r pyllau y tu ôl i arglawdd Pen Cob yn noddfa i adar a bywyd gwyllt arall ac oddi yma ceir golygfeydd ar draws y foryd dros ehangder o gors arfordirol, tywod agored a môr.

Gallwch gerdded yn unrhyw fan ar y traethau ac ar y rhwydwaith o lwybrau troed neu gallwch ddilyn un o'n llwybrau cerdded sydd wedi’u cyfeirbwyntio.

Mae yna hefyd llwybrau beicio, llwybr ffitrwydd a dau lwybr rhedeg.

Llwybrau cerdded

Mae llwybrau cerdded yn cychwyn o sawl un o'n meysydd parcio yn Niwbwrch.

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Saint, Tywod a Môr

  • Dechrau: Maes parcio’r Traeth
  • Pellter: 4½ milltir/7.1 cilomedr
  • Amser: 3 awr
  • Lefel: Cymedrol

Nodwch, os gwelwch yn dda:

  • gall Ynys Llanddwyn gael ei hamgylchynu’n llwyr gan y môr ar lanw uchel
  • dylech wirio amserau’r llanw cyn cychwyn ar hyd y llwybr hwn. Gwiriwch amserau’r llanw ar wefan y BBC
  • gall yr ynys fod yn agored iawn a dylech fod yn barod am dywydd gwael

Antur deuluol yw hon sy’n arwain i’r goedwig, y twyni a'r ynys.

Mae’r Llwybr ‘Saint, Tywod a Môr’ yn rhoi cipolwg ar nodweddion daearegol a diwylliannol unigryw Niwbwrch, ynghyd â’i hanes a chwedl Santes Dwynwen.

Gallwch ymlwybro draw i ynys Ynys Llanddwyn ar lanw isel.

Llwybr sain

Dewch i ddysgu mwy am hanes lleol a chwedl Santes Dwynwen ar ein llwybr sain MP3 ‘Saint, Tywod a Môr.’

Rhennir y llwybr sain yn adrannau sy'n cyfateb i byst wedi'u rhifo ar hyd y llwybr cerdded.

Llwybr Pos Natur/Anifeiliaid

  • Dechrau: Maes parcio’r Traeth
  • Pellter: 1 filltir/1.5 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Lefel: Hawdd
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr yn dechrau o faes parcio'r traeth ac yn parhau ar rannau o ffordd garegog y goedwig a rhai llwybrau tywodlyd ac anwastad cyn dychwelyd i'r maes parcio.

Codwch daflen a gadewch i'r plant arwain y ffordd wrth i chi chwilio am yr anifeiliaid a'r cliwiau ar hyd y llwybr.

Neu ewch i chwilio am yr ‘arwyddion diflannu’ ar hyd y llwybr, i gael ffeithiau diddorol am y bywyd gwyllt sy’n byw yn yr ardal.

Llwybr Treftadaeth y Tywysogion a Phinwydd

  • Dechrau: Maes parcio Cwningar
  • Pellter: 3¼ milltir/5.3 cilomedr
  • Amser: 2 awr
  • Lefel: Cymedrol

Mwynhewch y daith gylchol hon trwy goedwig, twyni a thir fferm. 

Llwybr Golygfa’r Llyn

  • Dechrau: Maes parcio Llyn Parc Mawr
  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ¼ milltir /0.3 cilomedr
  • Amser: 15 muned
  • Dringo: Gwastad

Gwybodaeth am y llwybr: Llwybr gwastad 1.5 medr  o led sydd â wyneb dda a lleoedd pasio a mannau gorffwys bob 50 metr.

Dilynwch y llwybr ar draws y safle picnic i'r olygfan dros lyn cudd y  goedwig.

Yno fe gewch wybodaeth am yr adar sy'n byw yma, neu arhoswch wrth un o'r byrddau picnic a cheisiwch weld y gwiwerod coch yn y coed.

Llwybr Darganfod Gwiwerod

  • Dechrau: Maes parcio Llyn Parc Mawr
  • Pellter: 1½ milltir/2.4 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Lefel: Hawdd

Ar y llwybr fe welwch Sara'r wiwer goch a'i ffrindiau ac fe ddewch i wybod mwy am eu bywyd yn y goedwig o'n paneli gwybodaeth.

Ar y ffordd fe welwch rai golygfeydd gwych o'r llyn bywyd gwyllt a'r goedwig binwydd.

Llwybr Trem yr Aber

  • Dechrau: Maes parcio Pen Cob
  • Pellter: 1¾ filltir/2.9 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Lefel: Hawdd

Cerddwch trwy'r goedwig ac ar hyd aber Afon Cefni gyda'i amrywiaeth fawr o fywyd gwyllt.

O'r ddwy wylfa sydd gennym, ceisiwch weld y gweilch di-ddal yn hela am bysgod yn yr haf, neu edrychwch ar hyd y morfa heli am ei hamrywiaeth o blanhigion e.e. y gorsen gyffredin, glaswellt brodorol talaf Prydain a ddefnyddid ar gyfer gosod toi gwellt.

Llwybr y Twyni

  • Dechrau: Maes parcio Braint neu Faes parcio Llyn Rhos Ddu
  • Pellter: 3½ milltir/5.6 cilomedr
  • Amser: 2-3 awr
  • Lefel: Cymedrol

Mwynhewch y golygfeydd o'r Cwningar, draw tua'r mynyddoedd ac ar hyd yr arfordir ynghyd â'r arddangosfa anhygoel o flodau gwyllt.

Llwybrau beicio

Mae ein dau lwybr beicio yn ddelfrydol ar gyfer y teulu i gyd.

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Her Natur Bikequest

  • Dechrau: Maes parcio’r Traeth
  • Pellter: 7.8 cilomedr
  • Lefel: Ffordd goedwig a thebyg

Codwch becyn gweithgareddau teulu o’r dosbarthwr yn y maes parcio.

Yna dilynwch y nodwyr llwybr a chwiliwch am y paneli gwybodaeth er mwyn ateb cwestiynau'r her natur.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae’r llwybr hwn yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.

Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.

Rydym wedi cynhyrchu ffilm i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallai fod cyn i chi ymweld.

I wylio’r ffilm ewch i’r dudalen Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol

Llwybr Beicio Corsica

  • Dechrau: Maes parcio’r Traeth
  • Pellter: 9.9 cilomedr
  • Lefel: Ffordd goedwig a thebyg

Mae'r llwybr cylchol hwn sydd wedi'i gyfeirbwyntio yn dilyn ffyrdd y goedwig yn bennaf a cheir yma olygfeydd o'r aber.

Mae'n ymweld ag ardaloedd o goedwig gymysg, o goed pinwydd aeddfed i goedwigoedd helyg gwlyb, ac mae’n mynd heibio i byllau, creigiau anarferol a blodau gwyllt.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae’r llwybr hwn yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.

Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.

Rydym wedi cynhyrchu ffilm i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallai fod cyn i chi ymweld.

I wylio’r ffilm ewch i’r dudalen Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol

Llwybrau rhedeg

Mae dau lwybr rhedeg wedi cael eu harwyddo o faes parcio’r traeth yn Niwbwrch.

Mae’r llwybr rhedeg 5km, sy’n seiliedig ar lwybr y Parkrun wythnosol poblogaidd, yn gyflwyniad ardderchog i redeg.

Mae Llwybr Rhedeg y Gymanwlad yn dilyn rhan o lwybr ras swyddogol pencampwriaeth redeg a gynhaliwyd yma yn 2011.

Llwybr Rhedeg 5km

  • Dechrau: Maes parcio’r Traeth
  • Pellter: 3 milltir/5 cilomeder
  • Dringo: 33 medr
  • Amser: 30 muned-1 awr
  • Gradd: Hawdd
  • Cyflwyniad hawdd i redeg  llwybrau wedi’i seilio ar lwybr poblogaid ‘Parkrun’ sy’n digwydd yn wythnosol.

Dilynwch yr arwyddbyst glas trwy’r goedwig ar gymysgedd o yrdd coedwig ag arwyneb da a llwybrau cul ar dywod rhydd lle ceir rhywfaint o wreiddiau coedamlwg. Ni cheir grisiau na giatiau ar hyd y ordd.

Mwynhewch olygfeydd y goedwig wrth eich pwysau neu ewch ati i wella eich cyflymder a’ch gwytnwch cororol o amgylch y llwybr.

Llwybr Rhedeg y Gymanwlad

  • Dechrau: Maes parcio’r Traeth
  • Pellter: 8½ milltir/13.6 cilomedr
  • Amser rhedeg: 1 awr
  • Amser cerdded: 3 awr
  • Lefel: Caled

Yn 2011, daeth Pencampwriaeth Rhedeg Mynyddoedd a Phellter Eitha’r Gymanwlad i Ogledd Cymru a chynhaliwyd y ras llwybr Pellter Eithaf 55 cilomedr yn Niwbwrch. Heddiw gallwch redeg (neu gerdded!) rhan o lwybr y ras swyddogol.

Mae'r llwybr rhedeg sydd wedi'i gyfeirbwyntio o faes parcio'r traeth, yn arwain trwy'r goedwig heddychlon, twyni helaeth y Gwningar ac ymlaen i ynys Ynys Llanddwyn.

Mae'r llwybr yn cynnwys ffyrdd caregog y goedwig, llwybrau cul ar dywod gyda gwreiddiau coed agored, tywod a graean rhydd, glaswelltir anwastad a thir creigiog.

‘Parkrun’ Coedwig Niwbwrch

Mae ‘Parkruns’ yn ddigwyddiadau cymunedol wythnosol a rhad ac am ddim sy’n cael eu cynnal ym mhob cwr o’r byd.

Cynhelir Parkrun Coedwig Niwbwrch bob dydd Sadwrn am 9 o’r gloch y bore.

Mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim ond mae rhaid cofrestru cyn dod draw.

Mae Parkrun Coedwig Niwbwrch yn cael ei drefnu gan wirfoddolwyr ac mae croeso i bawb beth bynnag fyddwch yn ei wneud – cerdded, loncian, rhedeg, gwirfoddoli neu wylio.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Parkrun Coedwig Niwbwrch, gan gynnwys sut i gofrestru a sut i wirfoddoli yn y digwyddiad, ewch i wefan Parkrun.

Llwybr Ffitrwydd

  • Dechrau: Maes parcio Traeth Cwningar
  • Pellter: 1¾ milltir/2.7 cilomedr
  • Amser: 2 awr
  • Lefel: Hawdd

Amcan y Llwybr Ffitrwydd yw gwella eich ffitrwydd a'ch iechyd tra'ch bod chi'n mwynhau harddwch y goedwig.

Mae 11 o orsafoedd ymarfer corff, ac mae dwy ohonynt yn hygyrch i gadair olwyn.

Mae gan bob gorsaf ymarfer banel cyfarwyddiadau a mainc i orffwys arni gerllaw.

Cyfeiriannu

Profwch eich sgiliau darllen mapiau trwy gyfeiriannu rhwng y pyst marcio pren (a elwir yn "rheolyddion" gan gyfeiriadurwyr) ar un o'r tri chwrs cyfeiriannu parhaol yng Nghoedwig Niwbwrch.

Mae'r cyrsiau'n addas ar gyfer dechreuwyr sydd yn deall map a chyfeirianwyr profiadol a chi sydd i benderfynu pa mor fuan rydych chi'n cwblhau cwrs.

Mae'r cyrsiau wedi'u graddio i safonau Ffederasiwn Cyfeiriannu Prydain ac fe'u lluniwyd gan Gyfeirianwyr Eryri.

Mae pob un o’r tri llwybr yn cychwyn i'r gogledd-ddwyrain o'r brif ardal barcio ac yn gorffen yn y llannerch i'r de-ddwyrain o'r brif ardal barcio.

Cwrs Oren

  • Pellter: 2.5 cilomedr
  • Lefel: canolig

Mae'r cwrs Oren yn ganolig o ran anhawster ac mae'n addas ar gyfer dechreuwyr sy'n gallu darllen map.

Mae 9 rheolydd i ymweld â nhw ar y cwrs.

Cwrs gwyrdd

  • Pellter: 5 cilomedr
  • Lefel: called iawn

Mae'r cwrs Gwyrdd yn gofyn am gyfeiriannu anodd yn dechnegol ac mae'n addas ar gyfer cyfeirianwyr profiadol.

Mae 12 rheolydd i ymweld â nhw ar y cwrs.

Cwrs glas

  • Pellter: 6.7 cilomedr
  • Lefel: called iawn

Mae'r cwrs Glas yn gofyn am gyfeiriannu technegol ac mae'n addas ar gyfer cyfeirianwyr profiadol.

Mae 18 rheolydd i ymweld â nhw ar y cwrs.

Mwy o wybodaeth

  • Lawrlwythwch y mapiau, cyfarwyddiadau ac atebion oddi wrth waelod y dudalen hon
  • Prynwch fersiwn maint A3 o'r map, wedi'i argraffu ar bapur gwrth-ddŵr ar raddfa 1: 7,500, gyda chyfarwyddiadau a atebion o'r tollfwth wrth y fynedfa i'r goedwig (dim ond ar agor Ddydd Mercher 9yb i 11yb) neu e-bostiwch ein tîm cwsmeriaid

Marchogaeth

Mae angen i chi ymgeisio am drwydded i farchogaeth ceffylau yng Nghoedwig Niwbwrch.

Mae’n costio £10. 

Bydd angen y canlynol:

  • enw’r person sy’n marchogaeth
  • tystiolaeth o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn dangos y canlynol:
    • eich enw
    • dyddiadau’r yswiriant
    • cyfanswm yr yswiriant (isafswm o £5 miliwn)


Llwybrau marchogaeth

""

Parciwch eich bocs ceffylau ym maes parcio Pen Cob. Dyma ddechrau’r llwybrau marchogaeth.

Mae’r ddau lwybr ceffyl yn darganfod ardal hardd ac unigryw Coedwig Niwbwrch.

Mae’r ddau lwybr yn eich arwain drwy gymysgedd o binwydd hen ac ifanc ar hyd llwybrau hawdd, ac yn rhoi’r cyfle ichi ymlacio a mwynhau harddwch y goedwig a’i bywyd
gwyllt.

Mae'r llwybrau yn dilyn rhan o’r hen lôn bost i Ynys Llanddwyn.

Llywbr y Postmon

  • Dechrau: Maes parcio Pen Cob
  • Pellter: 6½ milltir/10.5 cilomedr
  • Amser: 2-4 awr
  • Lefel: Hawdd
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybrau yn dilyn ffyrdd cerrig y goedwig yn bennaf a llwybrau tywod lle bydd gwreiddiau amlwg mewn mannau.

Mwynhewch ardal hardd ac unigryw Coedwig Niwbwrch ar gefn ceffyl.

Llwybr y Coetir

  • Dechrau: Maes parcio Pen Cob
  • Pellter: 7¼ milltir/11.8 cilomedr
  • Amser: 2-4 awrr
  • Lefel: Hawdd
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybrau yn dilyn ffyrdd cerrig y goedwig yn bennaf a llwybrau tywod lle bydd gwreiddiau amlwg mewn mannau.

Darganfod golygfeydd, bywyd gwyllt a threftadaeth ar hyd y llwybr.

Beth sydd i'w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae twyni Cwningar a thraeth Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol sydd hefyd yn cynnwys ardaloedd mawr o forfa heli a gwastadeddau tywod arfordirol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Y twyni

Mae'r twyni uchel a'r pantiau twyni sy’n gorlifo’n dymhorol (llaciau yw’r new arnynt) yn y fan hon yn ganlyniad i'r dirwedd sy'n datblygu’n barhaus ac a luniwyd gan filoedd o flynyddoedd o stormydd, llanwau a natur.

Mae'r twyni tywod yn gymysgedd gyfoethog o bantiau llaith, glaswelltir a choetir twyni ifanc o helyg a bedw.

Mae’r twyni a arferai symud, wedi ‘sefydlogi’ yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac wedi’u gorchuddio â phlanhigion o ganlyniad i lygredd aer, patrymau tywydd newidiol a llai o gwningod ac anifeiliaid pori.

Golyga hyn ostyngiad enfawr yn y tywod noeth, cynefin sy'n hanfodol i oroesiad rhai o'n planhigion a'n pryfed prinnaf, fel llysiau’r afu petalog a gwenynen durio’r gwanwyn.

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, rydym wedi dechrau ail-greu ardaloedd o dywod noeth ar hyd y morlin gan ddefnyddio peiriannau mawrion ac mae llawer o’r twyni’n cael eu pori â merlod a gwartheg er mwyn cadw llystyfiant y twyni yn fyr ac yn gyfoethog o flodau gwyllt. Arferai cwningod wneud hyn nes bod mycsomatosis yn peri i'w niferoedd ostwng.

Ynys Llanddwyn

Mae Ynys Llanddwyn yn fan sy'n gyforiog mewn treftadaeth, llên gwerin, daeareg a bywyd gwyllt.

Mae'r creigiau ar yr ynys lanw hon ymhlith yr hynaf yng Nghymru - cadwch olwg am y brigiadau nodedig o lafa gobennydd sydd ar y traeth.

Beth i'w weld yn yr haf

Yn ystod misoedd yr haf mae’r twyni wedi’u gorchuddio gan filoedd o flodau lliwgar ac yn eu plith ceir tegeirianau prin ac maen nhw’n fwrlwm o bryfetach ac adar.

Gwrandewch am gân yr ehedydd yn uchel uwchlaw’r warchodfa a thrydar y llwydfronnau, clochdar y cerrig a’r llinosiaid yn y twyni a'r coetir agored.

Beth i'w weld yn yr hydref a'r gaeaf

Yn ystod yr hydref a dechrau'r gaeaf mae’r pibydd coesgoch a'r corgwtiad yn ymuno â’r adar gwyllt mudol e.e. gwyddau Brent, hwyaden yr eithin a’r chwiwell ar y morfa heli a'r aber.

Mae adar fel yr hwyaid llostfain, chwiwellod, corhwyaid a’r cornchwiglod, sy’n dod yma i ddianc rhag gaeafau llymach yr Arctig, yn ymweld â'r pyllau y tu ôl i arglawdd y Cob. 

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Gwiwerod coch

Llyn Parc Mawr yw un o'r lleoedd gorau yn Niwbwrch i weld un o'n mamaliaid prinnaf, y wiwer goch.

Erbyn canol y 1990au roedd gwiwerod coch bron wedi diflannu o'r goedwig ond fe'u hailgyflwynwyd yn 2004 o Sw Mynydd Cymru.

Rydym yn rheoli'r goedwig gan roi ystyriaeth iddyn nhw ac i’r bywyd gwyllt arall – mae gwiwerod coch yn hoff o’r gymysgedd o goed pinwydd a’r rhywogaethau eraill rydym yn eu tyfu yma er mwyn darparu bwyd a lloches iddyn nhw.

Rhowch gynnig ar ein Taith Gerdded ‘Llwybr y Wiwer Goch’ sydd wedi’i chyfeirnodi o faes parcio Llyn Parc Mawr ac ymwelwch â'n golygfan ar lan y llyn i brofi naws yr ardal unigryw hon a'i bywyd gwyllt.

Chwedl Santes Dwynwen

Mae Ynys Llanddwyn yn gartref i adfeilion eglwys hynafol sydd wedi'i chysegru i Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru.

Ystyr Llanddwyn yw ‘eglwys Santes Dwynwen’ ac mae stori Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru, yn gysylltiedig â’r ynys.

Roedd Dwynwen yn ferch i frenin o'r 5ed ganrif. Dywedir iddi gilio i Landdwyn ar ôl syrthio mewn cariad ac fe sefydlodd glostir crefyddol yma.

Dros y blynyddoedd, daeth yr ynys hardd hon yn gyrchfan boblogaidd i bererinion a heddiw mae pobl ledled Cymru yn dathlu Dydd Santes Dwynwen ar 25 Ionawr.

Gallwch ddysgu mwy am chwedl Dwynwen ar ein llwybr sain y gallwch ei lawrlwytho i'w ddefnyddio ar y llwybr cerdded ‘Saint, Tywod a Môr’.

Llwybr Arfordir Cymru

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd trwy Niwbwrch.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn darparu llwybr cerdded parhaus o amgylch arfordir Cymru.

Ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru i ddarganfod mwy.

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Llyn Parc Mawr yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Mae Niwbwrch yn goedwig weithredol - bydd rhai ardaloedd ar gau er diogelwch pan fydd coed yn cael eu cwympo neu bren yn cael ei symud felly dilynwch bob arwyddion rhybudd.
  • Byddwch yn ymwybodol o fwd/tywod meddal sy’n suddo a pheidiwch â mynd allan i’r foryd – mae’r llanw yn gallu eich ynysu’n gyflym.
  • Gall Ynys Llanddwyn fod yn agored iawn ac mewn llanw uchel gall gael ei hamgylchynu gan ddŵr.
  • Byddwch yn barod am dywydd gwael a gwiriwch amseroedd y llanw.
  • Peidiwch â chffy­wrdd ag unrhyw weddillion milwrol – gallai ff­rwydro! Rhowch wybod i’r Heddlu am unrhyw bethau amheus drwy ­ffonio 999.
  • Peidiwch â phalu tyllau neu dwneli yn y twyni tywod - mae tywod yn gallu dymchwel a’ch mygu chi.
  • Nid oes gwasanaeth achub bywyd ar y traeth yma.
  • Peidiwch â bwydo na mynd at dda byw.
  • Dim gwersylla - mae meysydd gwersylla swyddogol gerllaw.
  • Dim tanau agored.
  • Gwelir y wybodaeth am gyfyngiadau cŵn tymhorol ar y dudalen we hon ac ar y panel gwybodaeth ym maes parcio’r Traeth.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Gwybodaeth hygyrchedd

Cyfleusterau hygyrchedd

  • parcio am ddim i ddeiliaid Bathodyn Glas
  • toiledau hygyrch ym maes parcio'r Traeth
  • dwy o’r gorsafoedd ymarfer corff ar y Llwybr Ffitrwydd o fewn cyrraedd cadair olwyn
  • Llwybr Golygfa’r Llyn (llwybr hygyrch o faes parcio Llyn Parc Mawr)

Llwybrau yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol

Mae Llwybr Her Natur Bikequest a Llwybr Beic Corsica yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.

Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.

Rydym wedi cynhyrchu ffilmiau i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallent fod cyn i chi ymweld.

I wylio’r ffilmiau ewch i’r dudalen Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol

Mynediad dros y twyni tywod ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn

Gall pobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn groesi’r twyni tywod ar Mobi-Mat i'w galluogi i gael gwell golygfeydd o'r traeth a'r arfordir.

Mae'r Mobi-Mat wedi'i leoli wrth ymyl maes parcio'r Traeth, ger yr ardal wybodaeth.

Mae'r Mobi-Mat wedi'i wneud o blastig wedi'i ailgylchu ac mae ei wyneb yn athraidd a fydd yn helpu i atal tywod rhag casglu arno. Gellir ei ailosod yn y dyfodol i addasu i unrhyw newidiadau naturiol yn y tywod symudol sy'n ffurfio'r system twyni tywod yn Niwbwrch.

Mynediad i'r traeth ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn

Gellir llogi cadair olwyn sy'n addas i'w defnyddio ar y traeth yn rhad ac am ddim o faes parcio'r Traeth.

Darperir cadair olwyn y traeth mewn partneriaeth ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn.

Rhaid archebu'r gadair olwyn ymlaen llaw drwy ffonio Wardeiniaid Niwbwrch ar 07816 110188 (o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9am tan 5pm).

Cyfyngiadau cŵn tymhorol

Mae llawer o lwybrau yn y goedwig ac ardaloedd eang o'r traeth lie croesewir cwn drwy gydol y flwyddyn.

Sylwer y cyfyngiadau tymhorol hyn isod.

Ceir panel gwybodaeth a map ym maes parcio’r Traeth sy’n dangos ymhle mae’r cyfyngiadau hyn yn weithredol.

Ynys Llanddwyn (1 Ebrill tan 1 Medi)

  • cadwch gwn ar dennyn byr
  • cadwch at y llwybrau sydd wedi'u marcio i helpu i warchod adar sy'n nythu ar lawr

Traeth Baner Las (1 Mai tan 30 Medi)

  • dim cŵn

Ymweliadau addysgiadol

Nid ydym yn trefnu ymweliadau ar gyfer ysgolion na sefydliadau addysg eraill i Niwbwrch.

Os dymunwch drefnu ymweliad addysgol hunandywysedig, gallwn neilltuo lle parcio ar gyfer eich bws mini neu eich bws.

Bydd angen ichi lenwi ffurflen asesu risg a darparu manylion eraill cyn eich ymweliad.

Cysylltwch â ni bythefnos o leiaf cyn eich ymweliad drwy e-bostio Permissions.NorthWest@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Amseroedd agor

Darllenwch yr wybodaeth ar frig y dudalen hon am newidiadau.

Toiledau

Mae'r toiledau ym maes parcio'r Traeth ar agor un arferol:

  • 8am tan 6pm yn yr haf (BST)
  • 8.30am tan 4pm yn y gaeaf (GMT)

Lluniaeth

Mae fan hufen iâ a fan arlwyo ym maes parcio'r Traeth ar yr amserau hyn:

  • 11am tan 4pm bob penwythnos (1 Ebrill a 30 Medi)
  • 11am tan 4pm bob dydd (gwyliau haf yr ysgol)

Nodwch, os gwelwch yn dda, bod yr amserau hyn yn amodol ar y tywyd.​

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Coedwig Niwbwrch a'r Warchodfa Natur Genedlaethol wedi’u lleoli hanner milltir i'r de o bentref Niwbwrch ar Ynys Môn oddi ar yr A4080.

Mae yn Sir Fôn.

Mae ar fap 263 yr Arolwg Ordnans (AO).

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae'r gorsafoedd trên mawr agosaf ym Mangor a Chaergybi.

Mae arosfan trên, ar gais a heb ei staffio, ar gael ym Modorgan, sydd tua phedair milltir o bentref Niwbwrch.

I gael manylion am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch ffordd A55 o Fangor i gyfeiriad Caergybi.

Croeswch Bont Britannia i Ynys Môn a chymryd ffordd A4080 i bentref Niwbwrch.

Trowch i’r chwith, gan ddilyn yr arwyddion ‘Ynys Llanddwyn’ brown a gwyn, a byddwch yn cyrraedd ein meysydd parcio a’n tollborth.

Parcio

Mae saith maes parcio:

  • ar gyfer Coedwig Niwbwrch, Ynys Llanddwyn a’r traeth, defnyddiwch feysydd parcio’r Traeth, Airman neu Gwningar (costau parcio)
  • ar gyfer Cwningar Niwbwrch, defnyddiwch faes parcio Braint neu faes parcio Llyn Rhos Ddu (parcio am ddim)
  • ar gyfer aber Afon Cefni a Phen Cob, defnyddiwch faes parcio Pen Cob neu faes parcio Llyn Parc Mawr (parcio am ddim)

Lawrlwythwch fap o’r meysydd parcio

Costau parcio (meysydd parcio’r Traeth, Airman a Chwningar yn unig)

Ger mynedfa ac allanfa meysydd parcio’r Traeth, Airman a Chwningar mae clwyd a chamera Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig (ANPR).

Bydd y camera ANPR yn darllen rhif cofrestru eich cerbyd pan fyddwch yn cyrraedd a byddwch yn talu’r tâl parcio ger clwyd yr allanfa wrth adael.

Mae’r tâl yn seiliedig ar faint o amser yr ydych wedi parcio:

  • £2 am y 2 awr gyntaf
  • 40c am bob 20 munud ychwanegol
  • Uchafswm y tâl fesul diwrnod: £7

Talwch â cherdyn neu ag arian parod ger clwyd yr allanfa wrth ichi yrru allan o’r maes parcio.

Sylwer

  • Os ydych yn gollwng rhywun, mae gennych 20 munud o’r amser y daethoch i mewn i’r maes parcio tan yr amser y cyrhaeddwch glwyd yr allanfa cyn y codir tâl arnoch. 
  • Mae'r camera ANPR yn gweithredu 24 awr y dydd ac mae clwyd allanfa’r maes parcio i lawr bob amser.
  • Rhwng 4pm a 9am y diwrnod canlynol rhoddir clwyd uchder i atal cerbydau dros 2 fetr o ran uchder rhag mynd i mewn i'r maes parcio.
  • Ni chaniateir bysus na charafanau.
  • Ni chaniateir parcio dros nos.
  • Mae maes parcio’r Traeth yn llenwi’n gyflym ar adegau prysuraf y flwyddyn, yn arbennig ar ddiwrnodau heulog, a gall fod llawer iawn o draffig, felly byddwch yn amyneddgar.
  • Os byddwch yn defnyddio cerdyn i dalu am barcio, bydd eich cyfriflen banc yn dangos Coed y Brenin ar gyfer y taliad hwn.

Tocyn tymor

Mae tocyn tymor yn eich galluogi i barcio ym meysydd parcio’r Traeth, Airman a Chwningar.

Mae’r tocyn tymor hefyd yn eich galluogi i barcio yng nghanolfan ymwelwyr Coed y Brenin.

Cost tocyn tymor yw £70 y flwyddyn ac mae’n gymwys ar gyfer dau gerbyd sydd wedi’u cofrestru yn yr un cyfeiriad.

Mae tocynnau tymor yn ddilys am 12 mis o ddyddiad eu prynu.

Bydd rhif cofrestru eich cerbyd yn cael ei ychwanegu at y system fel y bydd y camera ANPR yn ei adnabod yn awtomatig – nid oes angen i chi arddangos eich tocyn tymor pan fyddwch yn ymweld.

Mae tair ffordd i brynu tocyn tymor:

  • talu â cherdyn yn y ciosg wrth glwyd y fynedfa ym maes parcio Niwbwrch (ciosg ar agor Dydd Mercher 9yb tan 11yb a Dydd Sadwrn 9yb tan 11yb)
  • talu â cherdyn yng Nghanolfan Ymwelwyr Coed y Brenin (ar agor 10yb-4yp bob dydd)
  • gofyn am ffurflen gais gan coedybrenin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a byddwn yn cysylltu â chi i gymryd eich taliad dros y ffôn

Sylwer:

  • os byddwch yn gwneud cais yn bersonol, cyflwynwch lyfr log y cerbyd (dogfen V5).
  • os byddwch y gwneud cais drwy e-bost, atodwch neu sganiwch lun o’r llyfr log (dogfen V5).
  • mae’r tocyn tymor yn ddilys ar gyfer dau gerbyd os ydynt wedi’u cofrestru i’r un cyfeiriad, darparwch y llyfr log (dogfen V5) ar gyfer y ddau gerbyd.
  • Os byddwch yn defnyddio cerdyn i dalu am barcio, bydd eich cyfriflen banc yn dangos Coed y Brenin ar gyfer y taliad hwn.
  • nad yw lleoedd parcio’n cael eu dyrannu neu eu neilltuo ar gyfer deiliaid tocynnau tymor (mae Niwbwrch a Choed y Brenin yn gyrchfannau poblogaidd, yn enwedig yn ystod gwyliau’r ysgol, ac efallai y bydd y meysydd parcio’n llenwi’n gyflym ac yn gynnar yn y dydd).

Parcio am ddim i ddeiliaid Bathodyn Glas

Caiff deiliaid Bathodyn Glas barcio’n ddi-dâl.

Parciwch yn un o’r lleoedd ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas ac arddangoswch eich Bathodyn Glas yn eich cerbyd.

I ymadael â’r safle yn ddi-dâl, sganiwch god bar eich Bathodyn Glas ar yr orsaf talu wrth yr allanfa.

Mae intercom wrth glwyd yr allanfa rhag ofn y cewch unrhyw broblemau wrth adael.

Parcio am ddim i drigolion lleol

Gall trigolion Niwbwrch, Dwyran, Llangaffo a Malltraeth wneud cais am bàs preswylydd i gael parcio am ddim yn ein meysydd parcio yn Niwbwrch.

Gall trigolion eraill Ynys Môn brynu tocyn tymor ar gyfer ein meysydd parcio yn Niwbwrch am bris gostyngol o £35 (gweler yr adran tocynnau tymor ar y dudalen hon).

Sut i wneud cais am bàs preswylydd

Mae angen i chi gofrestru eich cerbyd gyda ni i sicrhau bod y camera yn ei adnabod ac yn caniatáu i chi adael y maes parcio heb dalu.

I gofrestru eich cerbyd:

  • E-bostiwch coedybrenin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk ac atodwch sgan neu ffotograff o'ch llyfr log cerbyd (V5C) neu ewch â'ch llyfr log i'r ciosg wrth fynedfa'r maes parcio (yr amseroedd agor presennol yw dydd Mercher 9am - 11am a dydd Sadwrn 9am - 11am).
  • Cofiwch adnewyddu eich pàs preswylydd yn flynyddol.

Sut i adnewyddu eich pàs preswylydd

Mae pasys preswylwyr yn ddilys am 12 mis o'r dyddiad cyhoeddi.

Mae'n rhaid i chi gysylltu â ni i adnewyddu eich pàs preswylydd bob blwyddyn.

I adnewyddu eich pàs preswylydd:

  • E-bostiwch coedybrenin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk ac atodwch sgan neu ffotograff o'ch llyfr log cerbyd (V5C) neu ewch â'ch llyfr log i'r ciosg wrth fynedfa'r maes parcio (yr amseroedd agor presennol yw dydd Mercher 9am - 11am a dydd Sadwrn 9am - 11am).

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn Niwbwrch.

Bydd staff yn bresennol yn y tollborth ym maes parcio’r traeth rhwng 9am a 11am ar ddydd Mercher ac ar dydd Sadwrn yn unig. Gall yr aelod o staff drefnu tocynnau tymor a darparu taflenni a mapiau cyfeiriannu.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf