Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Gweithgareddau eraill yn Niwbwrch

Cadwch yn heini ar ein Llwybr Ffitrwydd, mwynhewch redeg trwy’r goedwig neu chwiliwch am wiwerod coch enwog Niwbwrch

Three young girls playing on the monkey bars

Mae’r gweithgareddau hyn yn dechrau o sawl un o’n meysydd parcio yn Niwbwrch.

Edrychwch ar y map ar ein tudalen cynllunio’ch ymweliad.

Llwybr Ffitrwydd

Dechrau: Maes parcio Cwningar

Pellter: 1½ milltir/2.7km

Amser: 2 awr

Anhawster: Hawdd

Dyluniwyd y Llwybr Ffitrwydd i wella’ch ffitrwydd ac iechyd wrth i chi fwynhau harddwch y goedwig. Mae 11 gorsaf ymarfer corff, ac mae dwy ohonynt yn hygyrch i gadair olwyn. Mae gan bob gorsaf ymarfer corff banel cyfarwyddyd a mainc gorffwys gerllaw.

Llwybr Rhedeg y Gymanwlad

Dechrau: Maes parcio’r traeth

Pellter: 6¾ milltir/11km

Amser rhedeg: 1 awr

Amser cerdded: 3 awr

Anhawster: Caled

Yn 2011, daeth Pencampwriaeth Rhedeg Mynyddoedd a Phellter Eitha’r Gymanwlad i Ogledd Cymru a chynhaliwyd ras llwybr Pellter Eithaf 55km yn Niwbwrch. Heddiw, gallwch redeg (neu gerdded!) llwybr y ras swyddogol sydd wedi’i gyfeirbwyntio o faes parcio’r traeth Mae’n mynd trwy’r goedwig heddychlon, twyni eang y Gwningar ac ymlaen i Ynys Llanddwyn. Mae’r llwybr yn cynnwys ffyrdd coedwig caregog, llwybrau cul ar dywod gyda gwreiddiau coed agored, tywod a graean rhydd, glaswelltir anwastad a thir creigiog.

Sylwch:

  • Ni fydd modd cyrraedd na gadael Ynys Llanddwyn adeg llanw uchel
  • Archwiliwch amserau’r llanw cyn dechrau ar y llwybr hwn. Gwelwch amserau'r llanw ar wefan BBC
  • Gall yr ynys fod yn agored iawn a dylech baratoi at dywydd gwael

Gweld gwiwerod

Dechrau: Maes parcio Llyn Parc Mawr

Llyn Parc Mawr yw un o’r lleoliadau gorau yn Niwbwrch i weld un o’n mamaliaid prinnaf, y wiwer goch.

Erbyn canol y 1990au, roedden nhw bron â diflannu o’r goedwig ond cawsant eu hailgyflwyno yn 2004 o Sw Mynydd Cymru.

Rheolwn y goedwig gan eu hystyried nhw a bywyd gwyllt arall - mae gwiwerod coch yn hoffi’r cymysgedd o binwydd a rhywogaethau coed eraill y tyfwn fan hyn er mwyn darparu bwyd a chysgod iddynt.

Rhowch gynnig ar ein Llwybr y Wiwer Goch wedi’i chyfeirbwyntio ac ewch i’n golygfan wrth ochr y llyn i gael teimlad am yr ardal unigryw hon a’i bywyd gwyllt.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.